Yr Alban a ni



Ah, Alban ddewr! Pob parch, ond dwi di laru efo chdi. Wedi cael llond bol ar fwrw golwg eiddigeddus arnat o’r parthau hyn. Ie, Alban pleidiol i Ewrop, gyda phrif weinidog arlywyddol sydd ben ag ysgwydd uwchlaw unrhyw wleidydd arall yn y tipyn ynysoedd 'ma ar hyn o bryd. Alban lle gorymdeithiodd 80,000 ar strydoedd soeglyd Glasgow i ddangos eu cefnogaeth ddi-droi'n-ol i annibyniaeth. Alban hyderus ei hunaniaeth ym mhob agwedd ar fywyd - addysg, cyfraith a threfn, y wasg, celfyddydau - â’i hacen yn ewn o gyfarwydd i bedwar ban. Mater arall ydi sefyllfa’r iaith frodorol, ond testun colofn arall ydi honna. Mae ganddi ei sianel ddigidol benodol ei hun gan y Gorfforaeth Brydeinig hefyd, BBC Scotland, gan gynnwys awr o newyddion nosweithiol The Nine yn edrych ar y byd o safbwynt Albanaidd. Darlledwyd un o uchafbwyntiau dramatig 2019 ganddi hefyd. Guilt, am sgileffeithiau damwain feddwol wedi parti priodas ar ddau frawd anghymarus Max a Jake (Mark Bonnar a Jamie Sives) gyda dos go lew o hiwmor ddu bitsh yn swbwrbia ac isfyd gangstyrs Caeredin. Chafodd hon mo'i heipio i'r byw, ac mae'n ganmil gwell o'r herwydd ac yn haeddu'ch sylw. Mae'r actorion yn bownsio oddi ar ei gilydd, y deialog yn llifo a'r hiwmor yn codi'n naturiol o'r stori, a chast o Albanwyr yn bennaf 'blaw dwy Saesnes er mwyn plesio rUK. Alla i ond breuddwydio am rywbeth cyffelyb cyfoes, clyfar gan BBC Wales, nad yw'n gynhyrchiad cefn-gefn â S4C nac wedi'i sgwennu o safbwynt Sais.

Daliwch i fyny arni.


The Nine


Yr euog a ffy - Mark Bonnar + Jamie Sives 


Nos Wener, darlledwyd y bennod gyntaf mewn cyfres ddirdynnol o bedair ar Channel Four - Deadwater Fell - gyda llond cast o Albanwyr go iawn fel David Tennant am feddyg dan amheuaeth o ladd ei deulu cyfan mewn tân ym mhentref dychmygol Kildarroch. Cymharwch hynny â chyfres bedair rhan arall gan yr un sianel a welwyd cyn Dolig, The Accident, wedi’i gosod yng nghymoedd y De - gydag Enw Mawr o Loegr (Sarah Lancashire) ac eraill fel Joanna Scanlan yn Troseddu yn Erbyn yr Acen Gymreig tra’n hwrjio actorion cynhenid-cystal-os-nad-gwell fel Eiry Thomas i’r cyrion. Ac ar hyn o bryd, mae cyfres ddirgelwch arall ar ITV, White House Farm, wedi llwyddo i wneud smonach o bethau trwy gastio’r sgowsar bach enwog Stephen Graham fel DCI Tom ‘Taffy’ Jones (plisman go iawn mewn achos go iawn). Ffycsecs, pam na roddwyd y swydd i rywun fel Ieuan ‘Sarjant James’ Rhys, ein plismon drama enwocaf ni? Ydy actorion o Gymru’n ymgeisio am y rhannau hyn o gwbl, neu’n cael eu hanwybyddu’n rhacs gan gynhyrchwyr o Loegr byth a hefyd? Hyn mewn cyfnod pan rydyn ni’n allforio’n hactorion i’r West End a Hollywood ar yr un raddfa â disgyblion Cymraeg i Oxbridge.

Uffern ar y ddaear teledyddol

A pheidiwch â dechrau gyda chyfraniad diweddaraf BBC Valleys/England-in-Wales i fyd comedi. Mae holl bosteri cyhoeddusrwydd The Tuckers - Dai foliog mewn sgwter, Mam siarp ei thafod, sgrownjar mewn tatŵs a thracis, menyw sengl ar stepen drws ei thŷ teras - a welais ar dinau bysus Caerdydd yn ddigon drwg. Mae'n sgrechian "brexshit" i mi. Er, mae un o drigolion y Falis bondibethma, Leanne Wood i'w gweld yn ffan.



Diolch i dduw am ail gyfres o’m hoff gomedirama ar netflix penwythnos nesa. Er bod Sex Education, rhyw (bwm! bwm!) hybrid od-ond-llwyddiannus o ysgol uwchradd Americanaidd ag acenion Prydeinig, ffasiwn a Mini Metros o'r 80au a gliniaduron a hunluniau’r 2010au, wedi’i ffilmio ar hen gampws Caerllion a chefn gwlad godidog Sir Fynwy - does dim byd neilltuol o Gymreig amdani. Heblaw am bit-part Lisa Palfrey. Ac eto, mae logo ac enw Llywodraeth Cymru’n amlwg iawn ar y credits clo.

Petai llywodraeth y Bae ond wedi bod yn ddigon hyf i fynnu bod Sex Education - a welwyd gan 40 miliwn o aelwydydd yn yr Unol Daleithiau’n unig y llynedd - yn defnyddio actorion Cymreig-yn-bennaf law yn llaw â Gillian Anderson, yn gyfnewid am nawdd ariannol hael i ffilmio yma. 

Petai ond gennym hyder yr Albanwyr.


Hysbysfyrddau Cymraeg y gyfres gyntaf
"Mae yna ormod o bwyslais ar brofiad"

Asa Buttefiled (Otis) a Gillian Anderson (Dr Jean Millburn) fel y mab a'r fam o therapydd rhyw