Triawd mewn tracwisg, trenyrs gwyn, a chapiau pêl fas yn cuddio hanner eu hwynebau gwelw, yn cerdded drwy’r stad i gyfeiliant rap-hip-hop-garej-neu-beth-bynnag. Y tri’n ymwelwyr rheolaidd ag un o dai lojins Ei Mawrhydi, ac yn cyfaddef fod y carchar a’i fwrdd pŵl yn cynnig cyfleusterau gwell i ladd amser nag adre. Cwyno wrth y camera am y diffyg cyfleoedd a chyflogaeth yn y Dre er gwaetha’r parc diwydiannol drws nesaf. A chwerthin yn drist wrth gyfeirio at ymateb pobl eraill atynt fel ‘rafins’ lle mae ‘pawb yn edrach fel tramps’ ac yn methu fforddio’r dillad ‘iawn’. Pum munud agoriadol digon syber i Cegin Cofi (Cwmni Da) a gychwynnodd neithiwr. A chyn inni droi’n Daily Mail-aidd i gyd a’u cyhuddo o fyw’n fras ar setiau teledu sinematig a BMWs a brynwyd gyda budd-daliadau, cawsom gip ar gartre’ truenus a thamp teulu ifanc ‘Sgaw’ lle’r oedd y gegin yn prysur ddadfeilio. Am gelpan cyhoeddus i Gartrefi Cymunedol Gwynedd! Anobaith neu beidio, roedd Sgaw a’i fêts Dean a Jamie a Dave yn benderfynol o weddnewid eu byd trwy ymuno â menter newydd a chyffrous gyda fan fwyd. Eu bwriad ydi dysgu sgiliau coginio ac ennill cyflog go iawn trwy werthu prydau ffres ac iach ar strydoedd seimllyd Sgubor Goch. A dyma gyflwyno’r arlwywr profiadol a’r cymer lleol Kenny Khan i roi’r hogs ar ben ffordd. Ond nid gwirfoddolwr dosbarth canol na phlismon bwyd nawddoglyd mohono - mae’r hanner Afghan, hanner Cymro byrlymus hwn yn siarad o brofiad, ar ôl dianc o gartref plant Birmingham yn 12 oed i gyfnod o “ddwyn, cwffio, detention centre, dwyn, cwffio, jêl”. Erbyn heddiw, mae wedi callio a derbyn cyfrifoldeb fel tad ei hun, yn union fel nod ‘Sgaw’ ac eraill. Ac roedd edmygedd y criw ifanc ohono’n amlwg, wrth iddyn nhw ymgynnull yn nhŷ Kenny i drafod syniadau, chwarae gwyddbwyll a choginio, ym, selsig a byrgyrs. O wel, dechrau wrth eu traed amdani. A gwelsom y criw yn derbyn clamp o bopty newydd sgleiniog fel cyfraniad i’r fenter gan fusnes lleol. Mi fuasai Dai ‘Big Society’ Cameron wrth ei fodd. Ar wahân i drosleisio Mari Rowland Hughes, rhaglen y bobl oedd hon gyda’r cyfranwyr yn rhydd i siarad ymysg ei gilydd, tynnu coes a diawlio o flaen camera. Diolch byth, serch hynny, am 888 i’r rhai ohonom nad ydym yn rhugl yn iaith ‘Sgubs’. Nid y botwm coch a ddefnyddiais am 8.30 nos Sul diwethaf, ond y switsh diffodd. Gyda Rhydian a Mark Evans wedi cael mwy na’u siâr o sylw gan S4C, cafodd seren wib ddiweddaraf y Sianel - a seren un o gas-hysbysebion pennaf Prydain ar hyn o bryd - raglen awr a hanner iddo’i hun. Cyngerdd Cothi a Sioe ’Dolig fydd hi nesa… Cegin Cofi, 9 o’r gloch nos Fercher.