Ychydig yn ôl, fe sgwennais i argymhellion am
gyfresi dramâu da i’n cario drwy felan mis Ionawr ac anghofio am fanion
Brecshitaidd a biliau’r Dolig. Roeddwn i’n edrych ymlaen at yr arlwy felly...
ond pylu wnaeth y mynadd a’r diddordeb erbyn 2il bennod sawl un ohonyn nhw. I
ddechrau wrth fy nhraed, ac mae Craith
yn dal ynddi, serch yr acenion Llanbobman ym Mangor a’r cylch. Iawn, digon teg,
dinas prifysgol gosmopolitaidd a ballu. Yna, Cardi blin, masweddus o asiant dai
lleol (Gwydion Rhys) sy’n plagio ei gyn-gariad. A ffarmwr(?) o Sir Gâr (Ioan
Hefin) yn gymydog amheus sy’n ffeindio Dylan yn cysgu ei fan goch yn y goedwig
ddu. Mae. Isio. Gras. Ond, dw i bellach wedi gorfod derbyn yr amryfusedd hwn ar ran y criw
castio, a’i mwynhau fel drama llawn awyrgylch, y goleuo a’r camera celfydd, actio
grymus (Owen Arwyn et al) a’r berthynas gynnes rhwng y ddau brif gopyn, Cadi John
ac Owen. Mi fydd Sian Reese-Williams, gynt o Emmerdale a 35 Diwrnod III
i’w gweld mewn cyfres oruwchnaturiol am fabi aeth ar goll flynyddoedd yn ôl ar
rwydwaith y Bîb yn fuan hefyd – Requiem
- cyfres wedi’i ffilmio’n ardal Casnewydd yn bennaf, ond hefyd llefydd randym
eraill fel pentref Nelson ger Caerffili, a Dolgellau! Cast Seisnig ar y naw ar yr olwg gyntaf,
Awstraliad a llond llaw o’r natives (Sian,
Ifan Huw Dafydd, Richard Harrington a Dyfan Dwyfor) a chynhyrchiad ar y cyd â
Netflix, sy’n sicr o ddenu gwylwyr rhyngwladol.
Mae’n debyg bod y
Geordies-smâl ar Vera yn gwylltio/poeni’r brodorion fyny fan’cw hefyd,
ond dw i’n ffan fawr o Brenda ‘Pet’ Blethyn a chriw Northumberland &
City Police ers y gyfres gyntaf saith mlynedd yn ôl ac wedi darllen nofelau
gwreiddiol Ann Cleeves ymhell cyn hynny. Unwaith eto, mae’r golygfeydd a’r
gwaith camera yn cydio - gyda straeon yn mynd â ni o’r South Shields
ôl-ddiwydiannol i arfordir gwyllt Bae Whitley ac Ynysoedd Farne, o weundiroedd
gwyllt Northymbria i strydoedd slic Newcastle. Dw i’n cymharu prisiau
hedfan/trên o Gaerdydd wrth deipio’r hyn o eiriau...
Ac mae dwy awr o’r
ditectif rwsut-drwsut hon yn golygu ’mod i wedi dileu McMafia o’r
amserlen nos Sul, ar ôl sticio efo hi am dair pennod. Am laddfa. Roedd y
pendilio cyson o Lundain-ski i Foscow, ac o Brâg i Haifa a Monaco yn apelio i
ddechrau, ond y plot slô bach ac ambell actor stiff (James Norton y darpar Bond
wir!) yn llethu rhywun. I’r bin â hi felly, yn union fel Silent Witness.
Rhyw berthynas garu-gasau fuodd rhyngof i a’r patholegwyr drama erioed, a tydw
i heb ei chymryd o ddifrif ers sgetsh enwog French & Saunders, ‘Witless
Silence’ flynyddoedd yn ôl. Mae Emilia Fox yn bwrw iddi’n syth o foutique drytaf
Knightbridge i ddatrys cliwiau a sarnu heddlu lleol, yn cael ei hun mewn
anturiaethau annhebygol o Fecsico i Dde Affrica, ac yn llwyddo i roi’r farwol i
bob ffrind agos neu gariad posib. Digon yw digon, BBC.
Mae Kiri
yn dal i ennyn diddordeb bob nos Fercher hefyd. Un fantais yw mai cyfres fer o
bedair yw hi, ac mae Sarah Lancashire wastad yn apelio (er dyw brodorion Bryste
ddim cweit yn siŵr beth i’w wneud o’i hacen Vicky Pollard-aidd chwaith). Wrth
gwrs, mae wedi pechu gweithwyr cymdeithasol yn uffernol yn ei phortread o
ddynes sy’n mynd â’i mwngral i’r gwaith ac yn cadw fflasg o wisgi gyda’i llyfr
achosion. Ac mae’n hwyl chwarae gêm “mi wela i... Gaerdydd” weithiau, yn
enwedig y swyddfa heddlu ganolog ym Mharc Cathays.