Gŵyl gymysg


Sut fuoch chi’n dathlu ein diwrnod cenedlaethol? Addurno’ch cartref â chennin pedr Duffydil, bwyta llond boliad o gawl, gwisgo’ch crys coch â balchder? (Os nad oeddech chi wedi’i daflu i’r bin mewn rhwystredigaeth ar ôl siom Stade de France, hynny yw). Ac i goroni’r cliché Gŵyl Ddewi, gwylio jamborî flynyddol Cân i Gymru (Avanti) o Landudno efo’r amrywiaeth arferol o flonden ddel yn galarnadu’n ddiflas, Mr Canol y Ffordd â gwên deg a geiriau giami, band ifanc yn ymdrechu’n ofer i gynnig rhywbeth gwahanol, ac ymgais arall gan Arfon Wyn. A’r cyfan am wobr hael iawn o £10,000, a’r fraint o gynrychioli Cymru yn yr ŵyl Ban Geltaidd – sydd, ysywaeth, yn debycach i ’steddfod dafarn yn Bally-K o gymharu â’n sbloets teledyddol fawr ni. Nid ’mod i’n malio llawer am y caneuon chwaith. Roeddwn i’n rhy brysur yn poeni y byddai brych Sarra Elgan yn byrstio ar y beirniaid. Dychmygwch sut olwg fyddai ar Margaret Wilias a Rhydian Roberts wedyn. Dychmygwch y ffigurau gwylio!

Fel rhan o arlwy Gŵyl Ddewi, cawsom hanes twf rhyfeddol addysg Gymraeg. Cyflwynydd Trip yr Ysgol Gymraeg (ITV Wales) oedd un o gynnyrch llwyddiannus Glantaf, y chwaraewr rygbi Nicky Robinson - mab i ŵr o Ogledd Lloegr a gwraig o Lundain. Fe ges i’n siomi ar yr ochr orau gyda safon y cyflwyno a’i arddull agos-ato, wrth iddo deithio ar fws gyda myfyrwyr Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Cafwyd casgliad o straeon gwirioneddol ddiddorol, gan ddechrau gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Aberystwyth ym 1939, i dwf a diddordeb rhyfeddol y gogledd-ddwyrain Seisnig gydag agor yr Ysgol Gyfun benodedig Gymraeg gyntaf yng Nglan Clwyd ym 1956. Soniodd yr actores Maria Pride am fwrlwm a hyder heintus ei chyd-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen o gymharu â’u cyfoedion yn ysgolion cyfrwng Saesneg y cylch. Er gwaethaf llwyddiant ysgubol ysgolion Cymraeg y Cymoedd, roedd yr adeiladau’n aml yn warthus o anaddas. Yn ôl John Albert Evans, Ymgynghorydd Cymraeg Morgannwg Ganol, “...bwcedi oedd yn cadw Ysgol Rhydfelen i fynd yn y gaeaf!”.

Er gwaethaf naws gadarnhaol y rhaglen, roedd ambell olygfa’n mynnu codi amheuon. Roedd trafodaeth rownd bwrdd rhwng criw Bro Morgannwg a Glan Clwyd yn dweud cyfrolau. Roedd hi’n gwbl amlwg mai iaith y dosbarth yw’r Gymraeg iddyn nhw, a braidd neb yn trafferthu gwylio S4/C nac yn ymddiddori mewn gwefannau na cherddoriaeth Gymraeg. Ac i gloi’r wibdaith, cafwyd sgwrs gyda’r Prif Weinidog Rhodri Morgan yn y Senedd – un o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg enwog Tŷ’r Cymry, Caerdydd, ond a anfonodd ei blant ei hun i ysgolion Saesneg.

Nyff sed.