Melltith y bennod gyntaf


Peth perig ydy gormod o heip. Dwi’n cofio cael fy mhledu gan gardiau post, hysbysebion teledu a phosteri ar dîn bysus pan lansiwyd Y Pris, cyfres oruchelgeisiol braidd am gangstyrs drama o'r gorllewin gwyllt. Ac yn ddiweddar, cefais gerdyn post, gwahoddiad i ddangosiad arbennig yn Aberhonddu, a chip ar gyhoeddusrwydd ITV Wales fel rhan o ymgyrch newydd S4C i ddenu’r di-Gymraeg. A hysbysebion tywyll ar y naw oedden nhw hefyd, gyda merch ifanc ofnus yn cydio’n dynn-dynn mewn bat criced a montage o gymeriadau bygythiol, blin, neu brudd i gyfeiliant cân fyrlymus yr Ods. Roedd un o’m cydweithwyr yn meddwl mai prosiect diweddaraf Delyth Jones, awdures Cwcw, deinosors a wok, oedd hi. Ond na, Jones arall sydd wrth y llyw yma - Siwan Jones, sy’n gyfrifol am rai o gampweithiau dramâu teledu Cymraeg.

Ond mae byd - os nad bydysawd - o wahaniaeth rhwng Alys â’i gweithiau blaenorol a enillodd wobrau BAFTA Cymru a chlod a bri Ewropeaidd. A dyw hynny ddim yn arwydd da iawn. Ystyriwch aelodau o’m teulu, er enghraifft. Roedd pawb wedi mopio’n lân hefo Tair Chwaer am hwyl a helbulon criw canu gwlad yn y Gwendraeth, a Donna Edwards ar ei gorau fel Sharon. Ymateb rhanedig gafodd Con Passionate, gyda rhai o’r to hŷn yn casáu’r golygfeydd swreal bob tro’r oedd Eurof â’i ben yn y cymylau. Yn bersonol, roeddwn i’n g’lana chwerthin. Ar ôl y bennod gyntaf o Alys nos Sul diwethaf, “hen lol” a “rybish” ges i dros y ffôn. A phrin y gwenais i heb sôn am chwerthin. O diâr.

Drama dywyll heb yr hiwmor arferol gawson ni yn y bennod gyntaf, wrth i Alys (Sara Lloyd Gregory) a’i mab dengmlwydd oed Daniel (Zachary Mutyambizi) ffoi o Gaerdydd i fyw mewn twll o fflat “rhywle yn y gorllewin” yng nghanol llygod mawr a chymdogion hanner pan fel y gweinidog alcoholig. Ac mae perchnogion busnes y dref fel haid o lygod mawr annymunol, gyda Ron (Ifan Huw Dafydd wedi’i lapio mewn cryn dipyn o badin!) y Maer yn ymgnawdoliad perffaith o’r cyfalafwyr barus a llwgr sy’n pesgi ar draul pawb arall. Ond mae yna botensial am hiwmor yng nghymeriadau’r ddau frawd a’r mân-ladron anobeithiol, Kev (Aled Pugh) a Shane (Carwyn Glyn - croeso i wyneb newydd). Rhaid aros tan yr ail bennod i brofi’r hiwmor du arferol a rhagor awgrymiadau am broblemau’r cwpl ffug-barchus ac anghymarus Toms a Heulwen. Heb os, mae’r naws ffilmig yn wledd i’r llygaid wrth i’r camera lifo a’n tywys o un fflat i’r llall. Ond dwi’n ofni fod llawer o wylwyr eisoes wedi gadael ar sail y bennod gyntaf anodd hon, sy’n hollbwysig i sicrhau teyrngarwch am weddill y gyfres.

Efallai fod rhai wedi penderfynu dilyn Baker Boys ar BBC1 Wales/Eve Myles am rywfaint o ysgafnder diddrwg-didda nos Sul, lle mae criw o gymeriadau Belonging-aidd yn uno i achub eu bywoliaeth mewn becws.


Rhai o gymeriadau cwmni 'Valley Bara', nady fe?