Calon cenedl frenhinol

Anti Gladys yn barod am ddarllediadau cynhwysfawr S4C o'r Briodas Fowr


Ro’n i’n swp sâl wrth wylio’r newyddion un noson wythnos diwethaf. Na, nid teimlo dros brotestwyr gorthrymedig Tripoli na thrueiniaid Christchurch. Doedden nhw ddim yn haeddu’r brif flaenoriaeth gan olygyddion newyddion Prydain - a’r Post Prynhawn ar Radio Cymru. Yn hytrach, rhoddwyd sylw di-ri i bâr o Saeson breintiedig a lansiodd fad achub newydd sbon ym Môn. Roedd trigolion a thwristiaid Bae Trearddur yn gwlychu’u hunain mewn perlewyg, a gohebwyr Wales Today a Wales Tonight yn sefyll yn dalog ochr yn ochr â gohebwyr CBS ac NBC News America wrth adrodd y stori frenhinol “fawr”. A chlywyd bonllefau a chanmoliaeth gan Fwrdd yr Iaith ar ôl i Kate ganu fersiwn “word-perfect” o Hen Wlad fy Nhadau yn ôl The Telegraph. Neu fersiwn John Redwood i chi a fi.

Anghrediniaeth wedyn o ddeall bod y Sianel Gymraeg yn bwriadu ymuno â’r syrcas fawr i ddod, yn ôl datganiad i’r wasg ar raglenni’r gwanwyn. “Gyda phriodas y flwyddyn yn digwydd ddydd Gwener 29 Ebrill, bydd S4C yn dathlu gyda’r Tywysog William a Kate Middleton mewn rhaglen arbennig Y Briodas Frenhinol”. Beth felly? Beti George yn gyrru bws Posh a Becks i Abaty Westminster, Glyn Wise yn gyfrifol am goluro’r Cwîn, a Dai Llanilar yn rhoi eisin ar y gacen, mewn fersiwn newydd, arbennig, o’r
Briodas Fawr (2004-07)?

Yn ôl y Sianel, gallwn ddisgwyl darllediad o’r briodas gan BBC Cymru, a rhaglenni eraill gan dîm Y Byd ar Bedwar ac Wedi 7. Efallai na fydd pob rhaglen yn chwifio Jac yr Undeb o blaid y cwpl hapus. Hwyrach y cawn ni drafodaeth ar bwrpas a pherthnasedd y frenhiniaeth i Gymru ddatganoledig-fregus yr unfed ganrif ar hugain. Ond a oes wir angen hyn o gwbl? Byddai’n ganmil gwell pe bai’r gwyliwr cyffredin yn gallu troi at S4C fel dihangfa rhag y sbloets fawr ar 29 Ebrill. Dylai Huw Edwards, cyflwynydd y seremoni ar BBC1, fod yn ddigon i blesio’r Cymry Prydeinig o’n plith hyd yn oed os
nad yw'r Saeson yn cytuno. Neu ydy pen bandits Parc Tŷ Glas yn ceisio chwarae’n saff a swcro Adran Ddiwylliant San Steffan trwy ddangos nad hen Gymry bondigrybwyll yn cadw sŵn mohonynt?

Dwi’n synnu’n fawr iawn fod Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis a chyflwynwraig y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, o bawb yn bwriadu ymhél â’r fath beth. Ar y llaw arall, un o is-gwmnïau Tinopolis sy’n gyfrifol am un o berlau dramâu teledu’r flwyddyn hyd yma - The Promise (Daybreak Pictures) ar Channel 4, hanes merch ifanc sy’n cael agoriad llygad yn yr Israel fodern wrth ddilyn dyddiadur ac ôl troed ei thaid a fu’n rhan o lu cadw heddwch Prydain ym Mhalestina yn y 1940au.

Ac yn ddewis amgen grymus a gwefreiddiol i’r rhai ohonom sydd heb fopio ar Alys ar nos Sul.