"Pryd daw hyn i ben?"



Mewn byd arferol, buasai haul cynnes y Sulgwyn yn gwenu ar Ddinbych. Miloedd yn heidio i gaeau fferm Kilford, a Llŷr Tywydd a Thraffig yn adrodd – sori LLEFARU - am dagfeydd o bedwar ban wrth i rieni straenllyd geisio cyrraedd y pri-lims mewn pryd ar ôl gorfod stopio’n sydyn i Lleucu fach chwydu’i brecwast yn y clawdd. Y cythraul cystadlu drosodd, stondinau dan eu sang, y ffair yn prysur wagio pocedi teidiau a neiniau, a miloedd o blant gorfywiog ar Tango Ice Blast. Ac yna daeth yr C-19. Arhosodd pawb (heblaw ein cymdogion Seisnig) adra,gan orfodi mudiad yr Urdd i ailwampio pethau a chreu Eisteddfod T ar y cyd ag S4C a Radio Cymru - gan addo oriau o “gyffro” a "bwrlwm" (hoff ansoddair ein cyfryngis) o stiwdio fawr lachar yng nghragen y Mileniwm. Roedd y sinig ynof yn amau. Wedi’r cwbl, roeddwn i eisoes wedi ’laru ar ddeg wythnos o gyfweliadau skype o geginau a chonsyrfytris atseiniol Prydain heb sôn am wylio’r sgrin yn rhewi wrth i Ifan o Langwm gerdd dantio dan 8 oed neu Kayleigh-Marie o Gaergybi ddawnsio creadigol ar y patio.


Mae’n steddfod heb ei thebyg. Heblaw am rai 1941-45 a ohiriwyd am resymau amlwg, ac un Caerdydd a'r Fro 2001 oherwydd clwy'r traed a'r genau. Steddfod yr Urdd electronig oedd honno hefyd, gyda thridiau o gystadlu ar y we, radio a theledu o lwyfannau stiwdios teledu Agenda Llanelli a Barcud G'narfon.


Ond wrth wylio uchafbwyntiau nosweithiol S4C eleni gyda’m nith a’i nain, dw i wedi meddalu. Iawn, mae yna domen o ‘gystadlaethau’ hwyliog amgen i’r teulu cyfan fel ‘Lip Sync’, ‘Teulu talent’ a ‘Gwneud dim dweud’. Am wn i mai dyma’r tro cyntaf erioed i Gareth yr Orangutang a Connie Orff feirniadu yn y Genedlaethol, a dw i’n edrych mlaen at weld y pyped a’r artist drag yn pwyso a mesur yn y pafiliwn go iawn flwyddyn nesaf. A dw i mor falch fod y prif seremonïau yn dal ’mlaen, heb y feirniadaeth hirwyntog na’r trwmpedwyr na’r daith hir o’r sedd i’r llwyfan. Mae’r tri chystadleuydd ddaeth i’r brig yn ymddangos ar eu sgriniau unigol, a’r beirniad yn y llall yn dal i greu ymdeimlad o densiwn a chyffro (aaaaaargh! yr hen air na eto) byw trwy skype. A pha mor hyfryd ydi tlws cain Ann Catrin, y dylunydd o Gaernarfon fu hefyd yn gyfrifol am goron prifwyl Eryri 2005.


A chawn ymateb hyfryd aelodau eraill yr aelwyd wedyn, wrth i frodyr a chwiorydd neidio'n fuddugoliaethus ar y soffa, neu dad a mam yn gweiddi'n falch o'r gegin gefn. Sôn am godi’n calonnau wedi contrwydd Cummings.

A dw i’n falch fod S4C a’r Urdd wedi ymateb i gwynion pobl am y defnydd o bolau piniwn twitter a oedd yn gofyn i’r gwylwyr ddewis eu hoff berfformiad yn sgil neges wreiddiol @mereridmair 

Oes wir angen y 'polls' yma? Anheg ar y plant. Mae'r Eisteddfod T yn wych! Mae o'n hwyl. Tydy 'poll' fel hyn ddim yn hwyl. Gall wneud niwed i hunan-werth plant.

Rhai’n poeni am ladd hyder y plant, eraill yn beirniadu’r elfen negyddol i ysbryd yr ŵyl. Roedd un yn cwestiynu’r angen am osod pawb yn 1af, 2il a 3ydd beth bynnag, a chreu naws gyngerdd agored i bawb am unwaith.. Erbyn dydd Mawrth, roedd y polau wedi diflannu, a bydd y cythraul cystadlu a’r rhai gafodd gam yn ôl y flwyddyn nesa heb os! Os oedd yr Urdd yn chwilio am elfen ryngweithiol, beth am ddangos negeseuon testun gan deuluoedd, ffrindiau, cyd-ddisgyblion y cystadleuwyr yn sgrolio ar waelod y sgrin? Neu hwyrach y buasai hynny’n creu hunllefau i Trystan o gofio arbrawf tebyg ar Cân i Gymru yn y gorffennol.

Ond sdim angen disgyn i faw isa’r doman X Factor bob tro. Gadewch inni fod yn glên i’n gilydd. Diolch Eisteddfod T ac i Heledd a Trystan über-broffesiynol am godi hwyl yn ystod y Clo Mawr.