Lle hoffwn fod


I wlad mor fach, mae’n rhyfeddol gymaint ohoni sy’n dal yn ddieithr i mi. Dim ond y llynedd y cerddais i ben y Wyddfa fawr a hwylio drosodd i Enlli am y tro cyntaf. Ac mae ardaloedd Clawdd Offa yn ddirgelwch pur. Gobeithio y bydd Eisteddfodau Wrecsam eleni a Sir Fynwy yn 2016 yn newid hynny. Mae cyfrol Cymru – y 100 lle i’w gweld cyn marw yn drysorfa o eglwysi anghysbell, caerau hanesyddol a phlastai mawreddog, er bod ambell awgrym amheus fel Pont Hafren yn eu plith. A bellach, mae yna fersiwn teledu i’r rhai ohonom sy’n rhy arw neu ddiog i brynu a darllen y llyfr. Heb os, 100 Lle (8.25 nos Fawrth) ydi un o uchafbwyntiau’r Sianel ar hyn o bryd.

Sir Fynwy oedd dan sylw’r wythnos diwethaf, gydag Aled Sam yn cefnu ar gartrefi ffasiynol a ffuantus 04 Wal i grwydro o amgylch abaty godidog Tyndyrn, olion hen ddinas Rufeinig Caer-went a phentrefan Tryleg. Ac roedd yr awdur John Davies Bwlch-llan wrth law i’n tywys a chyflwyno’r glo mân difyr. Ystyriwch ei sylwadau smala am gastell Cas-gwent, er enghraifft. Er bod ei sylfeini ar lan afon Gwy ers 1067, dywedodd fod y cerrig newydd a ychwanegwyd gan Cadw yn debyg i rai wedi’u prynu o B&Q. Ac ar ôl cael cam gwarthus gan drefnwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, mae’n braf gweld Marian Delyth yn cael lle teilwng bob wythnos, gyda slot ohoni’n dangos ei chrefft wrth ddewis a dethol lluniau addas i’r llyfr. A beth am y cyflwynydd? Er nad yw Aled Sam â’i arddull tafod-yn-y-boch at ddant pawb, mae’n llwyddo i ennyn brwdfrydedd a chodi gwên yn tŷ ni. Er, efallai bod y Fiat bach coch yn teimlo fel rhyw gimig braidd - fersiwn newydd o Minti’r Ci hwyrach? - ac rwy’n hanner disgwyl iddo fwydro am faddondai canoloesol wrth sbecian drwy ryw siambr gladdu arall.



Gwledydd Llychlyn sydd nesaf ar fy rhestr wyliau, yn amodol ar sefyllfa’r bunt a llosgfynyddoedd stwrllyd wrth gwrs. Dwi’n darllen nofelau Arnaldur Indriðason a Henning Mankell (Wallander) fel slecs ar hyn o bryd, gyda’u ditectifs prudd a’u straeon duach na bol buwch yng nghanol gaeafau maith gogledd Ewrop. Ac am ddwy awr gyfan bob nos Sadwrn, dwi’n ymgolli’n llwyr yn ymchwiliadau’r Ditectif Sarah Lund i lofruddiaeth erchyll merch ifanc yn Copenhagen a’r cysylltiad â darpar-Faer uchelgeisiol y ddinas, yn The Killing (Forbrydelsenn). Darlledwyd y gyfres gyntaf gan Danmarks Radio yn 2007, gan ennill clod a bri Ewropeaidd ac enwebiad am wobr rhyngwladol Emmys UDA, ac mae wrthi’n cael ei haddasu i’r iaith fain gan yr Americanwyr. Gyda llaw, dwi'n amau'r tad neu un o'i weithwyr od ar y naw...

Diolch eto, BBC Four. A sori Noson Lawen a Calon Gaeth.