Bu fyw a farw yn llygad y cyhoedd. Y ‘seren’ rhaglenni realaeth a ddaeth yn symbol o’r obsesiwn Prydeinig o fod yn enwog am fod yn enwog. Fore Sul y Mamau, dyma weld bod BBC News a Sky News yn rhoi sylw blaenllaw i farwolaeth Jade Goody. Talodd Gordon Brown deyrnged iddi am fod mor ddewr yn wyneb canser - a’i chanmol am godi proffil yr afiechyd ymhlith merched ifanc na fyddai fel arfer yn ystyried cael eu sgrinio. Mae’r sinig ynof yn amau fod y Prif Weinidog yn ceisio sgorio pwyntiau poblogrwydd. Cyfeiriodd y digrifwr Stephen Fry ati megis Tywysoges Diana dlawd. A gwir y gair, wrth i’r wasg a’r cyfryngau ei throi’n arwres ar ôl dod yn drydydd yn syrcas Big Brother 2002, ac yna’n hen gnawes wedi hylibalŵ ‘hiliol’ Celebrity Big Brother 2007. Yna, ei thrin â pharch unwaith eto yn sgil ei salwch angheuol - gyda’r sylw’n cynyddu wrth iddi ddirywio, a chylchgrawn clecs yn talu £70,000 am luniau priodas ohoni ag un arall o ‘sêr’ amheus byd y selebs. Tra bod un rhan ohonof yn gobeithio y bydd yr holl gyhoeddusrwydd yn creu sicrwydd ariannol i’w dau fab bach, mae’r sinig eto’n rhagweld y bydd ambell un yn manteisio’n ariannol ar eu cysylltiadau â Lêdi Di yr unfed ganrif ar hugain.
Cafodd unrhyw gwlwm Celtaidd cyfeillgar ei datod yn rhacs nos Sadwrn diwethaf wrth i’r Gwyddelod gipio’r Grand Slam am y tro cyntaf ers 61 mlynedd. Ac roeddwn i yno, yn eistedd ar flaen fy sedd ym mhair gwyllt y Mileniwm. A chan nad oes modd gweld pob manylyn lleiaf yn y fan a’r lle, dyma wylio rhaglen ola’r tymor Scrum V rhyngwladol gyda Jason Mohammad a’i westeion – Robert Jones, Gareth Edwards (yn cael seibiant o daclo’r gwrthwynebwyr yn hysbysebion doniol S4C), Jonathan Davies fel petai wedi hen flino ar y tymor, a ffefryn y ffans, y Kiwi a’r cyn-Walch, Justin Marshall. Roedd pawb yn cytuno fod Iwerddon yn enillwyr haeddiannol, a Stephen Jones yn llygad ei le wrth ddweud fod Cymru’n chwarae’n dda “mewn patshis” yn unig. Dim ond gobeithio fod Gatland wedi dysgu’i wers, ac y bydd yn pwyllo cyn agor ei geg i sbarduno’r gwrthwynebwyr y tro nesaf.
Aeth pethau’n flêr iawn ym Mryncelyn ar ôl i bethau mawr gael eu dweud yn y bennod olaf o Teulu. Ar ôl i Eirlys druan gael ei gwrthod gan Dr John, ac yntau’n gwrthod Margaret Morgan wedyn, fe aeth hi’n gybolfa o gamddealltwriaeth a arweiniodd at ddamwain car "difrifol" rhwng Hywel a’i dad-nad-yw’n-dad-iddo-mewn-gwirionedd. Penderfynodd Llŷr ddyweddïo â’i chwaer-yng-nghyfraith Catrin er mwyn etifeddu cartre’r teulu, a chafodd Llinos glec o glywed fod Danny wedi betio dros ailgynnau tân ar hen aelwyd Pen Cei. Cymhleth? Pah. Arhoswch hyd nes y drydedd gyfres…