Bwrlwm bro!


Siwpyr Cothi a Wilias ar wib rownd Cymru


Ym 1284, cynhaliodd y cythraul Edward y Cyntaf dwrnamaint arbennig yn Nefyn i ddathlu’i oruchafiaeth ar Gymru, yn ôl Iolo Williams ar S4C wythnos diwethaf. Byddai llawer yn dadlau fod y rhan hudolus hon o Lŷn yn lle chwarae i Saeson mawr a mân o hyd. Syndod, felly, oedd cwrdd â chymaint o Gymry lleol gyda Iolo a Shân Cothi yn ail raglen Bro (Telesgôp), rhan o thema ‘Crwydro Cymru’ y Sianel yr haf hwn. Os crwydro hefyd. Roeddwn i allan o wynt yn lân wrth wylio’r ddau gyflwynydd yn carlamu o un lle i’r llall, a braidd yn chwil wrth inni wibio fel gwylanod gyda chymorth graffeg googlemap-aidd. Roedd digonedd o gymeriadau a straeon diddorol, o’r dyn busnes ifanc â’i fryd ar agor cadwyn o siopau bwyd lleol i arlunwraig ym Morfa Nefyn a physgotwyr Porthdinllaen. Bechod felly iddyn nhw dorri sawl sgwrs yn ei flas, a bod y cyfan yn debycach i eitemau Wedi 7 wedi’u gludo’n sownd mewn rhaglen hanner awr. Colli cyfle braidd, gan fod y ddau gyflwynydd mor naturiol braf o flaen y camera, a’r dynion yn amlwg wrth eu boddau’n cellwair â Shân Cothi.

Wedi hanner awr wyllt, roedd hi’n braf ymuno â’r cyflwynydd dow-dow Dewi Llwyd yn Pawb a’i Farn o Washington (BBC Cymru) a phanel o enwogion fel y Prif Weinidog Rhodri Morgan ac rhyw ddau o Gymry America. Rhyw drafodaeth digon difflach a gafwyd, gyda phawb yn hapus-gytûn â chyfraniad Cymru i Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian a chyfraniad Obama i’r byd hyd yma. Yr unig uchafbwynt oedd gweld wyneb enwog o’r gorffennol yn y gynulleidfa, y gantores Iris Williams, a ofynnodd un o’r cwestiynau arwynebol, anghofiedig, hynny sy’n cloi pob rhaglen.
Trwy lwc, fe ddeffrais mewn pryd i weld wyneb arall o’r gorffennol, Amanda Protheroe Thomas - Ms Bicini S4C ar un adeg - ar raglen wleidyddol ysgafn CF99. Wrth drafod deugain mlynedd wedi’r Arwisgo, dywedodd y benfelen fod Carlo lawn mor bwysig wrth hyrwyddo Cymru heddiw. Rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs. A dyma sylwi ar deitl o dan ei henw ar y sgrin, sef Llysgennad Ymddiriedolaeth y Tywysog. Ond gan Vaughan Roderick, un o’n gohebwyr gwleidyddol mwyaf praff (trowch i’w flog ar wefan BBC Cymru) y cafwyd y sylw gorau, a’r fath newid a fu ers syrcas Castell Caernarfon - fel pwy ym 1969, fyddai wedi rhagweld y byddai plaid George Thomas a phlaid Dafydd Iwan yn rhannu gwely wrth lywodraethu Cymru yn 2009?