Lawr ar lan y môr




Fuoch chi erioed mewn parti ble mae rhywun yn tawelu’r disgo ac yn mynnu sylw pawb gyda rhyw gyhoeddiad neu araith fach emosiynol. Na fi chwaith. Hawlio’r bar neu’r ciw vol-au-vent fydd hi yma. Ond mae pethau’n wahanol mewn dathliadau dramâu teledu. Mae Garry Monk o bawb yn dipyn o areithiwr/bôr partïon bellach, fel yn nathliad dyweddïad ei chwaer Britt a Siôn White yn Newcastle bell - sy’n swnio tipyn Cymreiciach na’n Newcastle Emlyn ni, yn ôl penodau diweddar ‘Geordies y Cwm’. Ac yn nrama newydd nos Sul, roedd sylw partïwyr Porthpenwaig wedi’i hoelio ar Ynyr ap Hedd a’i dri - ia, TRI - llwnc destun i’w sgolor o fab, Huw Ynyr, a’i ddarpar wraig ifanc. Mab sydd, gyda llaw, yn simsanu rhwng dwy ferch a dau Fae - rhwng Gwenan ei gariad bore oes a dyletswyddau teuluol ym mae Aberdaron (sori, Bae Porthpenwaig) a’i flonden ar y slei a gyrfa newydd ym mae Caerdydd.

Croeso i westy’r Angor mewn pentref glan môr ym Mhen Llŷn, gyda llond lle o Gymry glân a checrus, ‘fusutors’ trafferthus, Ficer ffeind o’r Sowth, triongl serch ifanc a pharti cerdd dant. ’Roedd yna gryn dipyn o sbort ymhlith ffrindiau pan welwyd hysbysluniau’r gyfres, gyda rhai’n ei chymharu â fersiwn pobl hŷn o Cei Bach i Ballykissangel neu Teulu ‘pendraw’r byd’ chwadal pobl leol. Diolch i’r drefn nad oes brodyr yn ffeirio gwragedd ei gilydd yn hon… hyd yma beth bynnag. Rhyw Home and Away roeddwn i’n ei gweld hi, er mai’r unig liw haul welwch chi ydi wyneb lledr Largo (John Ogwen) yr hen ’sgotwr sarrug sy’n gorfod ildio’i swydd yn yr Angor i fab y perchennog. Rhwng Largo a’i wraig biwis, Ann (Iola Gregory), mae’r ddau’n ddigon i ladd diwydiant ymwelwyr hollbwysig yr ardal am byth. Ond mae yna ddigonedd o hwyl yng nghegin y gwesty, yn enwedig gyda Gwyneth Tŷ Cerrig wrth y llyw - hen ferch ifanc sy’n prysur sgramblo, ffrïo neu botsio wyau i frecwastau (rôl addas iawn i Delyth Eirwyn, actores y ffilm gomedi Omlet - beth ddigwyddodd i’r dilyniant gyda llaw?), ac sy’n gwneud llygad llo Llŷn ar y Ficer Dewi Aeron o bell. Gyda llaw, roedd yr olygfa yn y fynwent rhyngddo fo ac Edna a gollodd ei gŵr ar swnt tymhestlog Enlli, yn chwithig braidd - gyda sgwrs hir a dwys am ddiawlio Duw a cholli ffydd eiliadau yn unig ar ôl iddyn nhw anfon cerddwyr o Saeson ar ben ffordd. Ôl llaw Aled Jones Williams, y cyn-ficer a chydawdur Cefin Roberts efallai?

Does dim dwywaith y bydd hon yn plesio cynulleidfaoedd traddodiadol nos Sul gyda digon o hwyl a haul a golygfeydd camera gwych yn wrthgyferbyniad llwyr i dywyllwch dudew Alys. A hwb aruthrol i’r diwydiant ymwelwyr cartre yn Aberdaron.

Porthpenwaig, bob nos Sul, 9-10pm