Sioe Shân


A hithau’n wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion, mae’n addas iawn fod ail gyfres un o divas mwya’r sir yn rhan o arlwy nos Sul yma. Ydy, mae’r ferch ffarm hynod boblogaidd a dawnus o bentref Ffarmers ddychwelyd i godi’r to yn Shân Cothi. Newyddion da i’r miloedd o ffans ac i ffigyrau gwylio S4C felly. Ond tybed ydy’r £2 filiwn o dolc cyllidebol gan lywodraeth ConDem wedi dechrau dweud ar y Sianel, gan fod y gyfres hon hanner awr yn llai na’r un gyntaf? Dim hanner digon o arian i fforddio’r gwestai lleol a rhyngwladol efallai? Neu efallai fod y gantores yn rhy brysur yn carthu’r stablau i wastraffu gormod o amser ar y bocs bach? Beth bynnag am hynny, mae’r fformat yr un fath. Celfi swmpus a siandelïers sy’n fwy addas i Balas Versailles na stiwdios Croes Cwrlwys, cerddorfa Nick Davies yn y cefndir, cynulleidfa hynod frwdfrydig a swnllyd, a sgwrs a chân gyda gwesteion arbennig bob wythnos.

Rhydian Roberts a Margaret Williams fydd yn rhannu’r llwyfan gyda Shân yn y rhaglen gyntaf. Mae’r bariton o Bontsenni â’r llais grymus a’r gwallt gwyngalchog yn wyneb cyfarwydd ar raglenni Cymraeg bellach. Ac er nad yw’r snobs operatig mor garedig tuag ato oherwydd ei gysylltiadau â Simon Cowell ers dyddiau’r X Factor, does dim pall ar ei boblogrwydd. Bydd yn ymddangos yng nghyngerdd Prifwyl Blaenau Gwent yr haf hwn cyn mynd ar daith gyda’i sioe gerdd gyntaf, War of the Worlds, gyda Jason Donovan o bawb. Dim ond sgwrs pum munud gawn ni rhyngddo â Shân Cothi, gwaetha’r modd, gan gynnwys hanes yr anaf rygbi yng Ngholeg Llanymddyfri a’i arweiniodd at yrfa gerddorol yn hytrach na gyda’r Gweilch, enillwyr haeddiannol cynghrair Magners nos Sadwrn diwethaf. Byrfyfyr braidd ydi’r cyfweliad gydag un o genod enwocaf Bryngwran hefyd (“dyw Joan Collins ddim ynddi!”), sy’n trafod ei gyrfa deledu dros yr hanner canrif diwethaf nghwmni mawrion fel Stuart Burrows a Ryan a Ronnie. Byddai wedi bod yn braf clywed ychydig mwy o straeon y dyddiau arbennig hynny, ond mae Heledd Cynwal eisoes wedi bod ar y trywydd hwnnw yn y gyfres sentimental boblogaidd Cofio. Ond y gân nid y geiriau sy’n bwysig yma, ac rwy’n siŵr y bydd darnau o Farbwr Sevilla a Don Giovanni yn plesio’r operagarwyr. Bydd y pianydd Llŷr Williams a’r soprano Lesley Garret ymhlith gwesteion y dyfodol. Ond yn bersonol, mi fyddaf yn cadw llygad am ymddangosiad un arall o divas y Gymru gyfoes - Cerys Matthews!