Mae’n dymor traddodiadol y priodasau, pan fo’r haul yn gwenu ar y fodrwy, y siampen a’r cariad yn llifo. Mewn byd delfrydol o leiaf. Rhyw ddiwrnod delfrydol felly oedd hi 29 mlynedd yn ôl, wrth i 750 miliwn o wylwyr teledu byd-eang gael eu swyno gan briodas dylwyth teg yng nghadeirlan St Paul’s, Llundain. Un o briodasau mwyaf costus ond ofer erbyn hyn wrth gwrs. Ond ar y pryd, roedd hi’n gyfle i bobl Prydain anghofio am Thatcher a therfysgoedd Toxteth trwy drefnu partïon stryd mewn môr o Jacs yr Undeb. A dathlu oedd ar feddyliau trigolion cymuned lofaol yn Royal Wedding hefyd, drama unigol a ddarlledwyd ar BBC2 wythnos diwethaf. Drama wedi’i hadrodd o safbwynt Tammy Caddock, merch ifanc bymtheg oed, a oedd yn prysur werthu tocynnau ar gyfer parti mawr gyda sosej rôls, cystadleuaeth gwisg ffansi roc a phop, gwobr am y steil gwallt gorau fel Diana, a disgo gyda TJ y DJ a oedd mor gawslyd â Jônsi. Ac yng nghanol hyn i gyd, mae pawb yn benderfynol o fwynhau er gwaethaf cymylau duon diweithdra a phroblemau priodasol eu hunain - o’r fam ifanc sy’n ysu am ddechrau newydd gyda’i chariad Iypïaidd, i’w gŵr di-waith a’i freuddwyd gwrach am fod yn ganwr pop a’r ffrind lesbiaidd a’i chrys-t “Don’t do it Di!”. Ac yng nghanol hyn i gyd, cawsom sawl clip o sbloets fawr y Windsors. Roedd naws arbennig iawn i’r ddrama, ac roeddech chi wir yn teimlo fel petaech wedi glanio ym 1981- o’r ceir Datsun, y dynion mwstashiog a’r merched Nolans-aidd - a haul Gorffennaf yn pefrio ar y sgrîn. Dyna’r uchafbwynt i mi. Yr isafbwynt oedd y defnydd o actorion dŵad o Swydd Efrog a Stafford i bortreadu’r brodorion. Mewn gwirionedd, y cymeriadau ymylol a’r actorion Cymreig sy’n aros yn y cof. Rhai fel Alan Garvey (Alun Raglan), Robbie (Aled Pugh, enillydd haeddiannol gwobr 'Actor Gorau' BAFTA Cymru 2010 am ei ran yn y ffilm Ryan a Ronnie) a Dolly (yr hyfryd Wendy Phillips a welwyd yn y ffilm Very Annie Mary), clamp o gymêr mewn gwisg Gymreig sy’n fodlon braf gyda’i Babycham a’i theledu bach ar garreg y drws.
Dau gwm, dwy briodas
Samariad trugarog Bosnia
Lipik, Croatia
Byrdwn y bennod gyntaf oedd dilyn ôl troed Gwilym i weld sut mae trigolion Croatia a Bosnia yn ymdopi mewn heddwch bregus bymtheg mlynedd yn ddiweddarach. Yn ogystal ag ymweld â chartref plant amddifad ac ysbytai a gafodd gymorth gan griw Convoy of Hope, roedd Gwilym ar drywydd personol iawn. Roedd yn awyddus i chwilio am ŵr o’r enw Ivan a achubodd ei fywyd trwy gynnig lloches iddo mewn seler ar gyrion Mostar, ymhell o fwledi a bomiau’r Serbiaid. Ond heb ffotograff, cyfenw na chyfeiriad llawn, roedd tipyn o dasg o’i flaen.
Cawsom yr hanes o sawl ffynhonnell. Gwilym yn trafod ei atgofion arswydus yn uniongyrchol i’r camera wrth yrru drwy’r wlad gyda’i gyfieithydd Zdvarko, cyfweld ag wynebau’r gorffennol, a lluniau newyddion teledu’r cyfnod. Roedd ambell olygfa’n ddigon i’ch sobri, fel tref fechan Lipik a arferai fod yn dref lewyrchus o ffynhonnau dŵr iachusol a ffatrïoedd gwydr cain, ond sydd bellach yn llwm a llawn creithiau rhyfel. Mae creithiau personol mor fyw ag erioed hefyd, fel yr “angel” o nyrs Fwslimaidd a helpodd gymaint o blant yn Ysbyty Mostar yng nghanol y gyflafan, ond a gafodd ei diswyddo oherwydd ei chrefydd. Heddiw, mae’n dlawd a di-waith, ac yn hiraethu am ei mab a fudodd yn faciwî i’r Unol Daleithiau. “Mae ei rhyfal hi yn dal i fynd ymlaen” meddai Gwilym. Golygfa ddirdynnol arall oedd honno o Gwilym yn pori drwy llyfr swmpus ag enwau 15,000 o bobl, yn swyddfa’r Groes Goch ym Mostar. Pymtheg mil o Fosniaid sy’n dal ar goll hyd heddiw, o blant dyflwydd oed i’r henoed.
Yn y diwedd, daeth o hyd i Ivan er gwaetha’r ansicrwydd a’r cof niwlog. Bu cryn gofleidio a dymuno ‘živjeli!’ ac ‘iechyd da!’ i’w gilydd wrth glecian gwin. Ond y tu ôl i’r hapusrwydd, hagrwch y rhyfel sy’n aros yn y cof. Perl o gyfres. Bechod ei bod yn dod i ben.
Holi a stilio a ffraeo II
Ac mae’r naws gwrth-Sky yn parhau, wrth i ambell un leisio barn yn groch yn sgil honiadau fod Kay Burley (Jeremy Paxman mewn sgert) yn hen ast o gyfwelydd gydag arweinydd protestiadau dros diwygio'r drefn bleidleisio.
Diolch byth fod ein Vaughan bach ni’n dal mor broffesiynol ag erioed…
’Nôl i ’87
Mae’r fformat llwyddiannus hwn eisoes wedi ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2009 a’i gwerthu i wledydd fel Ffindir. Tra bod rhai o gast gwreiddiol 1987 yn weddol adnabyddus i ni heddiw - Owain Gwilym (Jabas Jones) ar Radio Cymru, Buddug Povey (Pegi) yn wyneb cyfarwydd Rownd a Rownd, ac Eleri Fôn a Lowri Mererid (Ruth a Glenda) yn lleisiau cefndir i rai o’n grwpiau roc amlycaf ni - roedd hanes y lleill yn bur ddieithr. Ond diolch i ymchwilwyr y rhaglen, cafwyd hyd i Picsi (Dr Harri Pritchard) yn feddyg teulu ym Môn, Gwil (Guto Gwilym Jones) yn gwerthu bwydydd anifeiliaid; a Lois (Lowri Glain) yn gynhyrchydd dramâu teledu llwyddiannus yn Notting Hill, Llundain. A chwarae teg i Lowri Glain saith mis yn feichiog, am ddychwelyd i’r union soffa lle ffilmiwyd golygfa go boeth rhyngddi hi ag Owain Gwilym. Mae’n hawdd anghofio pa mor fentrus oedd y gyfres mewn gwirionedd, gyda golygfeydd caru a chymryd cyffuriau ochr yn ochr â’r gwersi ysgol. A dyma’r tro cyntaf i mi glywed am Jabas yn corddi’r dyfroedd yn Iwerddon, a chael ei gwahardd gan ddarlledwyr nerfus RTÉ/Telegael.
Roedd cyfweliadau’r ffans selog lawn mor ddifyr a diddorol, yn enwedig aelodau Clwb Edmygwyr Owain Gwilym. Nhw oedd yn cadw llyfrau lloffion o’r gyfres, yn prynu crysau-t a chaneuon rap giami (“Cofiwch Llywarch heb ei drôns/Ac fe gofiwch rapio - Jabas Jones!”) ac yn stelcio’r sêr ar feysydd Steddfod yr Urdd. Fel y soniodd Heledd Fychan, roedd hi’n wirioneddol braf cael cymeriadau perthnasol i’r Cymry Gymraeg yn oes Kylie a Jason. Hyd yma, mae dros 260 o eilunaddolwyr wedi ymuno â thudalen gweplyfr Jabas Jones. Go brin fod Caerdydd yn gallu brolio’r un peth.
Dwi wedi cael “brênwêf”, S4C. Beth am ragor o berlau’r gorffennol i’r ‘Awr Aur’, fel Tydi Bywyd yn Boen, A55…?
Sgorio efo'r Cofis
A sôn am griw! Er gwaetha’u diffyg profiad, mae ganddyn nhw’r hiwmor a brwdfrydedd heintus i roi cynnig arni. Cyflwynwyd naws y cyfan i’r dim yng nghyfarfod y pwyllgor o ddeuddeg, gydag un yn gofyn i'r llall “Be ti’n wbod am ffwtbol?” cyn ateb “Dim!”. Gwelsom y swyddogion gwahanol wrth eu gwaith, o Marc Roberts y swyddog marchnata yn dosbarthu posteri’r gêm o amgylch y dre, i reolwr y cae Eric Barton (neu “stêdiym manijar” yn ei eiriau ef) a John Rowley, dyn tân rhan-amser a streicar ifanc y tîm. Ac roedd yna ddigon o gyfarwyddo tafod yn y boch hefyd, yn enwedig wrth ddangos y gêm yn erbyn Llandudno, un o brif dimau’r gynghrair. Siawns fod y rheolwr Geraint Williams yn hapus gyda’r perfformiad wedi hanner cyntaf di-sgôr, tybiodd y lleisiwr Dyfrig ‘Topper’ Evans, cyn i’r camera dorri’n syth i’r ’stafell newid danllyd wrth i’r rheolwr refru ar ambell ddiogyn. A hoffais y dechneg effeithiol o bontio’r rhaglen gyda’r dilynwr selog Kev Roberts â’i archif o hen raglenni’r clwb yn hiraethu am ddyddiau da “deep heat a nicotîn”. Ond uchafbwynt y rhaglen i mi oedd gweld a chlywed y Gymraeg yn iaith y cae chwarae, hyfforddi a chymdeithasu. Ac am hynny, dwi’n mawr obeithio y bydd y Caneris yn mynd o nerth i nerth!