O Akureyri i Amsterdam





Gwlad yr Iâ. Gweriniaeth Lychlynnaidd â phoblogaeth Caerdydd yng nghanol unigeddau gwyllt gogledd yr Iwerydd. Lle mae pen dafad ar y fwydlen i’w olchi lawr â chwrw nawpunt y peint. Gwlad gyfoethog ei chwedloniaeth a’i chariad at lenyddiaeth - gydag arferiad hyfryd y jólabókaflóð (fflyd o lyfrau Nadolig - peidiwch â gofyn i mi ynganu) lle mae pob un wan jac yn rhoi nofel yn anrheg dan y goeden. Does ryfedd mai Ísland yw’r wlad sy’n cyhoeddi’r nifer fwyaf o lyfrau yn y byd fesul pen y boblogaeth. Gwlad o bensaernïaeth eiconig - mae cadeirlan goncrid Reykjavik yn ffefryn personol – a rhaeadrau, ffynhonnau poethion ac anialdir du sy’n debyg i greadigaeth CGI-aidd Hollywood. Ac yn y gogledd pell, 387km a phedair awr a hanner o’r brifddinas, ail ddinas Akureyri a chartref Andri. ‘Pwy ddiawl?’ meddech chi. ’Ol Ólafur Darri Ólafsson 'de, Wyddfa o blisman a chwaraeir gan Ólafur Darri Ólafsson. Croeso mawr yn ôl iddo fo ac ail gyfres o Trapped ar BBC Four bob nos Sadwrn.

Roedd angen canolbwyntio cryn dipyn ar hon, yn enwedig gyda phennod gyntaf llawn enwau egsotig-ddieithr lle mae pob Thór, Dagnýr a Heiðar naill ai’n perthyn o bell neu’n meddu ar farf a siwmper ’sgotwr. Ond sticiwch iddi a gadewch i’r dirgelwch a’r dirwedd anhygoel eich tywys am ddwy awr ar y tro. Ac os na lwyddodd yr olygfa agoriadol o ddieithryn yn cofleidio un o weinidogion y llywodraeth ar y stryd fawr cyn tanio petrol drostyn nhw, yna ewch nôl i Noson Lawen.



Cawsom ein difetha’n rhacs gan thrillers Ewropeaidd y penwythnos diwethaf, gyda chyfres newydd Baptiste ar BBC One nos Sul. Cyfres newydd, ie, ond yn seiliedig ar brif gymeriad dwy gyfres o Missing am y Ffrancwr cloff (Tchéky Karyo) sy’n sgut am ffeindio pobl ddiflanedig. Wedi cyfresi blaenorol yng Ngwlad Belg a’r Almaen, yr Iseldiroedd piau hi’r tro hwn, ac mae strydoedd pwdr Amsterdam yn gymeriad ynddo’i hun ochr yn ochr â’r tramiau cyflym a’r enfys o diwlips. Cynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol gyda phlethwaith o Ffrancwyr, Isdeldirwyr, Saeson a Rwmaniaid, a rhesiad o isdeitlau i wylltio’r Rees-Mogg-garwr selocaf.  Mae ’na flas Cymreig iddi hefyd, gyda Trystan Gravelle o Lanelli yn chwarae rhan Greg, perchennog siop goffi a chymar Kim Vogel sydd SBOILAR! SBOILAR! wedi newid ei rhyw.

Tydi ddim yn hawdd i’w gwylio ar adegau - meddyliwch am gorff a llif gadwyn - ond pwy sydd isio bwyd llwy syrffedus o Call the Midwife bob tro? Braidd yn llugoer fu’r adolygiadau cychwynnol, ond wfft iddyn nhw, dw i wrth fy modd. A jyst fel ydych chi’n dechrau coelio cymeriad, mae’r sgwenwyr yn llwyddo i sgubo’r carped o dan eich traed.

Dw i’n dechrau ofni’r gwaethaf am Mme Baptiste a’i hwyres fach yn barod...

  • Trapped // BBC Four // Nos Sadwrn 9-11
  • Baptiste // BBC One // Nos Sul 9-10