Teulu 2



Dychmygwch y peth. Rydych chi wedi gwario ac ymlafnio i sefydlu eich busnes eich hun ar faes carafannau’r teulu. Mae’r Clwb newydd yn barod, y noson agoriadol yn nesáu, a’r gwahoddiadau wedi’u hanfon at bawb sy’n bwysig ac yn bert yn Aberaeron. Mae’r siampên yn oeri a’r haul yn gwenu ar Fae Ceredigion. Ond mae cymylau duon ar y gorwel. Mae staff y bar wrthi fel ci a chath, a chanwr y band yn absennol. Mae’ch tad wedi pwdu am fod rhywun wedi gwahodd ffansi-man eich mam i’r parti. Mae’ch gwraig yn canslo’r cynnig am eich tŷ cyntaf gyda’ch gilydd. Ac i goroni’r cyfan, mae’ch chwaer yn honni iddi weld eich gwraig yn lapswchan efo’ch brawd mawr. Does ryfedd fod Llŷr Morgan (Rhys ap Hywel) yn chwys stecs yn ei het gowboi.

Ydy, mae saga sebonllyd Teulu gan Meic Povey a Branwen Cennard yn ôl ar ein sgriniau nos Sul. Ac fel arfer, mae pawb yn ceisio cynnal rhyw ffug-barchusrwydd cymdeithasol wrth gelu llond gwlad o gyfrinachau a bradychu’r byd a’i frawd. A’r dihirod pennaf yw Manon a Dr Hywel ei brawd-yng-nghyfraith (Geraint Morgan, sy’n prysur ddatblygu’n gymaint o ddiawl â Barry John Pobol y Cwm ers talwm). Mae’n syndod nad yw’r stori’n dew rownd yr ardal erbyn hyn. Rhaid cyfaddef fod y ddau yma bron â ’niflasu i’n llwyr yn y bennod gyntaf, gyda golygfeydd ailadroddus fel a ganlyn: Manon a Hywel yn gwneud llygaid llo bach ar ei gilydd; Manon yn tecstio Hywel i drefnu mwy na ‘thamaid’ dros ginio; Manon yn gweld Hywel yn cofleidio ei wraig; Manon sorllyd yn cael sterics; Hywel yn ei siarsio mai hi yw’r un y mae’n ei charu go iawn. Hyn oll yng ngŵydd llond meddygfa o gleifion weithiau. Ydy, mae’r ddau gariad slei mor gynnil â tharw Welsh Black mewn siop lestri Portmeirion.


Diolch byth felly am antics y cymeriadau eraill, fel y flonden fywiog Myra sydd wedi llwyddo i ddyrchafu’i hun o fod yn Mrs Mop i brif farmêd y Clwb. Does ryfedd fod ei chyn-ŵr Danny (Steffan Rhodri yn cymryd lle Jonathan Nefydd) yn dal i feddwi arni, er gwaethaf ymdrechion anobeithiol Llinos i’w cadw ar wahân. Ac roedd y golygfeydd o Eirlys yn ffysian fel iâr glwc ar Dr John ar draul ei dyweddi Eric, yn wych.

Roedd llinell anfarwol Eric druan yn dweud y cyfan: “Roly poly’n cal five star a mygins yn gorfod starfo!”