Llanelwedd v Llefaru




A’r haf yn prysur droi’n un siom gwlyb ar ôl y llall, diolch i’r drefn fod gan S4C ddarllediadau cynhwysfawr o’n prif ddigwyddiadau cenedlaethol i’r rhai ohonom sydd am gadw’n sych gartref. Roedd brwdfrydedd heintus Dai Jones a gwên Nia Parry yn goleuo’r Sioe Fawr er gwaethaf ymdrechion Ifan y glaw i roi dampar go iawn ar bethau.

Ac mae’n debyg fod mwy o wylwyr tramor wedi mwynhau arlwy Llanelwedd yn fyw ar wefan S4C eleni - sy’n addas iawn, o gofio mai gorchest gŵr o wlad Belg sy’n aros yn y cof, wrth iddo garlamu rownd y Prif Gylch lleidiog gyda’i ferlen Gymreig. Cefais flas ar raglenni nosweithiol Geraint Lloyd ar Radio Cymru hefyd, yng nghwmni Mari Lövgreen, sydd bellach wedi ffeirio coctels Cofi Roc a stiwdios Uned 5 am y buarth yn Sir Drefaldwyn. Gan mai hwn oedd ei hymweliad cyntaf a’r Roial Welsh, roedd Geraint Lloyd a’i gyfranwyr yn awyddus i’w helpu i fod yn wraig ffarm dda - iawn ar y noson gyntaf, ond braidd yn ailadroddus erbyn y nos Iau olaf. Un o’r cynghorion gafodd y gr’aduras oedd codi’n blygeiniol a pharatoi tomen o frecwast i’w chariad bob dydd.

O leia’ fe gaiff hi jolihoetian yn y Bala fel un o gyflwynwyr Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau, cyn ymroi i fywyd o gario bêls a gwneud sgons. Fel rhan o’r paratoadau, cawsom raglenni arbennig Saith Bardd ac Adrodd: Yr Hanes (Cwmni Da) o stabl Sioe Gelf. Yn anffodus, dim ond rhag-dap o’r ail oedd wedi cyrraedd acw - hanner fawr ddiddrwg-didda yn olrhain ffrae Gymreig ar y naw ym 1992, pan benderfynodd yr Urdd ddisodli’r term ‘adrodd’ gyda ‘llefaru’. Roedd cyfranwyr fel Aled Gwyn yn melltithio’r hen “ystumie di-alw-amdano” ar draul y gair, eraill fel yr actores Manon Elis Jones (Rownd a Rownd) yn teimlo fod pethau wedi newid er gwell gan fod “pobl yn gorwneud” wrth adrodd ers talwm. Beth? O gymharu â champau gymnasteg partïon llefaru'r Urdd heddiw?

Hoffais hanes T James Jones, enillydd Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn ym 1966, pan mai adrodd oedd adrodd o hyd. Ar ôl camu i’r llwyfan, cymryd ei wynt ato, dyma sylweddoli ei fod wedi anghofio’r geiriau’n llwyr. Trwy lwc, daeth ato’i hun a chipio’r wobr fawr maes o law, gyda’r beirniaid yn canmol ei “saib effeithiol, dramatig tu hwnt”!

Dyna chi gyfaddefiad.