Amser maith yn ôl – ok, rhyw dri degawd yn ôl – roedd gynnon ni don o gyfresi dramâu gwreiddiol ar S4C. Cyfresi triw i’w milltir sgwâr, gyda’r dirwedd a’r dafodiaith leol gystal cymeriadau â’r rhai o gig a gwaed. Dyna chi Pris y Farchnad (1992-96) am deulu o arwerthwyr cefnog yn Sir Gâr, A55 (1994-96) am gwmni cludiant ar wibffordd y Gogledd, Tair Chwaer (1997-99) a gyflwynodd bathos, chwerthin a chaneuon y Gwendraeth i’n sgriniau a Talcen Caled (1999-2005) am deulu o Eifionydd yn baglu byw wedi methdaliad. Heb sôn am llond wardrob Fictoraidd o gyfresi cyfnod wedi’u seilio ar nofelau Daniel Owen, Kate Roberts ac Elena Puw Morgan (Y Wisg Sidan, 1994).
Ers hynny, dramâu trosedd cefn-wrth-gefn ydi ffocws a forte’r Sianel. Thriller seicoleg chwe rhan Y Golau yw’r diweddaraf, am ohebydd (Alexandra Roach) sy’n dychwelyd i’w chynefin am y tro cyntaf ers diflaniad ei ffrind ysgol Ela, wrth i’r sawl a gyhuddwyd o’i lladd, Joe Pritchard, gael ei ryddhau wedi deunaw mlynedd dan glo. A gan na chanfuwyd corff Ela erioed, mae’r fam (Joanna Scanlan, un o ddysgwyr Iaith ar Daith y llynedd) yn dal i obeithio y daw hi adra’ ac yn gadael golau ar y landin byth ers y noson dyngedfennol honno.
Bydd y cymar Saesneg, The Light in the Hall (cynhyrchiad Triongl/Duchess Street) yn ymddangos ar Channel 4 yn ddiweddarach eleni cyn teithio i Ogledd America, Awstralia a Seland Newydd. Os felly, pam cynnwys cymaint o’r iaith fain yn fersiwn S4C? Roedd deg munud cynta’r bennod agoriadol bron yn gyfan gwbl Saesneg, rhwng cyfweliad y bwrdd parôl ar un llaw a chriw o hacs yn trafod y stori dros win ar y llaw arall. Realiti’r Gymru bei-ling, medd rhai, ond leiciwn i wylio drama Gymraeg ar unig sianel Gymraeg yr hen fyd hurt ma. Llywodraeth Cymru, trwy fenter ‘Cymru Greadigol’, sy’n ariannu’r cynhyrchiad. Mewn byd delfrydol, byddan nhw wedi canolbwyntio ar greu fersiwn Gymraeg yn unig, sy’n gwbl realistig o gofio’r ffaith taw Dyffryn Tywi yw’r lleoliad, a gwerthu honno’n rhyngwladol. Draw ar Netflix ar hyn o bryd, mae miliynau ledled y byd yn troi i wylio’r ddrama wleidyddol Borgen, yn yr iaith Ddaneg gydag isdeitlau ar y sgrîn.
Mae Y Golau yn ticio bocsys Croeso Cymru heb os, gydag awyrluniau o ddyffrynnoedd hydrefol, ambell gastell a thref fach ddel Llanemlyn (Llandeilo a Llanymddyfri i chi a fi), ac mae’r arwyddgân yn atgoffa rhywun o’r Gwyll a Craith. Mae’n braf gweld Iwan Rheon yn actio yn ei famiaith eto, ac mae’n sicr yn ennyn chwilfrydedd fel y Joe unsillafog sy’n nerfus ffeindio’i ffordd drwy’r byd mawr unwaith eto. A does dim dwywaith fod Scanlan, brodor o West Kirby a fagwyd yn yr Wyddgrug ac sy’n ymddangos fel Gog yn y ddrama hon, yn portreadu poen y fam i’r dim wrth geisio’i gorau glas i feithrin perthynas â’i merch arall (Annes Elwy) rhwng cynnal cyfarfodydd grŵp dioddefwyr yn ei chartref. Mae yna ddigon o ddirgelwch i’m denu’n ôl, yn enwedig wedi’r chwip o dro annisgwyl ar ddiwedd yr ail bennod.
Ond. Ac mae’n glamp o ‘Ond’. Mae unrhyw gynhyrchiad gwreiddiol ar S4C sy’n cynnwys y teitl swydd “Addasiad Cymraeg ac Ymgynghorydd Iaith” yn y credits clo yn peri cryn ddiflastod i mi.
Mi gawson ni’n difetha yn y nawdegau, do?