'Mynadd efo Marcella


 
Iawn, dyna ddigon o nordiskaladrad. Dim mwy plîs. Digon teg creu fersiynau ‘lleol’ o’r llwyddiannau Sgandi sydd wedi sgubo drwy’r byd megis y pedwarawd pop nid anenwog o’r 70au. Ar ôl Lloegr/Ffrainc ac America, Rwsia ydi’r wlad ddiweddaraf i ailwmapio Bron/Broen a’r ditectif-awtistig unigryw sy’n ymchwilio i lofruddiaeth erchyll ar ffin dwy wlad. Dw i wedi rhoi’r gorau i freuddwydio am fersiwn gyffelyb ar ganol Pont Hafren, i’w darlledu ar S4C a BBC4 neu Netflix gydag isdeitlau-ar-y-sgrin.

Marcella sydd dan y lach y tro ma. Cyfres dditectif ddiweddara ITV, gydag Anna Friel yn y brif ran. Cyfres a sgwennwyd gan Hans Rosenfeldt, crëwr The Bridge, wedi’i thrawsblannu i Ddinas Llundain (wrth gwrs) ac yn weledol debyg iawn i’r ‘hit’ noiraidd River ar y Bîb gyda Stellan Skarsgård a Nicola Walker. Mi straffaglais drwy’r bennod gynta, a ddim mwy. Mae’r plot yn cwmpasu tor-priodas, puteindra, pedoffilia, llofruddiaeth sy’n debyg i gasgliad ddigwyddodd dros ddegawd yn ôl a mater bach o amnesia a thrais domestig yn erbyn ei gŵr sy’n gwneud i chi amau ai DS Marcella Backland sydd wrth wraidd y cyfan. Diawcs, falle nad yw’n cofio’r ffaith iddi gladdu’i thad dan y patio sbel fawr yn ôl chwaith?!
 
Ond fel y dywedais, rhois i’r gorau iddi wedi’r bennod gyntaf yn unig. Wn i ddim yn union pam. Diffyg amynedd na chydymdeimlo â’r cymeriadau, prinder isdeitlau efallai. Gormod o haenau a chymeriadau da-ni-wedi’u-gweld-i-gyd-o’r-blaen. Yn syml, does dim byd newydd yma, a’r canlyniad felly yw ailbobiad symol iawn o’r Sgandis gwell.

Ys dywed Gerard O’Donovan yn y Telegraph:
TV’s Marcella is a series that’s making me wonder whether much of the success of Nordic noir crime dramas in recent years was simply down to the fact that we’d believe anything, no matter how ludicrous, so long as it was set in Scandinavia rather than Britain.

 
Gobeithio y bydd yna well siâp ar ddrama iasol nesa ITV nos Wener 29 Ebrill – The Secret gyda James Nesbitt, yn seiliedig ar stori wir am ddeintydd ac athrawes ysgol Sul gyhoeddus-barchus o Swydd Derry a laddodd eu partneriaid oes er mwyn parhau â’u haffêr, ac a gafodd getawe efo hi am ddeng mlynedd. Iasol yn wir. Dw i'n edrych mlaen yn barod, a Nesbitt wastad yn actor tebol.