Mae Radio
Cymru yn gymar anhepgor ar ein ffordd drol genedlaethol rhwng y De a’r Gogledd.
Ar bnawniau-nos Sul yn bennaf. Y Radio Cymru draddodiadol hefyd, llawn
sgyrsiau, cerddoriaeth werin, byd y Pethe Dei Tom, a Dai Jôs â’i hen ganiadau a
chyfarchion pen-blwydd Meri Pen Doman i Wil Tŷ Clawdd. Ond fydd yr elfen werin
ddim yn gyfeiliant i droadau chwil Caersws mwyach. Diolch i ailwampiad Betsan
Powys o ddechrau Ebrill mlaen, fydd dim mwy o Sesiwn Fach ar y radio
gyfaill. Yn hytrach, bydd nostalgiafest John Cofio Hardy a rhaglen hys-bys, caneuon
a chyfarchion Hywel Gwynfryn yn rhoi cic owt i Idris Morris Jones a’i gyfoeth
gwerin Cymru a’r byd. Pan nad oedd rhyw gêm rygbi/bêl-droed bwygilydd wedi tewi
IMJ yn barod. Diolch i’r Sesiwn Fach, dw i wedi clywed am Jamie Smith’s Mabon
am y tro cyntaf, a mopio arnyn nhw ac eraill fel 9Bach am roi cot o baent
ffres i’n tiwns traddodiadol ni. Roedd Gwlad y Gân, cyngerdd agoriadol gŵyl Womex
ar S4C gyda’r pethau gorau a welais erioed, yn gymysg o Cerys, Cass Meurig,
Patrick Rimes a’r bytholwyrdd Sian James i enwi dim ond rhai. Mae Calan yn mynd
â cherddoriaeth Gymraeg i’r Unol Daleithiau, ein hartistiaid yn ennill gwobrau gwerin Radio2, a chynlluniau diweddar megis 10 mewn Bws a Thŷ Gwerin ar faes y Brifwyl
yn arwydd o gyffro newydd yn ein sin angof o gymharu â’r Gwyddelod a’r Albanwyr.
Dyna sy’n
gwneud clec Betsan Powys yn odiach ar y naw. Yn rhoi’r fwyell i’r rhaglen pan mae pethau gwirioneddol ar i fyny, yn hytrach na'n sdyc yn nyddiau Ar Log. Dw
i’n siŵr ei bod hi’n barod i amddiffyn y ffaith fod Georgia Ruth yn dal i
genhadu yn “slot newydd bob nos Fawrth... fydd yn cynnwys cerddoriaeth byd a
gwerin”. Yn union fel ei hen slot nos
Iau, felly. Peidiwch â chamgymryd. Dw i’n ffan o Georgia Ruth (“pwy yw’r
George a Ruth hyn?” holodd cydnabod un tro, fel petai o’r un stabal â John ag
Alun) ond pam na chawn ni DDWY raglen werin benodol ar yr unig orsaf Gymraeg sydd ganddon ni? Mi
glywn ni ormodedd o recordiau Saesneg yng nghanol rai Cymraeg gan Marci Jî,
Ifan Jones-Evans, Wil Morgan a’r pigyn clust ’na bob pnawn o ddau tan bump. Ond
mwy o werin gwlad? No way.
Mae Guto Rhun ar
fin diflannu o slot nos Lun a nos Wener oherwydd “...bod nifer y bobol ifanc
rhwng 15 - 24 oed sy'n gwrando, cynulleidfa darged wreiddiol C2 - yn isel.”
Does dim sôn mai ffigurau gwrando siomedig sy’n gyfrifol am dranc Sesiwn Fach.
Byddai’n anodd iawn iawn gen i gredu hynny beth bynnag.
Felly, diolch o
galon i Idris Morris Jones a’i westeion, ei adolygwyr a’i sesiynwyr byw am leddfu
rhywfaint ar deithiau’r A470 ar hyd y blynyddoedd. A rhag eich cywilydd chi ben
bandits Radio Cymru.