2017

 
Blwyddyn newydd dda! All 'leni ddim bod ddim gwaeth na llynedd. Ac eto, dyma flwyddyn urddo Trymp yn Arlywydd un o wledydd mwyaf pwerus y byd, a'r flwyddyn y bydd Mrs T (naci nid honna) May yn sbarduno Brecsit caled coch gwyn a glas er mwyn rhyddhau Britania o hualau Joni Fforunar ddiawl. Ydi hynny'n golygu na fydd Royaumi Uni yn cymryd rhan yr Iwrofishyn yn Kiyv fis Mai?
 
Ta waeth, mae yna ddigon i'n cadw'n ddiddig dros y gaeaf ar ôl Dolig go bethma ar y bocs bach a ffigurau gwylio'r gyda'r isaf ers cadw cofnodion ym 1981 - yn yr iaith fain o leiaf. Call the Midwive oedd rhaglen fwya poblogaidd Dolig '16, gyda 9.2 miliwn o lygaid sgwâr.
Cymharwch hynny â Dolig '86 pan drodd 21.8 miliwn i wylio premier y DU o Crocodile Dundee. Yn bersonol, drama unigol Sarah Wainwright (athrylith Happy Valley, cyfres ddrama orau 2016 heb os) To Walk Invisible am ymgais y chwiorydd Bronte i lenydda i lwyddiant oedd fy fferfryn i'n bersonol. Cafwyd mwy o flas ar gynhyrchion S4C dros wyl y gormodedd. Gwylio perffaith i'r teulu cyfan yn ffilm Albi a Noa yn achub yr Iwnifyrs serch fy sinigiaeth gychwynnol am blant bach ciwt a chaneuon siwgwrllyd gan y Parry-Jonesiaid; siwrnai emosiynol Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu yn hel achau Gwyddelig a dwy raglen arbennig yn bwrw dychanol yn ôl ar O'r Diwedd: 2016 Am Flwyddyn! Mae sgetshis deifiol Tudur Owen a Sian Harries am bartis Dolig trist yr Aelodau Cynulliad (oedd Dafydd El a Kirsty Wilias yn gwylio?) a'r gyfres dditectif ddwyieithog "The Void / Y Canolbarth" gyda'i sgript gwgl transate a'r actio syllu-i-nunlla, yn dal i diclo. Mwy yn 2017 plis S4C!

 
Llai o edrych nol.Ymlaen piau hi. Dyma flas ar uchafbwyntia dramatig yr wythnosau noethlwm i ddod.
 
Byw Celwydd (S4C) Well i mi gychwyn gyda chyfres Gymraeg. Criw cecrus, dauwynebog, godinebus CF99 yn dychwelyd am ail gyfres dan law Meic Povey a Branwen Cennard. Disgwyliwch fwy o gymeriadau glam ond digon annifyr ar y cyfan, efo lot o decstio a chyfarfodydd mewn bariau a meysydd parcio danddaer. O, a golygfeydd yn siambr y Senedd am y tro cyntaf erioed. Sgwn i oes na aelodau o'r Blaid Biws i ychwanegu mwy o realaeth i'r cyfan? Gyda Catherine Ayres, Mathew Gravelle a Richard Elfyn yn ei elfen fel prif weinidog mor sleimllyd â'i wallt.
 
Fortitude (Sky Atlantic) 2il gyfres ddrama ddirgelwch wedi'i gosod mewn tref ddychmygol ar gyrion Cylch yr Arctig gyda smörgåsbord o actorion Llychlynaidd, Prydeinig ac Americanaidd. Er nad yn yr un cae â Trapped o bell bell ffordd, mae'r eira mawr, brwydr dyn yn erbyn natur a dynion eraill ac elfennau swreal yn dal i ddenu. Rhybudd - bydd angen stumog fel haearn Sbaen ar brydiau. Gyda Sofie Gråbøl, Richard Dormer, Denis Quaid a Ken Stott dibynadwy o dda.
 
The Unforgotten (ITV) Un arall sy'n dychwelyd am yr eildro. Cyfres dditectif arall, ond hôld on Now John, cyfres sy'n ailagor hen achosion angof. Y tro hwn, mae'r ddeuawd effeithlon DCI Cassie a DI Sunny Khan (Nicola Walker a Sanjeev Baskhar) yn ymchwilio i gorff dyn a ganfuwyd mewn siwtcês mewn camlas ar gyrion Llundain. Pos ychwanegol iddyn nhw, a ni'r gwylwyr, yw'r holl gymeriadau gwasgaredig eraill - y cwpl hoyw o Brighton sy'n ysu i fabwysiadu, athrawes uchelgeisiol o Gaersallog, nyrs ganser o Lundain a ditectif arall o'r Cotswolds ar fin ymddeol - beth yw'r cysylltiad rhyngddyn nhw a phwy sydd â gwaed 20 mlwydd oed ar ei ddwylo. Roedd y bennod gyntaf yn gafael - sut ddiawl fethais i'r gyfres gyntaf?
 
SS:GB (BBC) Drama newydd sbon gan sgwenwyr Skyfall, yn seiliedig ar nofel o 1978 o'r un enw gan Len Deighton, am Brydain (oce, Llundain) dan goncwerwyr Natsïaid wedi iddyn nhw ennill y Battle of Britain. Mae'r ditectif Douglas Archer yn chwarae â thân - a'r SS - wrth i ymchwiliad syml yr olwg i farwolaeth gwerthwr y farchnad ddu arwain at gyfrinachau atomig y mae'r Abwehr yn ysu i gael eu bachau arnynt. Gyda'r actor o fro Ogwr, Aneurin Barnard.