O'r Gwendraeth i Eryri - via Heddlu Dyfed Powys

 


“Llew, Barbarian, Llanelli, twenty three caps. Cymro. Cymro i’r carn”.

 

Cymro go iawn hefyd, nid Cymro diwrnod gêm ryngwladol yn unig nac un sydd ond yn arddel yr iaith pan mae meic Radio Cymru dan ei drwyn neu gamerâu S4C arno. Sôn ydw i wrth gwrs am Ray Gravelle, Ray o’r Mynydd, Grav (Regan Development/ Tarian) ffilm S4C a ddarlledwyd i gyd-fynd â’i ben-blwydd yn 70 oed petai’n dal hefo ni. Addasiad caboledig Branwen Cennard a’r Prifardd Jim Parc Nest o sgript lwyfan wreiddiol Owen Thomas, ar gyfer Gareth Bale. Na nid hwnnw, ond yr actor penigamp o Gwm Tawe. Cau’ch llygaid, a Grav fyddech chi’n ei glywed yn ddi-os. Diawcs, roedd ei farf bron cystal â’r dyn ei hun hefyd.

 

Am stori a siwrne arbennig, “... o Gae’r Post i whare i’r Gorllewin. Llanelli. Tri chap ar hucen i Gymru. Llewod. Barbariaid”. Llinellau a ategwyd yn gyson dros yr awr a deng munud wrth i’r stori symud yn gelfydd o wely presennol y ward ’sbyty i lofft plentyndod ar aelwyd Brynhyfryd a gwely’r gwesty ym Mharis cyn gêm fowr Les Parc des Princes ym mis Ionawr 1975. Llinellau cyson o sicrwydd i un a oedd byth a hefyd yn amau a oedd yn ddigon da i chwarae ar y lefel uchaf. Ac yn y canol, cameos gan ddylanwadwyr mor amrywiol â’r actor Peter O’Toole i gewri’r Strade Carwyn James a Delme Thomas a hyd yn oed “Brenin y Sbynj” Bert Peel, heb anghofio ei annwyl fam a chwaraewyd yn dawel emosiynol gan Rhian Jones. Do, fe chwarddais a theimlais ambell beth i’r byw. Gobeithio bod gan Gareth Bale ddigon o le ar y silff gartref ar gyfer tlysau cwbl haeddiannol BAFTA, RTS a’r Geltaidd flwyddyn nesaf.

 

Wrth i’r hydref gau amdanom, mae drama noir S4C yn dychwelyd am y tro olaf. It’s grim up North meddai’r Sais, a hawdd deud yr peth am gymeriadau ac amgylchiadau Craith (Severn Screen) hefyd. Ffarmwr priod yn gelain mewn nant, bwlis a chyffurgwn yn plagio’r stryd, ficer amheus o’r Sowth, tai cyngor a fferm yn diferu o dlodi. Os mai yn y North ydan ni hefyd. Er mai’r Wyddfa a’i chriw a heddlu’r Gogledd sy’n ganolog i’r cyfan, buasai llu Dyfed Powys yn nes ati hefo’r holl acenion deheuol sy’n britho’r drydedd gyfres eto fyth.  William Thomas, Rhodri Evan, Elen Rhys, Simon Watts, Sion Ifan, Gwawr Loader - actorion tebol heb os, ond actorion y 'nawr' nid 'rwan' ydyn nhw. Naill ai bod criw castio (di-Gymraeg) yn cymryd y piss braidd neu bod actorion Gwynedd a Môn i gyd wedi dal covid ar y pryd, ac yn gorfod hunanynysu.

 

Nid bod cynulleidfa BBC Wales a BBC Four yn hidio dim am hynny, wrth gwrs, pan fydd Hidden yn ymddangos y flwyddyn nesaf gydag acenion stoc saff y Valleys i weddill Prydain. Ac wrth i’r credits clo lifo, dyma sylwi ar “Addasiad Cymraeg – Siôn Pritchard” sydd bob amser yn gwneud i mi anesmwytho. Addasiad Cymraeg o ddrama ar gyfer S4C? Er mai Caryl Lewis oedd awdur y bennod gyntaf? Na, dw i’n methu’n lân â deall y peth.

 





Ydy, mae’r sinematograffi’n hudo rhywun (nid bod angen denu rhagor i Eryri) a’r perfformiadau’n ardderchog, fel y seren o’r Wyddgrug, Justin Melluish sy’n chwarae rhan Glyn Thomas. Mi wnâi barhau i wylio a’i derbyn fel cyfres dditectif generig arall. Y gwir amdani yw na wnes i erioed gymryd at hon yn yr un modd â’r Gwyll (2013-16) a fu’n llwyddiant ysgubol Netflix wedi hynny. Cyfres wnaeth elwa ar €1 miliwn o grantiau Ewrop Greadigol, yn union fel fy hoff gyfres binjio ddiweddaraf – The Defeated – am dditectif o Americanwr yn cydweithio â’r Polizei yng nghanol llanast Berlin wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.

 

Dw i’n siŵr y bydd cronfa drwgenwog ‘Levelling Up’ llywodraeth y DU lawn mor hael i ddramâu teledu Cymraeg...