Does ’na fawr ddim yn cydio ar hyn o bryd. Efallai ei bod ni’n dal mewn rhyw dir neb rhwng diwedd haf-dechrau’r hydref, tra bod Strictly, BGT a Bake Offs y byd adloniant yn llenwi’r amserlenni Saesneg. Yn y Gymraeg, mae Am Dro yn plesio llawer iawn mwy nag Antur Adre a Ffilmiau Ddoe, ond yn dibynnu'n fawr iawn ar safon a straeon y cystadleuwyr lawn cystal â'r daith gerdded ei hun. O ran y ddwy enghraifft olaf, tydi mwynhad, hwyl a chwerthin y cyfranwyr ddim cweit yn trosi'n llwyddiannus i fwynhad y gwyliwr. Dw i'n eu gweld nhw'n reit ddiflas.
Ym myd rhaglenni ffeithiol, mae'r gyfres ag un o'r teitlau mwyaf hirwyntog erioed, Trysorau Cymru: Tir Tai a Chyfrinachau yn ddifyr dros ben, wrth i'r pensaer cadwraethol Elinor Gray-Williams a'r gwamalwr Tudur Owen grwydro rhai o berlau'r National Trust (heb ei ddatganoli yng Nghymru, yn wahanol i'r Alban, felly dw i am ddal i arddel y teitl Saesneg tan hynny) o gestyll Penrhyn i Powis, Erddig i Dŷ Tredegar. Fformat nid mor annhebyg â hynny â'r Waliau'n Siarad mwy swmpus. Dw i'n dal i ddisgwyl am awgrym o ail gyfres, gyda llaw.
Ond yn ôl at fyd y ddrama. Does dim byd ar netflix/amazon prime yn hoelio’r sylw wedi’r bennod gyntaf symol, ond ar y BBC, mae’r ddrama wleidyddol Roadkill am wleidydd cynhennus (a chwaraeir gan Hugh Laurie) sy’n llwyddo i gyrraedd Nymbar Ten (swnio’n gyfarwydd?) yn edrych yn addawol. Byw Celwydd â mymryn mwy o gyllideb, ella.
Ond ffefryn clir ar BBC One yn diweddar ydi Life, cyfres wedi’i gosod mewn hongliad o dŷ brics Fictoraidd a drowyd yn fflatiau mewn ardal go swanc o Fanceinion. Cyfres sebon efo sglein, os leiciwch chi, o ysgrifbin Mike Bartlett (Dr Foster) gyda straeon personol y trigolion unigol yn cwmpasu rhai o benbleth mawr bywyd – beichiogrwydd, galar, ofn cyfrifoldeb, dadrithiad oes o briodas, alcoholiaeth, cariad o bell, diffyg hyder, hunanoldeb ac unigrwydd y ddinas. Mae unrhyw beth gydag Alison Steadman yn siŵr o fod yn werth chweil, a tydi hon ddim eithriad wrth iddi chwarae rhan Gail, gwraig briod 70 oed sydd wedi ’laru ar ŵr sy’n ei thrin fel tipyn o jôc o flaen ffrindiau a pherthnasau. Mae’r straeon a’r cysylltiadau drws nesa wedi’u plethu’n gelfydd, a’r defnydd o hiwmor a pathos mor ddidrafferth. Ydy, mae’n newid braf cael drama heb ’run ditectif na chorff ar ei gyfyl. Ddim eto beth bynnag – dw i ar bennod 5 o 6 ar hyn o bryd.
Dyma’r union math o beth sydd ei angen arnom ni’n Gymraeg y
dyddiau hyn. Drama ddomestig, gyda chast a chartrefi del, nid rhywbeth Noir-aidd
arall wedi’i chyfieithu o’r Saesneg gyda phlismyn ag acenion chwit chwat. Dim cyffuriau na phedoffelia, trais na thrybestod, iaith aflan na golygfeydd OTT o afiach. Dim ond pethau da yn digwydd i bobl dda. Pobl sy'n malio. Caru. Maen nhw yn bodoli.
Byddai'n ddigon hawdd trawsblannu Life i floc o fflatiau yn y Felinheli, Aberystwyth neu Gaerfyrddin er enghraifft, gyda chriw o Gymry proffesiynol – meddyg teulu, darlithydd, cyfryngi, llyfrgellydd, dewin TG, instagramiwr, cyfieithydd, gweithiwr cwango’r llywodraeth (â' n helpo) – yn byw a bod, caru a checru, meddwi a difaru rhannu ambell gyfrinach. A hynny'n gredadwy o Gymraeg, mewn ardal naturiol Gymraeg, heb hualau na chyfyngiadau cynhyrchiad cefn-gefn BBC Wales.
Rhyw Teulu arall, dihangfa lwyr o’r dyddiau covidus diddiwedd sydd ohoni. Mae sawl aelod o ’nheulu yn dal i hiraethu am giamocs Dr John a Morganiaid Aberaeron haf o hyd.
Beth amdani, S4C?