Dom Daf Du*


Sori Daf. Dwi'm yn chwerthin.

Bob bore, dwi'n gwisgo’r clustffonau ac yn gwrando ar radio’r ffôn lôn wrth wneud y siwrne feunyddiol ar lein y Cymoedd i’r brifddinas. Erbyn i griw’r Post Cyntaf ffarwelio â ni am 8.30, dwi fel arfer yn troi’n syth i Radio Wales (os alla i ddioddef acen Queen’s English ryfedd Rhun ap Iorwerth megis cyhoeddwr radio’r BBC cyn yr Ail Ryfel Byd), Radio Four neu Classic FM yn enwedig, er mwyn ymlacio’n llwyr cyn berwi ’mhen â jargons byd cyfieithu. Dwi fel arfer yn osgoi rhaglen Eleri a Daf fel y pandemig ffliw moch. Ond gan fod Ms Siôn wedi hedfan i ganol ffau’r Llewod (bwm! bwm!) yn Ne Affrica, mi rois gynnig arni eto'r bore ma. A difaru. Yn. Syth. Bin. Ro'n i'n wyllt gacwn erbyn inni gyrraedd Gorsaf Heol y Frenhines. Am ddechrau da i ddiwrnod o waith!!

Yn ystod yr hanner awr wnes i oddef, roedd perlau Daf ag Emma ‘Eden’ Walford yn cynnwys trafod pynciau o bwys fel arferion stafell molchi pobl, blewiach siafio yn sownd yn y sinc, dadlau dros adael set y tŷ bach i fyny neu ’lawr, ac adolygiad o Celebrity Masterchef gyda Derfel. Ar ôl ailadrodd cwpwl o gyfarchion pen-blwydd i Wil Sir Fôn, bu’r ddau gyflwynydd yn chwarae gêm lle’r oedd rhaid i Emma ddyfalu ym mha ran o’r tŷ y cafodd Brenin a Brenhines Serbia eu saethu’n farw ar y diwrnod hwn ’nôl ym 1903 (ymateb Emma “ym… yn y bath? Ar y bwrdd? O dan bwrdd?” ac ati ac ati). A’n gwaredo. Dwi bron yn hiraethu am Jônsi a’i falu cacan jocled a’i ensyniadau rhywiol efo Vera o Gaerwen dros gornfflêcs.

Does ryfedd fod llu o wrandawyr Cymraeg yn diffodd y weiarles i’r fath sothach diddim a disylwedd, a bod llawer fel Gareth Miles (gweler cylchgrawn BARN y mis hwn) yn galw am ddwy donfedd Gymraeg - y naill yn cyfateb i sŵn a ‘sbri’ Radio 1 a 2 a’r llall yn gyfrwng trin a thrafod a dadansoddi byd y Pethe a’r gwleidyddol ar lun Radio 4.

Ond am y tro, Classic FM amdani am 8.30 y bore. Er lles fy 'mhwysau gwaed i!!



(* neu "Bollocks Dai Black" i wrandawyr Radio Cymru).