Mae noson dywylla’r flwyddyn wedi pasio, gyda gwrachod ac ellyllon bach sy’n hofran ar Haribos yn mynd o ddrws i ddrws i’n llusgo ni oddi wrth y teli bocs. A dw i wir wedi mynd i ysbryd (bwm! bwm!) pethau eleni wrth fwynhau cyfres oruwchnaturiol newydd Sky One â stamp hynod Gymreig arni.
A Discovery of Witches sy’n seiliedig ar drioleg All Souls Deborah Harkness - ffuglen hanesyddol am wrach yr 21ain ganrif sy’n llwyddo i ddal gafael ar lawysgrifau hudol hynafol o’r Bodleian, Prifysgol Rhydychen, gan bechu llond llyfrgell o gr’aduriaid arallfydol eraill sydd â’i bryd arni ers sawl canrif. Cyn hir, mae ei pherthynas â phishyn lleol sy’n digwydd bod yn fampir Ffrengig 1,500 oed - ydi, mae myfyrwyr Oxbridge yn rhai od ar y naw - yn codi gwrychyn gwrachod, diafoliaid a fampirod eraill sy’n daer yn erbyn unrhyw lapswchan a lol felly rhwng y rhywogaethau. Iawn, enwau mawr y byd actio Saesneg ydi’r rhan fwyaf o’r actorion a dim ond dau Gymro a welais hyd yma - Owen Teale a Trystan Gravelle. Craffwch ar y credits clo, fodd bynnag, ac mae cryn dipyn o enwau Cymraeg yn gweithio tu ôl i’r camera ac yn ennill bywoliaeth yn eu mamwlad.
Wedi pennod agoriadol araf fel malwen, mi ddeffrodd gryn dipyn wrth i’r digwydd neidio o Brydain i Fenis a Ffrainc. Ac eithrio’r ddau leoliad ola, Cymru swyngyfareddol ydi’r prif leoliad ffilmio - gyda phlasty a gerddi Aberglasney yn cogio bod yn gartre’ tylwyth de Clermonts yn Ffrainc, Llyn y Fan Fach yn chwarae rhan ucheldir yr Alban, a Llys Insole, Llandaf fel fflat gothig rhyw ddraciwla neu’i gilydd. Ac mae’r setiau dan do ’sblennydd wedi’u hail-greu yn Wolf Studios Wales, nepell o gartref Eisteddfod Genedlaethol y Bae eleni. Efallai bod yna rhyw dwtsh o CGI yma ac acw, ond mae gennym ni leoliadau a golygfeydd diguro ar gyfer cynyrchiadau ffantasïol fel hyn.
Ystyriwch boblogrwydd yr ynys werdd fel lleoliad ffilmiau Star Wars a chyfres wirion o boblogaidd Game of Thrones ledled y byd, ac sy’n denu ymwelwyr llygaid-sgwâr sy’n ysu i ddilyn ôl traed eu hoff gymeriadau. Mae’n hwyr glas, felly, i Lywodraeth Cymru a Visit Wales wneud llawer LLAWER mwy i hyrwyddo’n gwlad fel cyrchfan amlwg y sgrin fach. Wedi’r cwbl, fe es i Ddenmarc yn unswydd i ddilyn ôl traed rhai o’m hoff dditectifs a gwleidyddion ffuglennol, o bencadlys y Politi i risiau’r senedd-dy.
Mae’n rhyfedd, fel gwlad y Mabinogi, cromlechi dirgel ac ambell UFO, nad oes gennym ni gyfres ffantasïol Gymraeg heddiw. Diffyg dychymyg? Diwedd y gân? Wn i ddim. Ond mae gen i frith gof o Arachnid tua’r flwyddyn 2000, gyda Myrddin (Dewi Rhys Williams) a Rhiannon (Grug Maria) y ficer megis Mulder a Scully Cwmrâg yn ymchwilio i’r anesboniadwy yn yr hen Ddyfed. A beth ar y ddaear ddigwyddodd i’r ailwampiad ffres a modern o Gari Tryfan a ymddangosodd fel ffilm Dolig ychydig flynyddoedd yn ôl?
Un arall o’n hallforion llwyddiannus ydi Rhys Ifans, bellach yn seren cyfres ysbïo newydd ar sianel More4, ddwy flynedd wedi’r premiere yn America. Yn Berlin Station, mae’n chwarae rhan Hector DeJean, aelod sinigaidd o’r CIA sy’n orhoff o nosweithiau tecno a thactegau amheus i gael y maen i’r wal. Ddim ’mod i’n deall pob dim bob amser, ond mae’r digwyddiadau a’r lleoliadau yn dwyn i gof hen ddyddiau’r Llen Haearn.
Mein Gott, es ist gut
Mae yna drip arall ar y gweill yn 2019.