Chwifiwn ein Sbaneri


 
Ddechrau’r nawdegau, fe wnes i a chyd-aelodau Cymdeithas yr Iaith Prifysgol Caerdydd ddilyn esiampl grŵp pop y Chwyldro a chwifio ein sbaneri. “Rhaid yw eu tynnu i lawr” oedd y gri pan ryddhawyd y gân honno ym 1971, felly ffwrdd â ni gefn liw nos i ddinoethi dwsinau o arwyddion Cardiff City Council Parking Permit yng nghysgod yr hen Swyddfa Gymreig. Rhyw chwyldroadwr chwannen oeddwn i braidd, gyda nghalon yn curo fel gordd ar ôl gweld fy narlithydd Cymraeg - o bawb - yn y ciw wrth dalu am ysgol ddringo yn siop DIY y noson honno. Chwysu chwartia wedyn wrth ddringo i ben yr ysgol i ddadsgriwio’r arwyddion, a dychmygu mai’r glas oedd bob car a basiai. Dyn â ŵyr sut brotestiwr fuaswn i wedi bod yn oes aur y 60au a’r 70au. Un fwy dewr efallai, gan ei bod yn ymddangos bod pawb wrthi yn ôl ffilmiau archif Cymdeithas yr Iaith yn 50 (Rondo). Am raglen ddogfen wych a theyrnged hyfryd i’r llu a aeth i’r carchar dros gymaint o’r hyn rydym ni, y genhedlaeth fwy llywaeth a chysurus ein byd, yn eu cymryd mor, mor ganiataol rhwng S4C, arwyddion ffyrdd a ffurflenni dwyieithog a botwm hunanwasanaeth Cymraeg yn rhai o archfarchnadoedd a banciau’r stryd fawr. Tybed faint o Eileen Beasleys, y wraig o Langennech a gollodd lawer o’i heiddo a’i hanrhegion priodas i’r beilis ym 1959 am wrthod talu bil treth uniaith Saesneg, sydd gennym heddiw? Disgrifiodd Emyr Llywelyn hi fel “arwres fawr y cyfnod” a sbardunodd ddarlith radio enwog Saunders a sefydlu Cymdeithas yr Iaith maes o law yn Awst ’62.

Tipyn o gamp ydi croniclo hanner canrif o hanes mewn awr, ac mi lwyddodd y rhaglen hon i wneud hynny dan arweiniad solet Gwion Lewis, brodor o Langefni sydd bellach yn fargyfreithiwr yn Llundain. Braf cael cyflwynydd perthnasol i’r pwnc trafod, sy’n hyddysg yn y Gymraeg yng nghyd-destun cyfreithiau Ewrop a thu hwnt, yn lle wyneb ifanc del sy’n dringo o fyd rhaglenni plant. Trwy gyfweliadau, lluniau newyddion a chaneuon protest, clywsom sut y datblygodd y Gymdeithas o fod yn fudiad protest ieithyddol yn unig yn oes McMillan a Wilson i gynghreirio â’r glowyr a’r mudiadau heddwch a gwrth-apartheid yn yr 80au Thatcheraidd, colli’i ffordd rhywfaint yn y 90au cyn cael ailwynt yn ddiweddar gan ddenu miloedd i ymgyrchu dros ddyfodol sicr i’r Sianel Gymraeg.

Ar ôl hynny, cawsom benwythnos i godi’n gwydrau a mwynhau Gig 50 ar S4C gyda’r dihafal Lisa Gwilym a Gig Hanner Cant ar Radio Cymru yn fyw o Bontrhydfendigaid. Darlledu gwych a chwa o awyr iach i’r holl Only Rhydian & Bryn Aloud sy’n tra-arglwyddiaethu ar y Sianel yn ddiweddar. Ond beth am wasanaethau’r iaith fain? Yr unig gyfeiriad at y garreg filltir bwysig hon glywais i oedd cyfweliad chwe munud gyda Gruff Rhys ar sioe Adam Walton Radio Wales, sy’n gefnogwr brwd o’r sin Gymraeg chwarae teg. Adam Walton, hynny yw, nid Radio Wales. Ac roedd sawl neges drydar yn gresynu na chafodd fersiwn Saesneg o ddogfen Rondo ei darlledu ar BBC Wales, er mwyn addysgu’r amheuwyr.

Nid bod pob copa walltog Cymraeg yn gwbl sicr am Gymdeithas yr Iaith chwaith, fel y gr’aduras o Bontardawe ar raglen Newyddion wythnos diwethaf a oedd yn amau mai llosgwyr tai haf ydyn nhw...