Pa newydd?

 

 



Mae’r BiBiSî yng Nghymru wedi symud tŷ. Rhag ofn nad ydych chi wedi clywed. Ar ôl 41 mlynedd o ddarlledu o wyrddni CF5, maen nhw wedi codi pac ac ymgartrefu mewn swyddfa newydd £120 miliwn o bunnau yn jyngl concrid y Sgwâr Canolog, rhwng y brif orsaf drenau a Stadiwm y Mileniwm (dwi’n gwrthod defnyddio’r hen air Pî ’na). Yn anffodus, fydd hen bencadlys Llandaf ddim mor wyrdd â hynny yn y dyfodol, gan fod cwmni Taylor Wimpey yn bwriadu codi hyd at 400 o dai yno gan ychwanegu at dagfeydd difrifol Heol Llantrisant. Neis.


Ffrwyth llafur £120m cwmni Foster + Partners


Ond yn ôl at y cartra' newydd. Mae criw Radio Cymru eisoes wedi gwneud eu nyth yno, ond yr wythnos hon oedd y tro cyntaf i’r stiwdios newyddion teledu gael eu cyflwyno i wylwyr S4C a BBC One Wales. Mae’r naill eisoes yn edrych yn slic iawn, gyda rhyw wawr biws, cefndir panoramig y bur hoff Fae, arwyddgan a theitlau agoriadol newydd sbon yn chwarae ar batrwm to twmffat unigryw’r Senedd. Ategiad newydd arall ydi’r bwletin tywydd sy’n rhan o’r pecyn Newyddion bellach, gyda Megan yn cyflwyno storm yr hydref o flaen map sinematig o Walia. Rhaglen newyddion cenedlaethol o’r iawn ryw felly. Gwych, yn enwedig pan mae cymaint mwy ohonom yn troi at Bethan Rhys Roberts a’r criw am y manylion covidus diweddaraf i weld pa sir arall sydd ar gau. Ar gau i’r trigolion lleol, hynny yw, nid twristiaid o Bolton.

Mae’n wasanaeth anhepgor, a minnau’n fwy tebygol o wylio’r slot hann’di saith na’r un naw blaenorol. Ddechrau’r gwanwyn, a’r pandemig newydd yn dechrau codi braw, mi froliodd S4C fod 21% yn fwy ohonom yn troi at y ddarpariaeth newyddion nosweithiol yn y Gymraeg.

Cymharwch hyn â Wales Today. Ydy, mae’r swyddfa wedi cael estyniad, a Behnaz a Derek Tywydd wedi cael sgriniau newydd sbon ond mae’r un hen arwyddgan, y graffics a’r logo yn dal yno, heb sôn am y lliw coch Corfforaethol. Yn y bôn, naws newyddion rhanbarthol Saesneg a geir, yn ymestyn o BBC Look East ar gyfer Norfolk a’r cylch, i BBC Newsline Gogledd Iwerddon. Mewn undeb Prydeinig, mae nerth. Ychydig iawn o staff sydd i'w gweld yn y cefndir hefyd. Naill ai maen nhw'n dal i weithio adra, yn unol â chanllawiau'r pen bandit Drakeford, neu'n ciwio am fechdan figan i ginio yn Prets ar y llawr gwaelod.

Rhwng y ffaith fod cyflwynwyr fel Nick Servini yn mynnu pwysleisio'r “North Wales” hyn a’r “South Wales” arall, ac felly’n arddel y ffordd Lundeinig o adrodd am ein gwlad (Wales, the Welsh Government, students in Wales, Welsh patients etc, rhag ofn inni feddwl mai Pwyliaid da ni) yn union fel y Gweinidog Addysg Gething yn ei ddatganiadau i'r wasg, a sawl gohebydd dŵad yn mwrdro ein henwau lleoedd (Abba-dare, Runda Cinon Tarfff), a dyna chi reswm arall dros osgoi gwylio’r bwletinau Saesneg o CF10.