Iawn, oce. Dwi’n disgyn ar fy mai. Fe wnes i siarad yn rhy gynnar wrth feirniadu rhaglen gyntaf Teulu am fod yn ailadrodduszzzzzzzzz ar y naw gyda saga Hywel a Dr Manon. Bellach, mae’r berthynas ar ben (am wn i) ac wedi creu rhagor o chwalfa a chenfigen yn ei sgil. Ar y llaw arall, mae perthynas newydd yn blodeuo rhwng Dr John ac Eirlys, gan frifo Eric druan i’r byw a denu gwg (a chenfigen?) Margaret, matriarch y Morgans. Mae’n gyfle gwych i Eiry Thomas ddangos ochr newydd, fwy tyner, o’r derbynwraig fythol ffyslyd ac un o gymeriadau gorau’r gyfres. A dyw wyneb newydd y feddygfa, Dr Steffan Jones (Bradley Freeguard o Bontypridd) ddim yn plesio pawb. Mae yna gymaint yn digwydd mewn pennod awr, ac mae’n ffordd ddelfrydol o ddiogi ar y soffa ar nos Sul. Diolch i’r drefn nad yw’n bywydau ni mor gymhleth â’r criw brith hyn!
Felly hefyd teulu arall draw dros y don yn y gyfres boblogaidd Brothers & Sisters (More 4, 10pm nos Iau) gyda Matthew Rhys fel Kevin Walker y brawd iau. Mae’r teulu hwn o LA mewn gwewyr ar ôl clywed fod eu diweddar dad wedi bod yn anffyddlon i’w mam sawl tro, ac wedi gadael ambell blentyn siawns ar ei ôl! Mae’r cyfan wedi’i hactio’n dda ac yn edrych yn dda, er bod ambell enghraifft o sentimentaliaeth siwgrllyd Americanaidd yn anodd ei stumogi weithiau. ’Sdim owns o sentimentaliaeth yn perthyn i Damages (BBC One Wales, 11.10pm nos Sul) a ddychwelodd am chwip o ail gyfres nos Sul diwethaf. Wedi’i gosod ym myd didostur cwmni twrna yn Efrog Newydd, mae Patty Hewes (Glenn Close) yn hen gnawes o gyfreithwraig sydd â llond gwlad o elynion a gwaed ar ei dwylo. A chyda throeon syfrdanol yng nghynffon pob pennod, bron, mae’n hoelio’r sylw ac yn ein gadael yn gegrwth ar y diwedd. Does ryfedd ei bod wedi ennill llond cwpwrdd o wobrau Grammys a’r Golden Globes.
Efrog Newydd yw cefndir Mad Men (BBC Four, 10pm nos Fawrth) hefyd, cyfres ddrama wedi’i gosod mewn cwmni hysbysebwyr yn 1960au – lle mae dynion yn deyrn, merched yn gorfod bodloni ar swyddi teipio neu fagu teulu, pobl dduon yn gweithredu’r lifftiau, a phawb yn yfed wisgi yn y swyddfa ac yn smygu fel stemar. Mae’n gipolwg cyfareddol ar fyd sy’n ymddangos mor, mor, bell yn ôl erbyn hyn.
Ac i gloi, croeso mawr yn ôl i’r gyfres gomedi gwyllt a gwallgof 30 Rock (Five US, 9pm nos Wener) am weithwyr cwmni teledu dychmygol, gydag Alec Baldwin a Tiny Fey - sy’n enwocach am ddychanu Sarah Palin, cyn-ymgeisydd y Gweriniaethwyr ar gyfer Is-Arlywyddiaeth America. Rhowch gynnig arni, ac fe fyddwch chi’n glana chwerthin!