Ddeudais i do? Ddeudais i fod ’na
ddramâu o safon o’n blaenau ni ar y bocs y tymor hwn. Mae Good Cop
ymhlith y gorau ar deledu Prydain ar hyn o bryd, heb os. Ie, drama arall am y
Glas, fe’ch clywaf yn ochneidio’n ddiflas, ond nid sioe sebon sarjants mo hon.
Yn hytrach, drama sy’n dilyn hanes heddwas ifanc diniwed o’r enw John Paul
Rocksavage (Warren Brown) â’i fyd yn troi ben i waered yn y modd mwyaf erchyll
posib ar ôl gweld ei gyd heddwas yn cael ei ddyrnu’n anymwybodol gan gyffurgwn
dialgar. Mae’r plisman da felly’n dial ei hun mewn rhwystredigaeth pur o weld y
giwed yn cael y getawê eto fyth. Ar ben hynny, mae’n braf gweld drama wedi’i
gosod yn Lerpwl am unwaith yn lle Llundain Fawr Hollbwysig. Mae ’na ôl gwobr
BAFTA yn hon.
A fydd yna wobrau i amserlen newydd
ein gorsaf radio genedlaethol yr hydref hwn? Mae angen rhywfaint o lwc beth
bynnag, wedi’r newyddion drwg fod 15,000 yn llai yn gwrando ar Radio Cymru o
gymharu â’r un adeg y llynedd. Mae’n amlwg bod hyn wedi sbarduno pen bandits yr
orsaf i dorchi llewys ac ailwampio’r arlwy. Y newid amylcaf ydi’r ffaith fod
Nia Roberts yn gwneud lle i Iola Wyn, gynt o Ffermio, yn slot 10.30 y
bore tan amser cinio. Arwydd, efallai, o’r awydd i beidio ag ymddangos yn rhy
Gaerdydd-a-Bangor-ganolog, a phlesio a denu mwy o wrandawyr y De-orllewin. Hwyrach
eu bod dechrau poeni am gystadleuaeth o du gorsaf gymunedol Gymraeg newydd
Radio Beca, a enillodd drwydded ddarlledu yng Ngheredigion, Sir Gâr a gogledd
Penfro. Beth fydd hanes Nia Roberts felly? Mae’n debyg ei bod am symud i'r pnawiau o ddydd Llun i ddydd Iau (yna Tudur Owen ar brynhawn Gwener) gan hergydio Geraint Lloyd i suo bois y loris rhwng deg a
hanner nos. A’r newydd gorau oll ydi bod Lisa Gwilym yn saff, ac yn hawlio’i
lle ar C2 bob nos Fercher o saith tan ddeg. Mae’n amlwg bod penaethiaid yr
orsaf wedi’u sgubo gan y tswnami o anniddigrwydd a gododd yn sgil y sïon bod
cyflwynydd mwyaf poblogaidd y sîn roc a phop Cymraeg am gael ffurflen P45. Ac
ar ôl lambastio’r cyfryngau Cymraeg am y diffyg sylw i ganu gwerin, dyma
groesawu’r cyhoeddiad bod Sesiwn Fach gydag Idris Morris Jones am
feddiannu awr a hanner bob prynhawn Sul. Haleliwia medda’ fi.
Tra bod bron popeth arall gweddnewid, mae’n
rhyfedd bod dwy o raglenni eraill bore’r wythnos yn aros yn eu hunfan. Mi
fuasai’r Post Cyntaf yn elwa ar addasu yma ac acw, fel arwyddgan newydd,
llai o ailadrodd syrffedus mewn bwletinau, a mwy o olygyddion gwâdd fel dros yr
haf. Mae rhaglen Dafydd a Caryl yn dal i bara, ond lwc owt tro nesa’r
ewch chi ar wyliau. Mae ’na berig i gyflwynwyr gwâdd fel Daniel Glyn a Sarra
Elgan gael cystal hwyl arni, nes gwneud i rhywun deimlo y buasai rhywfaint o
newid yn chênj bach neis wedi’r cwbl…