Living a Lie





Mi fydd criw Tarian yn meddiannu’r Senedd cyn hir i ffilmio ail gyfres Byw Celwydd Noeth, sebon gwleidyddol S4C am glymblaid yr enfys. Gyda chryn dipyn o slochian Pinot noir, bargeinio mewn maes parcio tanddaearol a mwy o densiwn rhywiol na pharti Dolig staff a chriw’r chweched dosbarth. Cyfres sgleiniog gyda dawn deud Povey-aidd a phlot 70mya. Ond ys dywed ambell un...

 

Ta waeth am hynny, tybed a fydd y gyfres nesa’n wahanol i adlewyrchu’r Gymru ryfedd ôl-lecsiwn 2016? A fydd Dylan Williams (Mark Lewis Jones) ar y clwt r’ôl colli ei sedd gan adael dim ond ei wraig Catrin Williams (Eiry Thomas) megis meudwy’r Democratiaid? Fydd Rhiannon Roberts (Ffion Dafis) hyd yn oed yn fwy annioddefol o hunangyfiawn wedi’r chwip dîn i’r Sosialwyr yn eu cadarnle bore oes, a sicrhau ei sedd etholaethol gyntaf? A welwn ni fwy o’r Sosialwyr ffwl stop? A fydd Megan Ashford (Rebecca Harries) yn rhoi mwy o gur pen i’w bos a’r prif weinidog sleimllyd Meirion Llywelyn, trwy droi’n rebel porffor ac ymuno â newydd-ddyfodiaid brith y Cynulliad Cenedlaethol - Plaid Prydain - sy’n dreifio’n ddyddiol o’u cartref yn Wiltshire ar draul trethdalwyr Cymru? Ac a fydd Aled Gwilym (Rhys ap Trefor), ymgynghorydd neu SPAd y prif weindiog, yn bachu sbync go iawn trwy gyfrwng Volcano, hoff app Iolo White Pobol y Cwm, ac anghofio am y sbrych newyddiadurwr yna sy'n twyllo-a-chwtsio’i wraig am yn ail? Ac wrth gwrs, petai hon yn ddrych o’r Cynulliad go iawn, byddai’n gyfres fwyfwy ddwyeithiog - gyda’r Saesneg yn ben wrth gwrs - fel Hinterland BBC Four.

Mae’n argoeli i fod yn gyfres – a Senedd – go danllyd a d’eud y lleiaf.