Hapus braf?




Mae Cymru hydrefol yn ddiawl o sioc i’r system, a’r tân nwy ymlaen wedi wythnos o eli haul ffactor pum deg ym Mhortiwgal. Ac o! roedd hi’n braf bod mewn gwlad sy’n rhan o ferw gwyllt yr Ewros - y syrcas pêl-droed nid y smonach ariannol - ac ymuno â channoedd o Lisboetas i wylio’r cyfan ar set deledu’r caffi-bar yn un o barciau’r brifddinas, yn lle gwrando ar glochdar ein cymdogion. Roedd y wasg a’r cyfryngau yno wedi mopio’n lân efo tîm Paulo Bento, gyda rhaglenni newyddion nosweithiol RTP1 a TV1 yn canolbwyntio’n llwyr ar y buddugoliaethau yn Nwyrain Ewrop ac ymateb y ffans adra a thraw cyn cyfeirio’n sydyn at Syria a llanast economaidd eu cymdogion, Sbaen. A rhwng llu o hysbysebion siampŵ a sent yn cynnwys Ronaldo, roedd yna hen benodau o Mad Men gydag isdeitlau Portiwgaleg ac opera sebon neu telenovela giami iawn iawn o’r enw ‘Dancin’ Days’ wedi’i gosod yn Lisbon. ’Nôl adre, ac mae sylwadau gwrthrychol criw Ar y Marc ar Radio Cymru yn chwa o awyr iach ar ôl tîm jingoistaidd BBC1, os gallwch chi oddef mwyseiriau Dylan Jones hynny yw. Unwaith eto, mae’n bechod nad oes yna rifyn arbennig o Sgorio er mwyn cael isafbwyntiau ac uchafbwyntiau’r twrnamaint o safbwynt niwtral-Gymreig. Rhyw raglen hanner awr fach handi i lenwi’r bwlch wrth i’r tywydd roi taw ar ddarllediadau gemau criced-a-chynghanedd S4C. Dim ond gobeithio na fydd Ifan y Glaw yn amharu’n ormodol ar yr Ifan arall wrth iddo ddilyn llwybrau’r hen Romani o Langrannog i Abergwaun, gyda chymorth cantores opera fythol frwdfrydig a gwerthwr ceir fel hanesydd Y Sipsiwn. Wedi dwy gyfres yn olrhain hanes y porthmyn a’r goets fawr, mae hon bellach yn rhan mor annatod o arlwy hafaidd S4C â’r Sioe a’r Steddfod. Gobeithio y cawn ni fwy o straeon diddorol gan wybodusion lleol, a llai o olygfeydd o Ifan a’r garafan yn taro heibio ysgolion y fro.

 Ar ôl dadbacio, dyma ddal i fyny efo cyfres newydd Perffaith Hapus gyda Lisa Angharad yn ymchwilio i’r pwysau sydd arnom i fod yn fodlon ein byd - o golli pwysau, magu cyhyrau ac ennill enwogrwydd. Y cymar perffaith oedd dan sylw’r wythnos diwethaf, gan holi pobl fel Kirsten Wade a gafodd fachiad ar gyfres Take Me Out ITV, cwpl ifanc o Lŷn a oedd ar dân eisiau sbloets traddodiadol mewn capel ac Arthur Smith Jones sy’n hapusach gyda’i beint bellach er gwaetha’ pum tatŵ i’w gyn-gariadon (“Shirley yn bora a Rose yn p’nawn”). Llai o siarad seicolegol diflas Dr Mair Edwards os gwelwch yn dda, a mwy o’r gyflwynwraig mwyaf naturiol o ddoniol ar y Sianel ar hyn o bryd. Roedd wyneb Lisa Angharad yn bictiwr wrth iddi gwrdd â rhai o ddynion lleia’ rhamantus Abertawe mewn noson wibganlyn neu speed dating yn y ddinas.