Ewropa



Arvingere - Lleifior Denmarc


Aeth 31 Ionawr heibio gan adael cawl potsh o emosiynau yn ei sgil. I mi, teimlad o dristwch, dicter, dryswch, ac ie, yr ystrydeb Gymreig honno o hiraeth. Hiraeth am rywbeth saff a sicr a gymerais mor ganiataol gydol fy oes. Diolch byth, felly, i BBC Four, Netflix a Walter Presents (hefyd ar S4C Clic gydag isdeitlau Cymraeg) am fy mhasbort parhaol i ddramâu tan gamp o dir mawr Ewrop. Dw i'n pasa trefnu gwyliau gwanwynol â naws ditectifs drama. Gyda thocyn awyren rhad (sori, Greta) a llond llaw o kronor, gobeithiaf ddianc rhag jingoistiaeth anochel gŵyl banc Mai yr 8fed yn Great Brexitshire, a mynd i’m hoff ranbarth a enwyd gyda'r hapusaf yn y byd - Sgandinafia. Os na fydd COVID19 yn rhoi’r farwol i bethau. Y tro hwn, de Sweden sy’n galw, a dinas glan môr Malmö sydd mewn lleoliad tsiampion ar gyfer gwibdeithiau 30km i'r gogledd i Copenhagen a 60km i'r de i Ystad.



Ystad, swydd Skåne, a ddaeth yn enwog diolch i un ar ddeg o nofelau Henning Mankell am y ditectif pruddglwyfus Wallander. Cefais fy hudo’n lân gan yr addasiad teledu Swedeg rhwng 2005 a 2013 (a’r fersiwn Saesneg ddiweddarach gyda Syr Ken Branagh) ymhell cyn i’r guardianistas ddarganfod ‘nordic noir’. Mae'r golygfeydd o’r caeau hadau rêp melyn llachar, yr adeiladau fferm fframwaith coch a’r traethau unig lle’r âi Kurt a Jussi ffyddlon am dro hir dan awyr lwyd ddiderfyn, wedi’u serio yn fy nghof. Roll on fis Mai! Mae gan y Swediaid sawl ‘hit’ isdeitlog yn eu meddiant, yn enwedig Bron / Broen (2011-2018) ysgubol a gynhyrchwyd ar y cyd â'u cymydog-weithiau-gelyn o Ddenmarc. A bydda i’n dilyn ôl troed Saga Norén - neu ei Porsche 911S olewydden yn hytrach - dros yr enwog Øresund sy'n pontio’r ddwy wlad, â’r gân iasol honno yn troi a throsi yn fy mhen. Ond y llwyddiant digamsyniol diweddar oedd The Truth Will Out (Det som göms i snö) ar Walter Presents), drama ddirgel seicolegol yn seiliedig ar stori wir (coeliwch neu beidio!) am griw sy’n agor hen achosion gwaedlyd yn sgil honiad newydd ysgytwol wrth i’r llofrudd cyfresol adael carchar. Gyda'r ditectif trwblus Peter Wendel (Robert Gustafsson) yn arwain criw bach anghymarus, mae’n ras yn erbyn y cloc wrth i’r drwgweithredwr beryglu un o weinidogion llywodraeth Stockholm. Ac oes, mae yna olygfeydd llawn eira.

Cafodd y Daniaid hwythau glod a bri byd-eang byd diolch i dditectif benywaidd galed mewn siwmper Ffaroeaidd (Forbrydelsen 2007-2012) a llywodraeth glymblaid â lampau secsi (Borgen 2010-2013). Ffefryn personol arall oedd saga fodern am frodyr a chwiorydd cecrus yn dychwelyd i blasty blêr y teulu wedi marwolaeth eu mam, arlunydd o fri cenedlaethol. Roedd Arvingerne (The Legacy, 2014-2017), a welwyd ar Sky Arts prin ei sylw, yn llwyddo i ’nghyfareddu a’m llethu bob yn ail diolch i ambell gymeriad a phlot ffuantus. Hynny, a’r credits agoriadol crefftus i gyfeiliant swynol Nina ‘The Cardigans’ Persson.




Dyma flas ar uchafbwyntiau dramatig eraill yr UE:

Belgique O wlad Tintin y daw La Trêve (The Break, 2016-2018) am y ditectif o Frwsel Yoann Peeters sy’n dychwelyd (yn annoeth) i'w wreiddiau yn ardal wledig yr Ardennes - lle mae ymchwiliad i farwolaeth pêl-droediwr ifanc addawol o Affrica yn arwain at bartïon S+M ar fferm leol, llond coedwig o gyfrinachau a phenaethiaid heddlu llwgr.





Catalunya Tro bach i Barcelona fodern yn Nit i Dia (Night and Day, 2016-presennol), wrth i'r patholegydd fforensig priod Dr Sara Grau sy'n archwilio i gorff arall ddarganfod iddi gysgu gyda’r llofrudd posib. Gyda mwy o droadau na'r A470 rhwng Dolwyddelan a Betws.

Česká republika Cyfres fer Hořící keř (Burning Bush, 2013) dan law’r cyfarwyddwr Pwylaidd o fri Agnieszka Holland (ffilm Mr Jones), wedi’i gosod ym Mhrâg dan oresgyniad y Sofietiaid, reit ar ôl i Jan Palach, myfyriwr 20 oed, ladd ei hun yn wenfflam ar Sgwâr Wenceslas ym mis Ionawr 1969. Darlun dirdynnol ond cwbl hanfodol o’n hanes modern ni, sy'n ein hatgoffa pa mor bell rydyn ni wedi camu ymlaen fel cyfandir.

Deutschland Yn gyfres noir afaelgar o’r 1920au, mae Babylon Berlin (2017-2020) yn cynnwys ditectif sy’n dioddef o PTSD a theipydd sy’n ysu i ymuno â’r heddlu, gan ddatgelu byd o gyfrinachau peryglus ar y lefel uchaf wrth daro ar draws cylch porn tanddaearol. Gwledd i'r llygaid sy’n portreadu tlodi truenus a rhemp sin gabaret Gweriniaeth Weimar.

Éire Llwyddodd cyfres gyffrous, bum rhan, yn yr iaith Wyddeleg, An Bronntanas (The Gift, 2014) gyda sblash o hiwmor tywyll i ddenu fy sylw ar wefan TG4. Hanes criw bad achub tlodaidd o Gonamara sydd mewn picil moesol ar ôl darganfod cyffuriau gwerth €1m gyda dynes sy'n gelain ar fwrdd cwch a drawyd gan storm. Peidiwch â sôn am y rygbi ...

France Keystone Cops Ffrengig, gyda chyfreithwyr a heddweision yn baglu o un penderfyniad gwael i’r llall - yn eu bywydau personol a phroffesiynol - mewn Paris prin ei chyffwrdd gan Insta-dwristiaid. Gyda chyfres olaf un o Engrenages (Spiral, 2005-presennol) ar y gweill, dwi’n edrych ymlaen at weld sut fydd pethau'n gorffen i’r cariadon anghymarus Laure a Gilou, y femme-fatale fflamgoch Joséphine a grand-père mabwysiedig pawb, y Barnwr François Robin.



ĺsland Daw Andri Olafsson, pennaeth heddlu mwyaf blewog Ewrop heb os, i’r adwy yn Ófærð (Trapped, 2015-presennol), ar ôl darganfod corff-heb-ben ar fferi sy’n sownd mewn tref borthladd anghysbell. I waethygu pethau, mae eirlithrad yn bygwth y dref ym mhellafoedd gogleddol Gwlad yr Iâ. Roedd yr ail gyfres yn chwarae politics, gydag eithafwyr asgell dde yn peryglu gwleidyddion a gwerin gwlad fel ei gilydd. Antidot iasol perffaith i'n gaeafau soeglyd ninnau.





Italia Efallai fod BBC Four wedi mopio braidd gyda'r arolygydd smala Montalbano, ond dwi heb fy argyhoeddi. Mae’n well gen i Non uccidere (Thou Shalt Not Kill, 2015-presennol) Walter Present, wrth i’r ditectif Valeria Ferro ddefnyddio ei chweched synnwyr i ddatrys troseddau yn ninas ysblennydd Torino wrth frwydro yn erbyn gwewyr personol pan ddaw ei mam allan o’r clinc. Doedd y firws heb daro yma eto.



Nederland Ar gyfer cyfresi iaith Iseldireg, rhowch gynnig ar Overspel (The Adulterer, 2011-2015) am ffotograffydd proffesiynol Iris van Erkel-Hoegaarde (ceisiwch ddweud hynny ar ôl ambell Witbier) sy'n cwympo dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ffwdanus â’r twrna priod Willem Steenhouwer, y mae ei deulu-yng-nghyfraith yn ymhél â chytundebau busnes amheus a chorff yn y gamlas.

Norge Iawn, efallai dyw Norwy ddim cweit yn aelod-wladwriaeth yr UE ond mae’n llwyr haeddu cydnabyddiaeth yma. Os ydych chi'n dyheu am aeaf go iawn, Wisting (2019) amdani lle mae’r cawr mwyn o dditectif a'i boen-yn-tîn o ferch o newyddiadures yn brwydro trwy luwchfeydd mawr i ddal llofrudd cyfresol. Draw ar Netflix, mae Okkupert (Occupied, 2015-2020) wedi'i gosod yn Norwy’r dyfodol agos sydd dan feddiant y Rwsiaid, yng nghanol argyfwng ynni’r byd.



Lle rois i ’mhasbort gwin coch ’dwch?