Help! Wn i ddim beth ar y ddaear i’w wneud ar nosweithiau Mercher o hyn ymlaen. Achos dros y ddeufis diwethaf, dwi wedi treulio’r oriau difyr yng nghwmni Don a Betty Draper, Pete, Paul a Ken, Peggy a’r hyfryd rywiol Joan mewn niwl sigaréts a sawl wisgi mawr. Dw i wedi chwerthin a chrïo yn eu cwmni, wedi dotio o weld ambell un yn blodeuo, diawlio ambell un am gymryd cam gwag, a rhannu’u pryderon priodasol ac economaidd mewn byd sy’n prysur newid. Prin yw’r cyfresi dramâu sy’n ennyn cymaint o deyrngarwch a diddordeb. Efallai eich bod prin wedi clywed sôn am Mad Men, ond mae’r gyfres Americanaidd a orffennodd ar BBC Four neithiwr, yn ticio’r bocsys i gyd. Drama gyfnod Americanaidd yw hi, wedi’i gosod yng nghanol bwrlwm y byd hysbysebu ym Manhattan, Efrog Newydd, yn y chwedegau - ble mae byd braf a breintiedig y cymeriadau yn dadfeilio’n araf o flaen eu llygaid, wrth i ddigwyddiadau’r byd mawr eu hysgwyd i’r byw, o orymdeithiau hawliau sifil yn nhaleithiau’r De i egin-ryfel Fietnam. Ac wythnos diwethaf, roedd llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy yn gefnlen effeithiol i’r bennod gyfan wrth i fyd a phriodas Don Draper, y prif gymeriad, chwalu’n deilchion. Mae ambell un sydd wedi rhoi cynnig arni’n cwyno ei bod yn rhy araf, ond dyma un o’i rhinweddau pennaf i mi. Mae’r gwaith camera trawiadol, y manylder arbennig i arferion a chwaeth y chwedegau, a’r golygfeydd hirion heb eiriau, yn rhoi cyfle i’r stori a’r cymeriadau ddatblygu dow dow dros 13 wythnos. Ac mae hynny’n fendith, mewn byd o gyfresi sebon sy’n gwasgu llofruddiaeth, ffrwydrad a ffeit gyhoeddus yn y dafarn mewn cwta hanner awr. Da chi, mynnwch gip ar yr iplayer neu prynwch DVDs o’r gyfres. Chewch chi mo’ch siomi.
Mae’n f’atgoffa i raddau o berl arall o’r gorffennol, Our Friends in the North, a ddarlledwyd ar y BBC ym 1996 - epig fodern am griw o ffrindiau bore oes o Newcastle, o gyffro’r chwedegau i obeithion Llafur newydd yn y nawdegau. Mae Pen Talar, cyfres ddrama arfaethedig S4C a ddarlledir ym mis Medi eleni, yn gado rhywbeth tebyg, wrth olrhain hanes dau ffrind o’r 1960au tan 2010. Mae’n swnio’n debyg i gyfres Gareth Miles, Llafur Cariad, a ddilynodd ddaeargryn wleidyddol Cymru o ddyddiau du Thatcher i’r Refferendwm ar ddatganoli. Adloniant, llond sgrin o actorion amlycaf Cymru, a gwers hanes diweddar y genedl felly. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar yn barod.