Y Ffarmwr Ffowc arall

Dysgais rywbeth diddorol wythnos diwethaf. Bod Rhys Ifans yn dal i actio. Gydol ein jôc o haf, mae lluniau o’r actor bwgan brain o Ruthun wedi plastro’r tabloids wrth iddo foddi gofidiau yn sgîl Sienna. A thra bod y Saeson yn dal i’w gofio’n bennaf yn prancio yn ei drôns o flaen Julia Roberts yn Notting Hill naw mlynedd yn ôl, ei berfformiadau fel un o’r Ddau Frank sy’n aros yn y cof inni Gymry Cymraeg. Fel na phetai’r creadur heb wneud affliw o ddim ers hynny!

Nos Fercher diwethaf, cawsom flas o’i grefft yn un o fonologau nosweithiol BBC One, The Last Word Monologues gan Hugo Blick. Dyma gyfle euraidd i’r Bonwr Ifans fynd i’r afael â sgript hanner awr ar ei liwt ei hun - a hynny yn Saesneg y Gogs yn hytrach na’r acen ystrydebol ‘Cwm Boyo’ y mae cyfryngis Llundain mor hoff o’i ddefnyddio i’n portreadu ni. Yn ‘Six days one June’, roedd Huw, ffermwr 40 oed, yn adrodd ei hanes wrth gamera fideo ar gyfer asiantaeth bachu cariadon. Yn syml, roedd o’n gorfod chwilio am wraig i blesio’i fam. Ac er ei bod hi’n gaeth i’r gwely yn dilyn strôc, roedd ei dylanwad yr un mor haearnaidd ar ei mab. Dechreuodd yn smala, gyda Huw yn addo’r bywyd ‘Dallasy’ i’w ddarpar wraig, “… on farmstead… also with my mother!” O dipyn i beth, agorodd ei galon a chael y cyfan yn brofiad therapiwtig dros ben. Soniodd am y disgwyliadau mawr arno fel diwedd llinach a ymestynnai dros chwe chenhedlaeth. Awgrymir fod y ddolen gyswllt yn fwrn arno

“…feels more like a long heavy rusty chain”.

Hiwmor tywyll felly. Ac o! roedd hi’n ddu nos arno ar adegau. Soniodd am hunanladdiad ei nain trwy lyncu bara mallryg (ergot) ddiwrnod ar ôl ei fedyddio, a cholli’i dad mewn damwain dractor amheus pan oedd Huw yn bump. Yna’r siom enbyd o ddisgyn mewn cariad am y tro cyntaf. A’r tro yng nghynffon y stori oedd mai Jed oedd y cariad hwnnw - Maori o dras, a chneifiwr a arhosodd ar y fferm am chwe diwrnod ym Mehefin flynyddoedd yn ôl. Ond dyna’i fam yn hel Jed i ffwrdd, a gadael Huw yn ei drallod unig. Roedd seibiau ac ebychiadau’r cymeriad yn dweud cyfrolau.

Yna’r diflastod pur ar ôl i Huw gael ymateb i’w neges fideo: “Emily, her name is. English”. Ac meddai wedi’r dêt cyntaf yn siwt orau ei dad: "Emily… lots of emotions… mostly revulsion”. Nid y dechrau gorau ar gyfer unrhyw berthynas decini!

Ar ôl blynyddoedd o fygu emosiynau, mae’n colli arni mewn golygfa fud lle mae’n eillio’i farf melyn blêr yn y sinc gan feichio crio. Deallwn fod ei fam wedi marw, gyda help bara mallryg gwenwynig ei mab. A’r fferm bellach ar y farchnad, mae Huw am deithio’r byd am y tro cyntaf erioed, gyda thro bach i Seland Newydd o bosib. A chyda winc fach inni’r gynulleidfa, mae Huw yn diffodd y camera a’r bennod hon o’i fywyd am y tro olaf.

Perfformiad cynnil a brofodd mai actor yw Rhys Ifans yn bennaf, a chocyn hitio’r cylchgronau clecs yn ail. Jest abowt...



Mr Heat Magazine, 2008
***********************************