Gwylio ar lawr gwlad



Mi fentrodd cyfaill y Cymry Cymraeg dros y ffin wythnos diwethaf. Dim ond cyn belled â Chasnewydd, cofiwch chi, fel bod ganddo un droed ar Bont Hafren rhag ofn i gwynwrs Cymdeithas yr Iaith ei erlid. Nod Jeremy Hunt oedd cyflwyno a thrafod ei syniadau ar gyfer sefydlu sianeli teledu lleol yn hyd at bymtheg ardal ym Mhrydain erbyn 2015. O ran Cymru, bydd trefi’r Wyddgrug, Hwlffordd a Chaerfyrddin yn gallu gwneud cais am drwydded teledu bro yn ogystal â dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Bangor. Mantra’r Bonwr Hunt yw bod “awch am deledu” lleol, gydag o leiaf awr o newyddion lleol bob dydd.


Syniad Americanaidd yw hwn wrth gwrs, ac mae gan ddinas gyfatebol Bangor yn nhalaith Maine, UDA, bedair sianel deledu leol - gan gynnwys sianel WLBZ Bangor sydd ar waith ers 1952. A bod yn realistig, dim ond cais Caerdydd sy’n debyg o ddwyn ffrwyth, gyda sianel y brifddinas yn debygol o gyrraedd 500,000 o gartrefi o Ben-y-bont i Gasnewydd. S4/Kaaardiff tybed? Bydd £40 miliwn o drwydded y BBC ar gael i roi’r sianeli bro ar ben ffordd, ond ar ôl hynny, pawb drosto’i hun fydd hi. Ac mewn cyfnod pan fo papurau newydd yn colli hysbysebion fel slecs, a’r dirwasgiad yn para’n hirach na saga’r Cae Ras, mae’n anodd gweld o ble y daw’r arian i gynnal y mân-sianeli newydd hyn.

Byddai’n llawer rheitiach inni gael gwasanaeth band-eang neu Freeview call ym mhob cwr o Gymru’n gyntaf, neu ddefnyddio’r arian hwn i gryfhau S4C, BBC ac ITV yng Nghymru. Mae’n rhyfedd fod Jeremy Hunt yn hyrwyddo’r syniad hwn nawr, ac yntau wedi rhoi’r farwol fis Mehefin diwethaf i gynllun newyddion peilot Wales Live gan gonsortiwm Ulster TV a NWN Media Cyf, ar ITV Wales. Mewn byd delfrydol, byddai Wales Today a Wales Tonight yn rhaglenni tri chwarter awr o hyd, gyda’r hanner awr cynta’ yn canolbwyntio ar newyddion cenedlaethol Cymru, a’r chwarter awr olaf yn adrodd straeon o ddiddordeb mwy ‘rhanbarthol’ wedyn - yn darlledu o stiwdios prif ganolfannau sirol y wlad. Arferai Radio Cymru ddarlledu bwletinau newyddion a chwaraeon, tywydd a thraffig penodol i’r Gogledd, y Gorllewin, y Canolbarth a’r De ganol y 90au, cyn dychwelyd i’r drefn ganolig o Gaerdydd a’r byd. Ac roedd rhaglen gylchgrawn nosweithiol Heno yn tu hwnt o boblogaidd yng nghymoedd Tawe, Aman a’r Gwendraeth gan fod pwyslais arbennig ar y bröydd hynny. Diawch, roedd hyd yn oed Iestyn Garlick wedi mabwysiadu acen Cwm-twrch.

Ac am addewid Jeremy Hunt y byddai croeso i’r sianeli newydd hyn ddarlledu’n Gymraeg yn ogystal â Saesneg, wel, mae profiad Radio Ceredigion yn awgrymu fel arall…