Môn a Meirion

Ar ôl brolio wythnos diwethaf ’mod i wedi ymuno â’r chwyldro radio digidol o’r diwedd, dwi awydd gwario eto - y tro hwn, mewn set deledu LCD neu blasma. Nodyn bach i Siôn Corn efallai? Achos mae’n wir rhaid cael teledu clirlun (HD) i werthfawrogi cyfres ddogfen Y Fenai (Cwmni Da, bob nos Fercher 9pm). Roedd munudau agoriadol y rhaglen gyntaf neithiwr yn syfrdanol o hardd, wrth i luniau awyr gyflwyno’r culfor enwog hwn rhwng Môn a’r tir mawr. Roedd y ddwy bont dan gysgod gwynder Eryri, cyn torri i olygfa o darth hydrefol dros y dyfroedd llonydd. A chyda’r golygfeydd agoriadol hyn yn para sawl munud heb unrhyw droslais i darfu ar y tawelwch, cefais fy hudo’n syth. Os cawsoch chi flas ar gyfres wych Yr Afon, neu gyfres gyffelyb Coast ar BBC2, mi fydd hon at eich dant.

Mae’r rhan arbennig hon o Gymru’n gefndir i rai o’n cyfresi teledu mwyaf poblogaidd, o Tipyn o Stad i Rownd a Rownd, ond y tro hwn, pobl go iawn sy’n byw, gweithio a hamddena ar lannau’r Fenai sy’n cael y sylw. Cawsom ein cyflwyno dow-dow i gymeriadau amrywiol o’r Dr Greta Hughes, Swyddog Pysgodfeydd sy’n ceisio gwarchod cnwd cyfoethog o gocos sydd ar y glannau lleidiog, i Tomos Tudor sy’n gobeithio hyfforddi hwylwyr y dyfodol. Ac roedd hi’n wirioneddol braf dod ar draws Cymry Cymraeg mewn swyddi blaenllaw, fel Richard Jones, yr ieuengaf erioed i gymryd yr awenau fel harbwrfeistr Caernarfon. Roedd yna ryw dinc trist braidd yn llifo drwy’r rhaglen, gyda Richard yn dweud fod tre’r castell wedi troi cefn ar yr afon i raddau. Ategwyd hyn gan Gareth Owen, cyn-bysgotwr o Rosgadfan. Arferai hel llond 60 cratsh o wichiaid moch, gwerth £1,000 y dydd, ar un adeg - ond yn ddiweddar, roedd yn lwcus o gael 15 cratsh am £200 o elw. Gyda chymaint o reolau a rheoliadau llym yn lladd y diwydiant, penderfynodd werthu’i gwch ar ôl chwarter canrif o grafu byw ar y môr. Ond y rhan fwyaf diddorol o bell ffordd i mi, oedd atgofion Richard a Ceinwen Lloyd am flynyddoedd o dendio ar bobl fawr y Fenai - “chauffeur, cipar, newid bylbiau… popeth!” - gyda’u tai crand, ceir mawr, cychod mwy a phont yn arwain o’r ardd i ynys fechan bersonol. Mae’r boneddigion bellach wedi codi pac, a thai fel Plas Rhianfa, château gothig pymtheg llofft o’r Oes Fictoria, ar werth yn y felan economaidd.


O Fôn i Feirion, a chyfres newydd Straeon Tafarn (P.O.P 1) sy’n dilyn taith Dewi Pws a’i fand gwerin Radwm yn hel tai potas y wlad. Dechreuodd y rhaglen gyntaf nos Wener diwethaf gyda chasgliad o straeon am filltir sgwâr Tafarn y Ring, Llanfrothen. Difyr, er nad gwreiddiol ar y naw. Bro gyda pheint i bob pwrpas.