Saesneg yn essential? Ddim ar y Sul


Wrthi’n peintio ffens yr ardd o'n i bnawn Sadwrn diwethaf, gyda chwmni’r radio yn y cefndir. Kevin Davies oedd wrthi, mewn cyfuniad o gerddoriaeth ac adroddiadau byw gan Hywel Gwynfryn o ŵyl Taran Tudweiliog. A dyma Celia Drws Nesa, Valleygirl o dras Bwylaidd yn gofyn dros y clawdd, “Orright Dillon? Why they playin’ Oasis songs on Welsh radio?”. Yn hollol, Celia fach. Os ydi hi’n sefyllfa hurt i’r di-Gymraeg…

Rhwng rhaglenni nosweithiol ‘K2’ a mwydro prynhawnol Jonzey, mae recordiau’r iaith fain yn merwino’r glust yn aml y dyddiau hyn. Does dim byd gwaeth na gyrru ar hyd yr A470 droellog yn straffaglu ffeindio Radio Cymru achos bod cân Saesneg ymlaen ar y pryd. Mae’n hen, hen broblem. Ond mae’n broblem i’r Gwyddelod hefyd. Am ryw reswm anesboniadwy, mae Raidió na Gaeltachta yn gryfach na’r orsaf Gymraeg yng nghrombil Maldwyn, a rhyw glasur Saesneg o’r chwedegau oedd ar honno ar y pryd. Efallai fod 'na ryw gochyn o Gonamara yn diawlio fel fi wrth yrru adref ar yr N59 ym mhen draw’r Ynys Werdd.

Diolch i’r drefn, mae dydd Sul yn rhydd rhag seiniau’r Brodyr Gallagher. Daw Dewi Llwyd ar Fore Sul ymlaen gyda’r cloc larwm, ac adolygiadau manwl ac amrywiol o’r papurau yn arbed sgowt i’r garej i brynu rhai fy hun! Y darn gorau i mi’n bersonol yw’r cyfweliad â Chymry amlwg, a chlywed beth sy’n eu plesio a’u gwylltio am y Gymru gyfoes. Ar ôl cinio, braf clywed hanner awr prin o ddrama radio yn y gyfres Clasuron, gyda Gwyn Vaughan ac Owen Arwyn yn darllen detholiad o ‘Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun’ gan Aled Jones Williams – perfformiad dirdynnol iawn i unrhyw un sydd wedi gweld un o’u hanwyliaid yn dirywio’n araf o flaen eu llygaid. Fin nos wedyn, mae rhaglen sgwrs a chân Dei Tomos yn ffefryn mawr arall, yn ogystal â John Hardy yn Cofio am bwnc arbennig o archifau’r weiarles. Ond mi fyddai wedi hen diffodd y sét radio erbyn i’r John arall a’i bartner hawlio’r tonfeddi tan hanner nos.

Wythnos diwethaf ar y Post Cyntaf, fe gafodd y Cymry Cymraeg chwip dîn gan Cefin Roberts am anwybyddu Eisteddfod Llangollen. Yn anffodus, mae gen i’r ddelwedd ohoni fel ’steddfod Seisnigaidd sy’n denu tripiau o blant ysgol a chriwiau Darbi a Joans. Er hynny, fe wyliais ambell raglen uchafbwyntiau Llangollen 10 gyda’r nos, dan ofal Nia Roberts a Trystan “Gweiddwch blantos!” Ellis-Morris, a mwynhau eitem i gofio am y diweddar Robin Jones a fu’n llywio o’r llwyfan am flynyddoedd, a gweld hen glipiau ohono’n gwneud i gynulleidfa’r Pafiliwn Rhyngwladol forio chwerthin. Dwi ddim yn siŵr ai ‘mwynhau’ ydi’r gair addas i ddisgrifio enillwyr cystadleuaeth côr y byd nos Sadwrn chwaith. Er gwaetha gwisgoedd trawiadol a choreograffi celfydd y cantorion o Ynysoedd y Philipinas, roedd y cyfuniad o’r sgrechiadau a’r offerynnau taro yn debycach i gyfeiliant ffilm arswyd Psycho.