87 munud. Dyna faint mae’n cymryd i glecs ledu o un rhan o’r Gymru Gymraeg i’r llall, yn ôl un o gymeriadau Cymru Fach (Boom Films). A hawdd gweld sut. Wedi’r cwbl, pam ffwdanu gyda Facebook pan fo gynnon ni rwydweithiau llosgachol o glos o Felinheli i’r Fro? Dim gradd coleg gwerth sôn amdani? Diawl o ots, mae Wncwl Aled neu Anti Menna yn ben bandit un o’n Sefydliadau Cenedlaethol. Cysylltiadau, nid cymwysterau sy’n cyfri.
Dyna’n fras y syniad y tu ôl i ffilm Wiliam Owen Roberts, addasiad o ddrama lwyfan Sgript Cymru (2006) sy’n bwrw golwg ddychanol ar ein bogail cenedlaethol. Seiliwyd y cyfan ar ddrama ddadleuol Reigen / La Ronde (Y Cylch) gan Arthur Schnitzler ym 1900, a oedd yn lladd ar safonau moesol byddigions Fiena ar y pryd. A ‘byddigions’ y byd Cymraeg yw cyff gwawd y ffilm fodern hon, o’r cynhyrchydd ceiliog dandi ifanc sy’n llwyddo i gael comisiwn cyfres deledu trwy gysgu gydag aelod llawer hŷn o Fwrdd yr Iaith, i’r hen wleidydd sy’n gweld symud o San Steffan i’r Bae fel cam yn ôl. Trwy gyfrwng deg golygfa a deg perthynas rywiol (ac oes, mae sawl golygfa ‘ŵ-ŷ-misus’ i ddenu chwilfrydedd a chwerthiniad hogia ifanc arddegol), mae un cymeriad yn cario’r stori i’r olygfa nesaf. Roedd ambell stori unigol yn fwy llwyddiannus na’r llall. Er enghraifft, hoffwn fod wedi cael mwy o hanes y cymeriad cychwynnol, Cliff (Gareth Pierce), milwr ifanc sy’n dychwelyd am seibiant o Basra, a llai o hanes Amanda (Nicola Beddoe), aelod anfoddog o Fwrdd yr Iaith. A go brin y byddai darlithydd Cymraeg yn mwynhau’r ‘pleser’ o gwmni un o’i fyfyrwyr ar Faes B y Genedlaethol – yn enwedig yng ngolau dydd!
Yr orau o bell ffordd oedd stori Raymond (Steffan Rhodri), canwr canol y ffordd sydd wedi cael arian Amcan Un (“Amcan Dau yw ca’l mwy o arian gan y Cynulliad”) er mwyn sefydlu canolfan ecogyfeillgar a chreu swyddi i bobl leol, fel ffordd nawddoglyd o “roi rhywbeth ’nôl i’r gymuned”. Yn y diwedd, deallwn ei fod yn destun rhaglen Panorama (tybed a fyddai Taro Naw neu Week in Week Out yn fwy realistig?) am gamddefnyddio arian Ewrop i hybu gyrfa bop myfyrwraig ifanc. Gwelwn Raymond yn bytheirio yn erbyn cynhyrchwyr y rhaglen am beryglu swyddi ac enw da’r Cynulliad, ac y byddai pobl sy’n malio am achub y blaned, fel “Bob Geldof, Bono… Dai Jones Llanilar” o’i blaid. Roedd ymateb dieiriau Alison (Victoria Pugh) yn glasur.
Cafwyd dewis diddorol o gerddoriaeth gefndir yma, o’r Cyrff i Eleri Llwyd, a delweddau sinematig arbennig gan Siân Elin Palfrey - o olwyn fawr ar Faes Caernarfon i’r Cob ym Mhorthmadog - ynghyd â clichés arferol y Bae. Mae pwy bynnag sy’n llwyddo i harddu coridorau carafán gwyliau’r gogledd yn haeddu clod. Ac mae unrhyw beth sy’n cael ei lywio gan y cyfarwyddwr ffilm enwog Marc Evans yn werth ei gweld.
Tybed faint o deips Cymru fach oedd yn gwylio’n nerfus nos Sul diwethaf?