Wedi dweud hynny, MAE rhai pethau’n werth eu hailddarlledu. Ffilm Ibiza! Ibiza! (1986) er enghraifft, gyda Glenys a Rhisiart, Delyth a Bethan ‘Sdiwpid Piwpid’, Enfys a Lavinia – creadigaethau gwych Caryl Parry Jones. Cawsom glip sydyn ohoni ar raglen Cofio (ITV Cymru) nos Lun diwethaf, wrth i Caryl hel atgofion gyda Heledd Cynwal ac archifau HTV. Efallai bod Croes Cwrlwys mewn cawlach y dyddiau hyn, ond diawch, mae gynnon nhw ambell glasur o’r gorffennol. Gwelsom yr anfarwol Ricky Hoyw (Dewi Pws) yn mwrdro cyfieithiadau Cymraeg o ganeuon Nadoligaidd, a Spice Girls Cymru (Sidan) ym 1974. A chan fod Caryl yn un o genod y gogledd-ddwyrain, dyna esgus i ddangos yr arch-gwynwr Gwilym Owen yn cyflwyno adroddiad arbennig o’r Rhyl ym 1965 ynglŷn â diffyg Cymreictod tre’r “bingo, cwrw a tsips”. Ond yng nghanol yr hwyl a’r hiraeth braf, cafwyd rhyw bum munud difrifol wrth i Caryl fwrw bol a thrafod problemau clefyd y croen. Cyfaddefodd iddi gadw draw o Brifwyl Eryri bedair blynedd yn ôl pan roedd sgil-effeithiau’r steroid ar ei waethaf, er mwyn osgoi cwestiynau’r cyhoedd. Y wyneb cyhoeddus yn gorfod cuddio, felly. Ond buan yr anghofiwyd am hen broblemau diflas bywyd, wrth i Heledd Cynwal ddangos diffyg chwaeth yr 80au ar ei orau gyda chlip fideo ‘Shampŵ’ gan Bando.
Dyna ddigon o wylio am y tro. Mae’n bryd diffodd y sét deledu a manteisio ar dywydd siorts a sbectol haul!