Gwylio dros y gwyliau



Sdim byd fel gwylia’ traddodiadol adra’ i wneud i rywun werthfawrogi’r pethau bychain. Yr ‘adra’ gwreiddiol hynny yw, bro eich mebyd, y mae rhywun yn dal i ddychwelyd ato o’u hail gartref. Yr adeg o’r flwyddyn lle mae amser a’r diwrnodau’n ymdoddi’n niwlog i’w gilydd, ymestyn hen gemau bwrdd o gefn y cwpwrdd, deiet ôl-Dolig yn gigach oer a gormod o focsys siocled wrth erchwyn y soffa, mynd am dro ffres cyn dychwelyd at danllwyth o dân, ac S4C yn hawlio’r bocs. Achos does dim wi-fi ar yr hen aelwyd, felly dim gloddesta ar bopeth netfflicsaidd neu bocsets bwygilydd. 



Tymor y gwylio byw felly, yn amrywio o gamprwydd Parti Dolig Magi Noggi (a’i gwesteion Elin Fflur, Ifan JW, Alun Williams a’r Prifardd Gruffudd Owen a chesys Merched y Wawr Llanfair Mathafarn Eithaf) i garolau Dechrau Canu Dechrau Canmol o’r Wyddgrug. Rhifynnau arbennig o gyfresi poblogaidd fel Prosiect Pum Mil emosiynol o G’narfon i Gwesty Aduniad (ddim mor emosiynol). Roedd y bennod ddilynol am ddyn yn chwilio am hanes ei dad go iawn, milwr Lwcsembwrgaidd o'r ail ryfel byd, yn llawer mwy dirdynnol. Awr o Pobol y Cwm gyda’r dos tymhorol o chwalfa briodasol (Tyler ac Iolo, neu TyLo i’r selogion), torcalon straeon dementia a mabwysiadu, a damwain car ar stryd fawr berycla' Sir Gâr. Doedd Cefn Gwlad: Seindorf Arian Crwbin heb daro tant sawl aelod hŷn o’r teulu, gyda lot yn awgrymu ei bod hi’n hen bryd i Dai roi’r ffon fugail yn y to. Diolch byth am lyfrau newydd difyr gan Aneirin Karadog, Simon Reeve, Gwen Parrot a Levison Wood i fwrw’r nosweithiau. A diolch i’r drefn am adolygiadau Siân Harris a Tudur Owen O’r Diwedd 2019, gyda sgetshis smala am ffarmwr Brexitaidd o Fôn, cyfres P’nawn Da, sbŵff yr Alexa Cymraeg (“Alwena”), cic Eve Mylesaidd i Huw Onllwyn a fersiwn ratach Gymraeg o Fflîbag. Ac yn y Saesneg, bu cryn edrych mlaen at aduniad hirymarhous Gavin and Stacey y bu cryn ffỳs a ffwdan amdani wedi’r darllediad - cynnwys y gair “ff” yn neuawd (drwg)enwog y Pogues a Kirsty MacColl a’r cyhuddiad fod y sgript yn chwerthin am ben y Cymry - er mod i’n bersonol ei gweld hi’n chwerthin am ben dwpdra cariad newydd Smithy ar ymweliad-tro-cynta â’r Barri. A gan mai hon oedd llwyddiant ysgubol y Bîb Dolig yma, mae’n anorfod y gwelwn ni fwy o sbeshals neu hyd yn oed gyfres arall yn y dyfodol. Efallai fod James Corden megis Marmite i lawer, a tydw i ddim yn ffan enfawr o’r Brit Rob Brydon chwaith. Ond mae Alison Steadman yn ddigon o abwyd i mi’n bersonol.

Ond ar ôl dychwelyd i’r brifddinas, a’m set deledu clyfar sy’n caniatáu i mi ddal i fyny ar bethau, dyma ymgolli’n llwyr yn arlwy noir ddiweddara BBC Four. Cyfres deg pennod Wisting o lyfrau Jørn Lier Horst am dditectif a gŵr gweddw sy’n ymchwilio ar y cyd â’r FBI i serial killer ganol gaeaf noethlwm Norwy. A ninnau heb weld ’run pluen yng Nghymru eto'r gaeaf hwn, mae hon yn drwch o eira a dirgelwch Nadoligaidd i hoelio’ch sylw dros y nosweithiau Sadwrn atmosfferig nesa.