Problemau Pobol


"Beth wedoch chi? 'Smo ni'n nymbyr wan rhagor? Wel y jiw! jiw!"


Ar un adeg, roedd gan raglenni S4C un nod arbennig yn fwy na dim byd arall. Cyrraedd brig y siartiau gwylio, a chipio coron Rhif Un oddi-ar yr hen ben di-syfl - Pobol y Cwm - a arferai ddenu dros 100,000 o selogion yn rheolaidd. Ond mae ffigurau diweddar yn awgrymu fod y sioe sebon 35 oed wedi’i thaflu oddi ar ei hechel go iawn, ac mewn dyfroedd dyfnion fel y nododd Golwg360. Bellach, dyw castiau criw Cwmderi ddim yn gymaint o atynfa ag yr oedd. Ar y llaw arall, mae poblogrwydd Y Clwb Rygbi yn cyfiawnhau’r holl ymroddiad, sylw a’r arian sy’n cael ei neilltuo i’n Gêm Genedlaethol (sori, bêl-droedwyr), yn ogystal â’r arlwy gerddorol a chyfresi natur teilwng o lwyddiannus. Ac mae’n siŵr y bydd holl uchafbwyntiau’r Llewod a’r Boks yn talu ar ei ganfed i’r Sianel.

WYTHNOS HYD 17/5/09

1. Y CLWB RYGBI - Gleision v Sgarlets 107,000
2. Y CLWB RYGBI – Sgarlets v Ulster 88,000
3. POBOL Y CWM (nos Iau) 77,000
4. POBOL Y CWM (nos Wener) 68,000
5. IOLO YN RWSIA 64,000


WYTHNOS HYD 10/5/09

1. CYNGERDD RHYDIAN 99,000
2. Y CLWB RYGBI – Gleision v Munster 85,000
3.Y CLWB RYGBI – Gweilch v Glasgow 60,000
4. IOLO YN RWSIA 56,000
5. POBOL Y CWM (nos Fercher) 54,000

Beth gythgam sydd wedi digwydd i lo pasgedig BBC Cymru? Dwi wedi’n synnu’n fawr gan y ffigyrau siomedig, rhaid dweud. Anaml iawn y bydda i’n gwylio yn ystod yr wythnos, rhwng prysurdeb paratoi swper, picied i’r gampfa neu ddarllen fin nos. Yn hytrach, dwi’n dueddol o fanteisio ar omnibws y Sul fel llawer iawn o’m ffrindiau a’m cydnabod. Trowch i wefan effeithiol a swyddogol y gyfres, ac fe welwch chi sylwadau gan ffans o leoedd mor amrywiol â Wrecsam, Manceinion, Northwich a Llundain! Ac ydy, mae’r ochr Saesneg i’w weld yn denu ymateb tipyn mwy brwd a bywiog na’r wefan Gymraeg. A dyna’r broblem. Dwi’n perthyn i deulu o Gymry Cymraeg Dyffryn Conwy sy’n dilyn rhaglenni traddodiadol fel Cefn Gwlad, Ffermio, Noson Lawen a dramâu fel Teulu yn rheolaidd… ond braidd dim Pobol y Cwm am ryw reswm. Diffyg amser ac amynedd i wylio am 8 o’r gloch ar ei ben bob noson o’r wythnos, efallai. Ond dwi’n cofio llawer mwy o wylio adeg slot saith o’r gloch ers talwm, pan arferai pawb eistedd rownd bwrdd amser swper. Heb anghofio ‘oes aur’ dechrau’r 90au wrth gwrs, gyda chymeriadau cryf, bythgofiadwy fel Glan a Mrs Mac, Teg a Cassie, Olwen a Karen y siop, Stan a Doreen Bevan, y Jonesiaid gwreiddiol a hyd yn oed Reg a’i bali Bwll Bach. Go brin y byddwn yn cofio Debbie a Dannii dan yr un gwynt...

Wedi dweud hynny, mae ’na gymeriadau da iawn yn y gyfres erbyn hyn. Mae teuluoedd fel y Monks, y Whites, a Geinor Morgan a’i merched wedi hen ennill eu plwyf erbyn hyn, mae’r cymeriad Colin yn boblogaidd dros ben, a Dai a Diane yn dwyn i gof bartneriaethau llwyddiannus eraill fel Glan a Mrs Mac. Ac mae yna fwy o siâp i deulu Penrhewl unwaith eto, ers i Eileen ddychwelyd i’r Cwm gyda’r Sioned drafferthus yn mynd benben â Denz ag Anti Marian bob gafael. Ond eto, mae ymddangosiad Sera Cracroft unwaith eto yn gwneud i rywun hiraethu am ddyddiau da Gina a Rod ddy Plod, Llew a Meira a Dic Deryn a Lisa…

Dyddiau da yn yr hen Deri


Ond dyna ddigon. Mae ddoe yn ddoe, ys dywed y Cyrff. Heddiw sy’n bwysig – ac yn broblem i’r gyfres bellach. Ond beth yw’r problemau? Beth sy’n diflasu’r ffans? Beth yffach sy’n gyfrifol am y cwymp dramatig yn nifer y gwylwyr? Dyma ambell awgrym o ddarllen sylwadau’r wefan ac eraill…

Anita v Garry Monk. Dyma’r brif faen tramgwydd. Ers wythnosau os nad misoedd bellach, mae’r gwrthdaro rhwng y ddau yma wedi rhygnu mlaen fel hen diwn gron John ag Alun, yn sgil marwolaeth sydyn Dwayne (cymeriad anghynnes nad oes fawr o hiraeth ar ei ôl ymhlith y gwylwyr beth bynnag). Gwrthdaro yw hanfod pob drama dda. Yn anffodus, mae’r storïwyr wedi gwasgu pob diferyn o’r stori hon yn sych, nes gwneud i mi newid sianel bob tro mae wyneb tin Anita (Nia Caron) yn ymddangos ar y sgrin. Mae hyd yn oed Meic Pierce, clown a thynnwr coes heb ei ail ers talwm, wedi troi’n gymeriad hirddioddefus bellach wrth geisio dal pen rheswm efo’i wraig. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar Kevin a Sheryl. Does ryfedd i Darren a Katie hedfan i Ganada bell. Na, does na fawr o hwyl yn y Deri Newydd. Ac yn anffodus, mae cipolwg ar straeon y dyfodol yn awgrymu bod gwaeth i ddod…

Y Deri newydd. Roedd hon yn broblem y tu hwnt i afael y cynhyrchwyr. Roedd perchennog Sportsmans Rest yn Llanbedr-y-fro wedi cael llond bol ar griw’r Bîb yn ffilmio golygfeydd allanol y Deri gwreiddiol yno, a phenderfynu mai digon yw digon. Roedd hi’n greisus. Doedd dim amdani ond llosgi’r hen set, ac agor y ‘Deri’ newydd yn adeilad yr Hen Orsaf (sydd wedi’i ailwampio’n amlach na chabinet Gordon Brown) reit yng nghanol set Llandaf. Ateb cyfleus a rhatach o lawer i’r criw ffilmio felly. Yn anffodus, does dim cymeriad o gwbl i’r dafarn newydd, a dyw’r ymgais i greu café quarter mewn hen bentref glofaol yng Nghwm Gwendraeth ddim yn taro deuddeg. Mae’r tu mewn yn edrych fel set deledu sigledig Neighbours, lle’r oedd yr hen Deri Arms yn fwy realistig o lawer. Ac roedd ymgais diweddar i greu diwrnod ‘Hwyl yr Haf’ yn y dafarn yn bathetig a dweud y lleiaf.

Newid cymeriad dramatig. Steffan, y Parchedig Owen Morgan, Derek a rŵan Macs. Rhai o’r cymeriadau sydd wedi dioddef pla storïwyr Pobol. Cymeriadau a ddechreuodd yn ddigon call a synhwyrol, ond a newidiodd dros nos i fod yn llofruddion/ herwgipwyr/ stelcwyr seicotig. Macs White yw’r diweddaraf yn y llinach anffodus hon, wrth iddo fethu â gadael llonydd i Izzy a throi’n hen ddiawl bach yn erbyn ei dad. Rhowch gorau i’r nonsens gwirion ’ma plîs.

Twll Triongl Llanarthur Fersiwn Cwmderi o’r Bermuda Triangle. Un diwrnod, fe’u gwelwch yn sefyll wrth stondin ffrwythau Siop Denz neu’n cael dishgled yn y caffi, a’r diwrnod wedyn does dim bŵ na be ohonyn nhw… a neb yn holi yn eu cylch. Roeddwn i wedi dechrau c’nesu at Evie, ffrind ecsentrig Anti Marian a oedd yn ymhél â byd y sêr ac ysbrydion ac ati, cyn iddi ddiflannu’n llwyr. Felly hefyd Hazel Griffiths, er bod ei gŵr Ieuan yn gymeriad rheolaidd erbyn hyn. A beth am Rhian Harries a Robert John, sydd byth yng nghwmni’r Parchedig Sab mwyach? O leiaf beth am glywed Sabrina’n cyfeirio atynt o bryd i’w gilydd, a nhwtha'n gysylltiad hollbwysig a hanes a gorffennol y gyfres fel aelodau o deulu gwreiddiol y Harrises?

Yr arwyddgan. Iawn, efallai nad yw pobl wedi cefnu ar Pobol yn eu miloedd am y rheswm hwn, ond dwi’n dal yn ei gasáu. I’r eithaf. Mae trefniant Owen Catatonia Powell o dôn eiconig ?? yn dal i ’nghorddi (get a life! meddech chi), ac yn swnio’n debycach i arwyddgan Emmerdale i gyfeiliant piano Yamaha sâl.

A dyna ni. Nid lladd er mwyn lladd ydw i. Dwi wir yn credu bod Pobol y Cwm mewn sefyllfa iachach nag y buodd ers sbel, yn enwedig ers dyddiau du cyffurgwn a gangstyrs Abertowe, ffars clwb lapddawnsio Hywel a Cassie, a’r pwyslais aflwyddiannus ar griw o bobl ifanc fel Rhodri, Erin a Kim nice but dim. Dwi wirioneddol yn malio am y gyfres, gan ei bod yn un o gonglfeini S4C. Mae pob sianel gwerth ei halen yn dibynnu ar gyfres sebon cryf i ddenu’r gwylwyr a’u cadw at weddill arlwy’r noson. Ble fuasai’r BBC heb Eastenders, ITV heb Corrie, a’r sianel Wyddelig TG4 heb Ros na Run?

Gan fenthyca un o hoff linellau’r storïwyr. “Sortwch hi mâs!”