Ta ta Torchwood?




Dwi’n foi reit draddodiadol ar y Sul. Mae crefydda wedi hen golli’i hapêl, ac yn fwy nag erioed bellach ers iddyn Nhw benderfynu cau capel bach Carmel. Ond mae’n dal yn ddiwrnod o seibiant, a Radio Cymru ymlaen fwy neu lai drwy’r dydd - pan dwi’n saff o osgoi’r Cymraeg bratiog a’r sothach arferol gyda seiniau a selebs Eingl-Americanaidd. Mae rhaglen sgwrsio arbennig Beti a’i Phobl yn hen ffefryn a allai drosglwyddo’n hawdd i deledu, heb son am fod yn rhad i Sianel ddarbodus ei chynhyrchu. Stiwdio fach, bwrdd a dwy gadair gyfforddus, ac ambell glip o’r gorffennol. Fersiwn well, fwy sylweddol, o’r gyfres Cofio efallai. Mae Beti George yn holwraig tan gamp, ac yn barod i fentro gofyn cwestiynau anodd a phersonol iawn ar brydiau, o gymharu â steil fwy arwynebol Heledd Cynwal. Un o’m hoff actorion, Ifan Huw Dafydd, oedd gwestai’r wythnos hon - enillydd gwobr BAFTA eleni am ei bortread o’r ffarmwr styfnig yn Martha Jac a Sianco. Soniodd am ei rannau cofiadwy eraill fel Pete Con Passionate a Dic Deryn, un o gymeriadau chwedlonol Cwmderi yn y dyddiau da hynny o ganmil a mwy o wylwyr rheolaidd. A chyhoeddodd mai fe fydd tad Nessa yng nghyfres nesaf - ac olaf - o Gavin and Stacey. Tidy!

Actor arall sydd bob amser yn plesio ydy Eve Myles, a serennodd fel Gwen Cooper yn Torchwood: Children of Earth yn nosweithiol wythnos diwethaf. Roeddwn i braidd yn nerfus cyn gwylio ffrwyth llafur Russell T Davies. A fyddai’r gwylwyr yn cymryd ati ar brif sianel y Bîb? A oedd perygl iddyn nhw ’laru gormod ar John Barrowman (Captain Jack), a gyhuddwyd o ymddangos ar ormod o raglenni’r BBC yn ddiweddar? A fyddai enw da Adran Ddrama Llandaf yn saff? Doedd dim lle i boeni o gwbl mewn gwirionedd. Roeddwn i, a miliynau eraill, wedi’n gwefreiddio o’r dechrau i’r diwedd, mewn cyfres tipyn mwy aeddfed a difrifol na’r rhai blaenorol a wfftiwyd fel rhaglen i blant gydag iaith anweddus. Roedd hi’n dipyn mwy tywyll na’r disgwyl, ac yn well o’r herwydd, gydag islais cyfoes iawn o ddiffyg ffydd y werin yn y Llywodraeth. Roedd y golygfeydd gofidus o’r milwyr yn cipio plant o’r ysgolion a’r strydoedd yn dwyn i gof erchylltra’r Natsïaid, a’r cyfarwyddwr Euros Lyn yn llwyddo i gynyddu’r tensiwn yn wych gyda marwolaeth ddisymwth un o’r prif gymeriadau, Ianto Jones. Ac mae hynny, a’r ffaith fod pencadlys Torchwood (yng nghrombil Bae Caerdydd) wedi’i chwalu’n chwilfriw gan fom, yn ategu’r sïon mai hon oedd y gyfres olaf. Byddai hynny’n bechod mawr, yn enwedig o gofio fod rhyw 6 miliwn wedi troi i wylio pob pennod - tipyn o gamp am gyfres ffugwyddonol ganol haf.

O leiaf caiff Gwen/Eve Myles seibiant i fagu teulu am y tro.