Yr Aur



Cyfres ddrama 17 mlwydd oed ydi uchafbwynt y Sianel i mi’n bersonol ar hyn o bryd. Iawn, mae yna gyfresi newydd diweddarach ymlaen hefyd. Mae’n braf gweld Dai yn ôl bob nos Lun, ond dwi ddim mor frwd dros ddau o sêr adloniant ysgafn y Sianel. Mi wn fod siopau’r stryd fawr eisoes yn bla o drimins a geriach 2-am-bris-1, ac y bydd Tap Dancing Turkeys – a’n gwaredo - yn helpu Arglwydd Faer Caerdydd i gynnau goleuadau Dolig y brifddinas heno, ond dwi DDIM yn barod am fabi diweddaraf Stifyn Parri, Seren Nadolig Rhos eto. Dewch yn ôl ata i ddiwedd y mis. A tydi sbloets fawr y tenor perocsid o Bontsenni ddim yn apelio chwaith, er bod ganddo filoedd o ffans parod ar gyfer Rhydian’s Got Talent S4C.

Ond yn ôl at y gyfres ddrama 17 mlwydd oed ’na. Ydy, mae hynt a helynt perchnogion busnesau bach Pengelli (Ffilmiau’r Nant) yn ôl yn slot aur y sianel. Tapio’r ddwy bennod wythnosol amdani, felly, a’u gwylio ar bnawn Sul gwlyb a thywyll. Er fy mod i’n cofio gwylio’r cyfresi cyntaf o 1994 ymlaen, ni allaf yn fy myw gofio’r wythfed gyfres a’r olaf a ddaeth i ben yn 2001. Efallai fod y diddordeb wedi pylu erbyn hynny, a llawer o’r cymeriadau gwreiddiol wedi gadael fel sy’n anorfod mewn cyfres hirhoedlog. A sôn am gymeriadau. Dyna chi Carla (Nerys Lloyd) ddiniwed â rhyw olwg gariadus-freuddwydiol arni’n barhaus a’r anfarwol Triawd y Garej. Mi fuasai Pobol y Cwm yn elwa’n aruthrol ar hiwmor naturiol Edwin, Harri a John Albert ar hyn o bryd. Er gwaethaf ambell elfen sydd bron yn perthyn i oes arall - car Montego, y cyfeiriad at gwmni Manweb, logos WDA yn y cefndir a barf Bryn Fôn - mae’n cynnwys elfennau oesol iawn hefyd, yn enwedig wrth i Gwyn Lloyd ddweud “pa mor anodd ydi hi ar fusnesa bach y dyddia’ yma” yn ei araith agoriadol fel pennaeth newydd y stad. Ac roedd rhyw dinc o dristwch wrth ddarllen y glodrestr ar y diwedd, gyda’r diweddar Angharad Jones yn un o’r awduron, a chwmni mawr Barcud gynt yn darparu’r arbenigedd technegol.

Gan wibio’n ôl i’r presennol, braf gweld fod yr hen bêl-droediwr â’r mwng euraidd o Wrecsam yn dal i godi helynt. Do, fe bechodd Robbie Savage dros 300 o selogion Strictly Come Dancing ar ôl siglo’i dîn a’i du blaen yn or-rhywiol mewn perfformiad “vulgar, deplorable and completely unnecessary” o’r paso doble. Roedd y lluniau o Bale a Ramsay yn gwisgo lifrai Jac yr Undeb yr Olympics yn fwy ffiaidd o beth uffarn i mi na paso doble Savage.