Iaith

Rydyn ni mewn coedwig ddu bitsh. Gwelwn ddyn tal main barfog yn camu i mewn i’w bicyp, yn tanio’r injan a chynnau’r lampau-ben-to sy’n pwysleisio’r niwl a’r glaw smwc. Heliwr falle? Ar ôl gyrru fel mellten drwy’r llaid a’r llaca, daw i stop. Â’i wynt yn ei ddwrn, mae’r dieithryn yn gadael y fan ac yn rhedeg dan olau fflachlamp drwy’r ddrysfa o goed. Clywn sŵn dŵr gerllaw. Mae’r fflachlamp yn taro ar wyneb merch ifanc gwlyb domen a chrynedig, ar ddibyn rhaeadr. A fydd yn neidio am ei bywyd, neu’n cael ei hyrddio i’w bedd creigiog?

Yna, torrwn i flonden effro yn y gwely. Mae’n clywed sŵn traed y tu allan ac yn lapio carthen amdani i weld pwy sydd yno. Aiff allan at lan y dŵr, ble mae dyn oedrannus yn sefyll ger hen gwch rhwyfo yn y bore bach. Deallwn mai ei thad ydi o (Gog), a bod hithau (Hwntw) wedi dychwelyd adref am ryw reswm neu’i gilydd. Mae’r ffôn lôn yn canu, a’r ferch yn ei ateb. Ymddiheura wrth ei thad - gwaith yn galw! A'r gwaith hwnnw yw ymchwilio i gorff merch ifanc sydd newydd olchi i’r lan nepell o draphont ysblennydd. A dyna gyflwyno Craith a DS Cadi John (Sian Reese Williams) a’i llaw dde DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) i gynulleidfaoedd nos Sul S4C ac i’r byd ar betws yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae’r fersiwn “ddwyieithog” Hidden eisoes wedi’i gwerthu i BBC Four. Amser a ddengys a fydd gan America, Awstralia Gwlad Pwyl a Sweden ddiddordeb, fel llwyddiant ysgubol Hinterland.

Does 'na ddim gwreiddioldeb i'r credits agoriadol, ac yn union fel Y Gwyll o’i blaen, mae’r sinematograffi yn elwa i’r eithaf ar brydferthwch yr ardal - ond y tro hwn, gogoniannau Eryri, glannau’r Fenai a’r Coleg ar y Bryn nid moelni maith yr Elenydd, arfordir Borth a’r Coleg ger y Lli sy'n serenu. Mae DS Cadi John, fel Mathias yntau, yn dychwelyd i’w chynefin am reswm arbennig (y tro hwn, dyletswyddau teuluol gyda thad (Ian Saynor) ar wely angau) ond yn wahanol i’r 'tec o Geredigion, mae yna rhywbeth hoffus amdani, mae'n gwenu’n amlach ac yn byw mewn tŷ call. Merc GLA, nid Volvo XC40 yw’r cerbyd o ddewis i nadreddu ar hyd Pen y Pass - esgus arall am awyrluniau epig i blesio Croeso Cymru yn ogystal â sgrechian “prynwch fi!” i ddarlledwyr rhyngwladol. Anghofiwch am y logisteg od ar y naw - fel pam gythraul fyddai Cadi ag Owen yn picied i gaffi eiconig Eric Jones Tremadog ar y ffordd nôl i Fangor ar ôl holi teulu’r ymadawedig yn Llanbêr?! - a mwynhewch wledd i’r llygaid o’ch soffa. Ac mae yna ddigon o fynd yn hon, yn ogystal â’r hen gnoi annifyr ym mhwll eich stumog wrth i chi boeni am dynged y merched unig eraill y down ar eu traws, o’r nyrs i’r fyfyrwraig sy’n creithio (dalld?!) ei hun. Ac fel y soniodd adolygydd Dewi Llwyd ar Fore Sul, does dim prinder rolau blasus i ferched yma - o’r prif gopyn (Victoria Pugh) i’r fwystfiles o fam (Gillian Elisa) mewn chwip o ran sy’n wirioneddol codi ofn ar rywun wrth iddi fflangellu ei mab (Rhodri Meilir) i’r cwt cŵn. Mae hon yn rhagori ar Y Gwyll hefyd trwy ddilyn un achos dros wyth wythnos, yn hytrach na chanolbwyntio ar lofruddiaeth newydd bob pennod, ac felly’n rhoi mwy o gyfle i ddatblygu cymeriadau a’r stori dow-dow.




Ond. Ac mae ’na wastad ‘ond’ toes? Serch cast da (roedd Owen Arwyn yn ysgubol), mae yna lobsgows o acenion mewn cyfres sydd i fod wedi’i gosod ym Môn ac Arfon. Iawn, gallwn gymryd bod y tair chwaer (Sian HW a Nia Roberts o Aberhonddu, a Megan Llŷn o Sarn Mellteyrn) wedi’u magu mewn rhannau gwahanol o Gymru wrth i’w tad symud o swydd i swydd fel Ditectif gynt. Digon teg. Gillian Elisa wedyn, Mrs OTT yn actio gog o fam. Iawn, hyd yma, gan mai ychydig iawn o ddeialog oedd ganddi. Gellir derbyn hefyd fod Bangor, fel dinas prifysgol, yn siŵr o gynnwys cyfran o ddeheuwyr, fel sarjant ifanc y swyddfa y mae DS Owen yn blysio amdani. Un o fois Glantaf ydi Sion Alun Davies, ac eto, dy’n ni fod i gredu mai hogyn Gwynedd ydio o? Nid beirniadaeth ar yr unigolion, ond mae'n dueddol o ferwino'r glust bob hyn a hyn. A dyw hi ddim fel petae'r gogledd yn hesb o ran actorion Cymraeg penigamp. Pam gwneud hyn felly?

Penderfyniadau castio rhyfedd iawn sy’n gwneud i rywun amau’n gryf mai’r farchnad Saesneg a thramor ydi’r brif flaenoriaeth yma, yn lle’r “Cymry bondigrybwyll yn cadw sŵn” am ryw hen fanion fel acenion a naws am le credadwy.  Melltith y cynyrchiadau cefngefn. Pwy gath y gair olaf? S4C, BBC Wales neu Severn Screen?

Efallai nad yw’n gymaint o broblem i actorion Saesneg – gweler y Sgotyn Iain Glen yn actio rhan y ditectif Gwyddelig Jack Taylor, Dominic West o Sheffield  fel Americanwr yn The Wire a The Affair, neu Gillian Anderson yn The Fall. Mae’r Gymraeg ar y llaw arall, yn greadur hollol hollol unigryw, a’r glust yn gallu ’nabod brodor o Lambed neu Lanllechid yn syth bin bron. Eithriadau prin o’r De sy’n gallu gwneud acen y Gogledd-orllewin ag arddeliad – gweler Elis James ar ei orau yn Stand Yp dros y ’Dolig!
 
Falle mai talu’r pwyth maen nhw am yr holl Gogs a feddiannodd Gwmderi dros y degawdau.


Berig iawn y bydd rhaid i mi roi'r gorau i boeni am yr amryfusedd hwn, a jesd mwynhau'r (os dyna'r gair cywir) stori ias a chyffro dros y saith Sul nesaf. Ac mae'n un o 10 uchaf gwefan The Killing Times sy'n dewis a dethol y cyfresi dramâu trosedd gorau yn y DU ar hyn o bryd.