Pwy
bynnag ydi Comisiynydd Adloniant Ysgafn S4C ar hyn o bryd, mae’n haeddu medal,
gwisg las yr Orsedd, tlws Dewi Sant, codiad cyflog, beth bynnag. Achos mae gan
y Sianel bellach ddwy - ie DWY - gyfres gomedi gwerth eu halen (tair os ydych
chi’n cynnwys y taeru a’r tynnu coes diddiwedd rhwng John Bŵts a Dilwyn Morgan
yn Codi Hwyl).
Y naill yn cynnwys Caryl Parry
Jones a’r llall Linda Bara Caws Brown a’i merch Caren. Genod yn bennaf felly.
Ys dywed un arall o greadigaethau enwog Caryl, “Beth sy’n digwydd?!”
Cyfresi
unigryw â’u traed yn solat ar ddaear y Gymru Gymraeg gyfoes, ac eto wedi’u
hanelu at farchnadoedd gwahanol. Mae Anita, ffrwyth sgetsh o gyfresi blaenorol
Caryl am nyrs cartra’r henoed a’i merch Joolz sy’n codi pac o’r Barri i Foelfre
ar ôl i’r dywededig Anita syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad efo
‘Beds’ (Bryn Fôn). Braidd yn amheus oeddwn i i ddechrau, ond bellach mae’r
cyfuniad ciwt o Gavin & Stacey, Stella a Hapus Dyrfa (cofio honna?) yn taro
tant ar nos Sul deuluol. Iawn, mae yna lond dwy de’n ormod o siwgr yn hon i mi
weithiau, ond mae’r camddealltwriaeth a’r clyfrwch geiriol Wenglish (sy’ wedi
codi gwrychyn ambell un), yr ensemble o gast gwych (o Rhodri Meilir y brawd
llywaeth i’r newydd-ddyfodiad naturiol Elis Owen fel mab Bedwyr) a’r arfordir
braf yn denu. A braf gweld Christine Humphreys yn dangos ei doniau comedi yn ei
hacen naturiol wedi’r camgastio anffodus yn Cara Fi? Adloniant perffaith i’r
teulu cyfan, obvs.
Tydi comedi nos Wener, ar y llaw
arall, ddim cweit mor addas i’r to bach er bod y crewyr Dim Byd yn dipyn o
ffefryn ymhlith plantos fy chwaer. Sbin-off arall o bennod untro’r llynedd am
gwmni teuluol sy’n trefnu lookalikes Cymraeg. Mae rhyw elfen Ab Fab yn hon,
gyda’r ferch gall ac aeddfetach (Caren) yn cadw’r busnes i fynd er gwaetha’r
fam fyrbwyll (Linda). O drefnu ‘Tommy Cooper’ sydd hefyd yn digwydd bod yn
Dudur Owen ar gyfer noson magic circle Rhuthun, i sicrhau Sandra Picton (Sian Weldon) ar gyfer tywysog Arabaidd sy’n
drewi o bres ac wedi mopio ar bocsets C’mon Midffîld, mae’n gythraul o hwyl. Mae’r
cyfeiriad at ‘Black David’ yn dal i ’nhiclo i, a’r olygfa skype swreal rhwng mam
a merch wrth i Linda gogio bod yn Magaluf yn lle rhyw Drafyloj yn ochra
Bangor. Yr ail bennod ydi’r ffefryn hyd yma.