O Blasturton i Iet y Bompren


Haleliwia! mae’r ddrama Gymraeg wedi dychwelyd i slot arferol nos Sul. Ac mae’n amlwg fod rhywbeth go arbennig ar y gweill, wrth i S4C ein pryfocio trwy fflachio’r teitl Cwcw adeg egwyl rhaglenni. Deall wedyn mai fersiwn dwy ran o ffilm 165 munud gan Delyth Jones ydi hi mewn gwirionedd, a enillodd deitl y ‘Ffilm Ryngwladol Orau’ yng Ngŵyl Ffilmiau De Affrica. Addawol iawn, felly. Ond petruso a phoeni rhywfaint wedyn o gofio fod BAFTA wedi mopio’n lân â babi arall Delyth Jones, Fondue Rhyw a Deinosors, yn y ddegawd ddiwethaf. Roedd honno, am dri chwpl yn chwilio am y bywyd gwledig nefolaidd a drodd yn uffern ar y ddaear, yn rhy honco bost i mi. Ond dyma benderfynu rhoi cynnig ar hon, a diolch bod ffilm Gymraeg newydd i’w chael o gwbl mewn cyfnod anodd drybeilig o golli cyllideb a gwylwyr.

Stori Jane Jones sydd yma (Eiry Thomas), sgriptwraig cyfres sebon symol o’r enw ‘Dr Gareth’ (olynydd ciami i Dr Elen a Glan Hafren, tybed?!) ac sy’n briod i brif seren y gyfres, Sam Llewelyn (Rhys Richards). Ond mae bywyd yn boen i Jane druan, wrth i gyw-olygyddion “hollwybodus” chwynnu’i sgriptiau gwreiddiol i ddim, a’i bwli alcoholig o ŵr yn dibrisio’i gwaith fel “mond cachu” a’i chyhuddo o fod yn lesbiaidd fel ei harwres Virginia Woolf. A’i nerfau’n rhacs, mae’n penderfynu ffoi o uffern y ddinas gyda John Jones yr optegydd (Aneirin Hughes), enaid hoff cytûn sydd hefyd am ddechrau o’r newydd. Ar ôl neidio i’w campyrfan, maen nhw’n ymgartrefu mewn bwthyn bach del yn y wlad, ac yn ailfedyddio’u hunain yn Martha Olivia, sy’n iachau pobl drwy’u traed, a Morgan Oliver y saer coed. Ond mae pentref swreal ‘Iet y Bompren’, gyda chartrefi to gwellt a cherbydau o’r pumdegau, yn rhy ddelfrydol o’r hanner, ac erbyn y diwedd, daeth rhyw ias oer a cherddoriaeth sinistr yn sgil ymweliad gwraig ddieithr (Gaynor Morgan Rees) â’r cwpl perlewyg o hapus…

Mae hon yn gweithio ar sawl lefel - drama gyffrous am wraig yn dianc o’i phriodas dymhestlog; dychan deifiol ar gyfryngis Caerdydd; a’r ffin beryglus o denau rhwng byd y breuddwydion a’r byd go iawn. Rhaid canmol y ddau brif ran - Eiry Thomas â’i hystumiau a’i hosgo’n cyfleu’r greadures eiddil i’r dim; a Rhys Richards yn llwyddo i frawychu a maldodi mewn chwinciad fel cymeriad dan ddylanwad y botel. Mae na ddarnau doniol iawn, iawn ynddi. Ac fe wnaeth y gwaith camera yn fawr o brydferthwch Miss Marple-aidd ardal Merthyr Mawr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Pwy a ŵyr beth sy’n wir a beth yw ffrwyth dychymyg bregus Jane/Martha? Rhaid gwylio nos Sul nesaf i wneud synnwyr o’r cyfan - os o gwbl!