Holi Hannah



Tri pheth sydd wedi hawlio’r penawdau’n ddiweddar. Lladron pen-ffordd San Steffan, ffars y ffliw moch, a Britain’s Got Talent. Ydy, mae sioe’r miliwnydd smýg Simon Cowell yn destun siarad rhyfeddol, a’r tabloids wedi dotio gyda chanwr ‘amatur’ nerfus o Ystradmynach nad yw mor amatur wedi’r cwbl ar ôl ymddangos yn y West End flynyddoedd yn ôl. Dwi ddim balchach. Ond dyna ni, efallai ’mod i’n cofio gormod o ragbrofion hunllefus yr Urdd ers talwm.

Nos Fawrth diwethaf, fodd bynnag, dois ar draws talent go iawn. Hannah Jones, colofnydd 36 oed y Western Mail. Roedd ei rhaglen, Fix my fat head (Prospect Cymru Wales), yn gyfuniad o ddogfen a dyddiadur fideo chwe mis i ganfod pam ei bod mor anobeithiol am golli pwysau. Hyn er gwaethaf blynyddoedd o ddeiet chwit-chwat, o Atkins for Life i lyfrau Slimming World a chrynoddisgiau’r hypnotydd Paul McKenna. Cyfaddefodd fod ganddi flys am basteiod siop fecws Greggs (“heaven and hell in four walls”) a phwdinau Efrog maint byngalo gyda chinio Sul ei mam. Toedd y ffaith fod Jonathan, ei lojar, yn coginio seigiau blasus i swper bob nos ddim help chwaith. Er iddi grïo sawl gwaith dros ei diffyg hyder a’i hewyllys anobeithiol, roedd ganddi’r ddawn a’r dewrder i chwerthin am ben ei sefyllfa. Yn dalp o gymeriad 20 stôn, fe ymchwiliodd i sawl triniaeth seicolegol ar gyfer gordewdra. Roedd rhai fel cyrsiau ‘Lighter Life’ yn annog pobl i fyw ar ryw ysgytlaeth arbennig yn lle pryd o fwyd call; eraill fel hypnotherapydd o Lundain (lle arall?) yn codi £375 yr awr i geisio datrys y broblem. G’lana chwerthin wnaeth Hannah wedi sesiwn ar y soffa. Dim ond sesiwn siarad gyda’r seicotherapydd Julia Buckroyd, a gredai fod gordewdra yn gyflwr seicolegol tebyg i anorecsia a bwlimia, oedd yn lled-lwyddiannus. Wn i ddim pa mor llwyddiannus, chwaith, wrth inni weld Hannah yn llenwi’i bol yng Ngŵyl Fwyd y Fenni tua’r diwedd.

Cafodd hynt a helynt Hannah Jones gryn dipyn o glod fel ‘rhaglen y dydd’ y Guardian a’r Radio Times ymhlith eraill. Dyna i chi dderyn prin - rhaglen o Gymru yn cael lle haeddiannol ar BBC Prydain gyfan. Efallai mai dyma ddechrau’r daith anobeithiol o gael mwy o ddoniau Cymreig ar y rhwydwaith, o’r 0.8% pitw presennol i 5% erbyn 2016. Eisoes, cyhoeddodd y BBC ei bwriad i symud mwy o gynyrchiadau poblogaidd y tu hwnt i goridor yr M25 – gyda Belffast yn gyfrifol am Panorama, Glasgow yn gorfod dioddef Anne Robinson a’r Weakest Link, a Chaerdydd yn creu Crimewatch a Casualty. Mewn geiriau eraill, cyfresi o Gymru nad oes wnelo ddiawl o ddim i’w wneud na’i ddweud am Gymru. Mwy o Hannah Jones y byd os gwelwch yn dda, nid sioe sebon wedi’i gosod mewn ’sbyty ym Mryste!

Wedi dweud hynny, dwi’n methu’n glir â deall pam fod BBC Cymru angen Casualty o gwbl o gofio bod y gorfforaeth eisoes wedi comisiynu cyfres ddrama newydd sbon o’r enw Crash! am bedwar meddyg ifanc ar ddechrau’u gyrfa mewn ysbyty dychmygol yng Nghaerdydd - wedi’i hysgrifennu gan Tony Jordan (Eastenders) a Rob Gittins (Pobol y Cwm, The Bill) a chriw o awduron ‘Cymreig’ (i gyfiawnhau galw’r gyfres yn Gymreig maen siŵr) - a gaiff ei darlledu ddiwedd 2009.

Gobeithio nad ‘gormod o bwdin’ meddygol fydd hi.