Adroddiadau diwedd blwyddyn

Roeddwn i’n arfer cachu plancia 'radeg hon o’r flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Conwy ers talwm. Ffarwelio â blwyddyn academaidd arall gyda chofrodd arbennig gan yr athrawon hoff. Adroddiad ysgol. Cyfnod o bwyso a mesur, dathlu ambell lwyddiant a diawlio gradd ‘D’ am Dwl mewn Maths neu 'E' echrydus mewn Ffiseg. Ac mae’n gyfnod o gnoi cil i’n darlledwyr cenedlaethol hefyd, gyda chyhoeddi adroddiadau blynyddol BBC Cymru ac S4C.





Nid da lle gellir gwell yw neges Cyngor Cynulleidfa Cymru, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl i leisio safbwyntiau gwylwyr a gwrandawyr i gorff llywodraethu’r BBC. Er bod Torchwood yn fan cychwyn da, roedd y Cyngor o’r farn bod mynydd o waith i’w wneud eto cyn y gallai’r Bîb frolio fod Cymru’n cael lle haeddiannol ar rwydwaith Prydain gyfan. Cafodd cynhyrchwyr newyddion eu beirniadu’n chwyrn am beidio â chynnwys digon o straeon o Gymru ar brif raglenni newyddion teledu. A-men meddaf i. Petawn i’n Sais, fyddwn i ddim callach fod llywodraethau datganoledig ar waith ar y cyrion Celtaidd, o wylio newyddion y BBC am 6 a 10 yr hwyr. Wythnos diwethaf, roedd sawl stori addysg, gofal yr henoed a’r ffliw moch yn gorffen gyda’r geiriau “…in England”. Hynny yw, straeon am ddatblygiadau a newidiadau polisi perthnasol i drigolion Basingstoke a Burnley yn unig, heb affliw o ddim i’w wneud â gwylwyr Bangor na Ballycastle. Mae’n sefyllfa warthus, fel petaen nhw’n credu bod sodro’r Bonwr Edwards o Langennech wrth ddesg BBC News yn ddigon o gyfraniad Cymreig.

Adroddiad cymysg sydd gan Awdurdod S4C hefyd, dan gadeiryddiaeth John Walter Jones. Yn naturiol, mae’n canu clodydd arlwy feithrin y sianel a gynyddodd o awr i chwe awr a hanner y dydd. Ac mae’n wasanaeth mor llwyddiannus a phwysig fel bod rhieni blinedig yn crefu am weld Cyw ar foreau Sadwrn a Sul hefyd. Trodd 5% yn fwy o wylwyr i ddilyn darllediadau cynhwysfawr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ond colli tir fu hanes Gŵyl y Faenol. Lwcus bod un ’lenni wedi’i chanslo! Dwi’n cytuno’n llwyr a’r ganmoliaeth i gyfresi ffeithiol caboledig y Sianel, gan gynnwys Yr Afon a Lleisiau’r Rhyfel Mawr; ac yn rhannu’r siom am ddramâu fel Y Pris (“nid oedd y gyfres at ddant pawb”) a chriw cecrus y cymoedd, 2 Dŷ a Ni, a fethodd gyflawni’r nod o ddenu mwy o wylwyr o’r parthau hynny. Ac wrth gyfeirio at yr arbrawf o arallgyfeirio'r hen stejar Noson Lawen i forio ac i lefydd hollolo hurt fel crombil ceudyllau Llechwedd Blaenau Ffestiniog nos Galan, "mae’n deg dweud nad oedd yr arbrawf yn gwbl lwyddiannus". Clywch! Clywch!
Mae'r darn canlynol am sioe sebon dyddiol y Sianel yn ddiddorol a dweud y lleiaf:
"Pobol y Cwm (BBC Cymru) yw un o gonglfeini dyddiol ein gwasanaeth rhaglenni o hyd. Ymddangosodd y gyfres yn gyson ymhlith y rhaglenni a wylwyd fwyaf. O ran gwerthfawrogiad y gynulleidfa, mae’n sgorio’n well na phob rhaglen debyg arall yn Saesneg".
...yn enwedig o gofio'r cwymp syfrdanol eleni.
Ond beth oedd rhaglen fwyaf poblogaidd 2008? Na, nid unrhyw beth gyda Dai Llanilar, ond Y Clwb Rygbi, a ddenodd 356,000 i wylio gornest y Gweilch a’r Sgarlets dros y ’Dolig.

S4/Cais amdani!