Dramâu parchus




Siŵr braidd fod yna gyfryngis wedi ymddangos ar lwyfan yr Urdd. P’un a aethon nhw ymhellach na’r steddfod gylch sy’n fater arall. Ond mae gormod ohonyn nhw wedi bod drwy’r ysgol lefaru / adrodd dros ben llestri. Pa reswm arall sydd dros orliwio’r gair “Bregzit” bob gafael mewn adroddiadau newyddion? Ac mae sylwebydd gwleidyddol uchel ei barch (ro'n i'n meddwl) y Bîb yn dal i sgwennu am “Fregsutwyr” yn ei flog diweddaraf. Plîs peidiwch. Rhowch gorau iddi. 'Da chi’n Cymreigio a diwyllio hen air g’neud hyll - cyfuniad o “British” ac “Exit” - nad oedd yn bodoli tan ryw dair blynedd yn ôl. Â’r newyddion dyddiol yn ddigon i roi’r felan ar unrhyw un, dw i’n dianc yn amlach nag erioed i fyd ddrama. Ar ôl osgoi’r peth gyhyd, ac anwybyddu broliant fy nghymdeithion dinesig, dw i wedi ildio i sianel danysgrifio Netflix. 

Na, nid ‘netfflugs’, ohebwyr BBC Cymru...


Dros yr wythnosau diwethaf, dw i wedi sawru thriller gwleidyddol o Canberra (Secret City 2), wedi sglaffio ail gyfres o ddrama ddirgel o dalaith Efrog Newydd (The Sinner) a thraflyncu stori am ddigwyddiad ysgytwol mewn ysgol uwchradd yn Stockholm (Quicksand). Oll ar gael fel bocsets i’w gwylio ar unwaith. Sy’n berig bywyd. Achos wrth i bennod afaelgar lifo’n rhwydd i’r llall, mae bron yn un y bore, a minnau’n flin fel Mark Francois yn y swyddfa drannoeth.




Mae ôl rifynnau Hinterland yno i rai sy’n dal i hiraethu am bach o Gardi Noir, yn ogystal â’r nesaf yn y ciw i mi - ffilm arswyd oes Fictoria, Apostle (2018) wedi’i chyfarwyddo gan Gareth Evans o Hirwaun a’i hactio gan wynebau cyfarwydd S4C. Wedi’i gosod ar ynys bellennig oddi ar arfordir Cymru, mae’n olrhain hanes gŵr ifanc sy’n teithio i’r ynys er mwyn achub ei chwaer o grafangau cwlt dan law pregethwr penwan (Michael Sheen). Mae’r dystysgrif deunaw oed a’r adolygiadau lu (“...exhilarating Netflix horror is a wild, gory surprise” o’r Guardian) yn awgrymu’n gryf nad adloniant i’r teulu cyfan yw hwn.

Fwy nag ydi Merched Parchus (Cynyrchiadau ie ie), cyfres gomedirama am ferch 30 oed o’r brifddinas a gadd ei gwrthod, sy’n dianc i fyd podlediadau am seicopathiaid Americanaidd. Ac mae dychymyg y cyw awdur Carys (Hanna Jarman) yn drên wrth iddi feddwl am wneud pethau anghynnes i gyn-gariadon, cyfryngis a’r parau insta-perffaith hynny sy’n fflachio’u gwên g'neud a’u modrwyau dyweddïo ar y we.


Ydy, mae S4C wedi cofleidio’r busnes bocsets trwy roi’r gyfres wyth pennod, chwarter awr yr un, ar wefan Clic yn gyntaf cyn y darllediad traddodiadol/hen ffash bob nos Wener ar y Sianel. Rhaid cyfaddef ’mod i’n ofni cyfres rad a chas pan weles i’r geiriau “chwarter awr” a’r “we” yn gyntaf. Ond mae’r gwirionedd yn wychach na hynny, gyda deialogi ffraeth, actio naturiol braf a chyfarwyddo celfydd, mewn cyfres sy’n dod ag elfennau Parch a Fleabag i’r cof. Fydd hi ddim at ddant pawb – mae yna dalpiau helaeth o Saesneg a ffantasïau du bitsh – ond mae’n cynnwys stamp unigryw Gymraeg (Mistar Urdd! Catrin Beard! Clwb Ifor!) ac yn greadigol wahanol i unrhyw beth a welais ar S4C ers sbel, os o gwbl.

Ac mae’n garreg filltir bwysig i’r Sianel, a ddywedodd yn ei hadroddiad blynyddol y llynedd, fod “...cyfleuster bocs set ar lein wedi cynyddu gwylio i rai cyfresi cymaint â 25%” a rhai fel Hansh yn denu “4.9 miliwn o sesiynau gwylio ar-lein - gyda mwyafrif y gwylio gan y gynulleidfa 16-34 oed”.

Cyfres arall plîs S4C. Mae’r cliffhanger yn crefu am hynny.

A rhywbeth cyffelyb wedi’i gosod yn y Gymru Gymraeg wledig tro nesa’.