Awch am ddrama



Cadwch eich selebrytis sy'n dawnsio neu'n byta trychfilod cyn eu poeri allan i gefn gwlad Sir Conwy. Dramâu ydi niléit i. Ac mae’n sefyllfa reit ddifrifol o’u safbwynt nhw y dyddiau hyn. Dw i’n ei chael hi’n anodd gwylio ein sioeau sebon heb yr ectras na’r agos-atrwydd arferol, ac wedi cael hen lond bol ar deulu’r Parris serch y cyffro cychwynnol o ladd Gary Monk (tybed?) yn Pobol y Cwm. Sut aflwydd mae’r entrepreneuriaid lleol Sara a Dylan yn crafu byw mewn fflat garbord uwchben y caffi gyda’i chyn-ŵr a’i wejen newydd, pam mae pawb wedi anghofio gwisgo masgiau bellach, a sut ddiawl gafodd Dai a Diane ffleit i Oz â’r byd a’r betws yn sownd adra?

Roedd saga stelciwr Siân yn mynd drwy’ mhen i, tan i actio rhagorol a stori ‘dod allan’ Kylie achub Rownd a Rownd.

Dw i hyd yn oed wedi traflyncu cyfres gyfan The Crown ar Netflix, wrth geisio penderfynu ai campwaith neu cariacture oedd portread Gillian ‘Scully’ Anderson o Magi Thatshyr.

Diolch i’r nefoedd am y Llychlynwyr, fel arfer. Daeth DNA i ben gyda diweddglo torcalonnus, ar ôl ein tywys ar ras wyllt o Ddenmarc i Ffrainc a Gwlad Pwyl (cofio hynna? y gallu i deithio’n ffri o le i le), a chymeriadau da sy’n sgrechian am ail gyfres. Cyfres o Wlad yr Iâ sydd wedi cymryd ei lle yn slot Sadyrnol BBC Four. Ac er na wnaiff Valhalla Murders fyth ennill gwobrau am wreiddioldeb, gyda stori’r hen gartra plant anghynnes yn atgoffa rhywun yn syth o gyfres gyntaf Y Gwyll, mae’r golygfeydd mynych o’r eira mawr yn plesio fama ac mae gweld a chlywed yr Islandeg cwbl unigryw yn cyfareddu rhywun. Ac yn gwneud i mi hiraethu am y cawr mwyn blewog hwnnw Andri (Ólafur Darri Ólafsson) a’i gydweithiwr mari gwilymaidd, Hinrika (Ilmur Kristjánsdóttir) yn Trapped, fydd yn dychwelyd am drydedd gyfres ar Netflix y flwyddyn nesa. 

Lle fuasan ni heb y gwasanaeth tanysgrifio hwnnw ’dwch?