Llanast!





Hen fasdad ydi mis Ionawr. 

Diffoddwyd goleuadau’r ŵyl gan adael ein strydoedd fel y fagddu a’r ysbryd yn dduach. Mae cloc y corff wedi rhewi ar 26 Rhagfyr, ac mae’r “Bs” yn fygythiad parhaus - biliau a Brecshit.

Does ryfedd mod i’n crefu am rywfaint o hiwmor, a go brin ydi hwnnw ar y teledu. Sdim llawer o chwerthin cyfredol ar S4C, ond mae ôl rifynnau’r Dolig yn dal yno i rai a’u methodd y tro cyntaf – Run Sbit Dolig (2017!), Stand yp Cymru ac O’r Diwedd 2018. Er nad oedd pob sgetsh o'r olaf yn taro tant (sbwff Top Gear am ffyrdd a system drafnidiaeth sobor Walia Wen), roedd dychan Un Bore Mercher yn berffaith ac yn llwyddo i ategu pa mor sili oedd y gyfres mewn gwirionedd gyda Sian Harries yn gwisgo’r got felen dragwyddol wrth i’w gwallt droi’n gorwynt bleriach fesul golygfa.

Diolch i dduw bod bocset Nyth Cacwn wedi diflannu beth bynnag. Wnâi fyth ddeall hiwmor y Tregaroniaid.

Ond y tonic i mi, heb os, ydi Catastrophe (Channel 4). ‘Lle ti di bod Dylan bach, achos ma hon allan ers tair blynedd a dim ond ar y bedwaredd gyfres – a’r olaf – ti’n dechrau arni?!’  Digon gwir, a diolch byth mae’r rhai blaenorol i gyd ar gael ar wasanaeth dal i fyny All4. Cyfres a enwyd o ddyfyniad o ffilm Zorba the Greek: "I'm a man, so I married. Wife, children, house, everything. The full catastrophe. Y cwpl dan sylw ydi Sharon, athrawes o Iwerddon sy’n beichiogi ar ôl bachu Rob, Americanwr sy’n dadebru o alcoholiaeth, mewn bar yn Llundain. Er iddyn nhw wahanu, mae Rob yn dychwelyd i Lundain o Boston gan awgrymu eu bod nhw’n callio a chydfyw er lles y bychan. Erbyn y bedwaredd gyfres, maen nhw wedi setlo yn swbwrbia serch yr holl feddwi a checru, bygwth ysgaru, cymodi a magu mwy o blant. Mae Sharon Horgan (chwaer cyn asgellwr Leinster ac Iwerddon Shane Horgan) yn wych o sardonig a Rob Delaney i’r dim fel yr Ianc lloeaidd, a chast atodol cryf fel y Sgotiaid Ashley Jenner a Mark Bonnar sy’n caru-gasáu ei gilydd.

Hanner awr o’ch amser wythnosol gymrith hi, ond diawcs, mi fyddwch yn chwerthin yn uchel ar ôl ebychu mewn anghrediniaeth (hiwmor tystysgrif ‘18’ ydio wedi’r cwbl) wrth yfed eich ffordd drwy weddill fis Ionawr. Nid yn annhebyg i Rob druan...

Dw i’n methu’n lân a deall pam na allwn ni greu comedi sefyllfa debyg ar S4C, wedi’i seilio ar ddosbarth canol amherffaith Pontcanna, Llandeilo neu'r Felinheli. 

Gyda Tudur Owen a Sian Harries yn y prif rannau wrth gwrs.